Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Osber neu Osburn Wyddel
← Nanmor, Rhys | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Parry, Parch. Elias |
OSBER, neu Osburn Wyddel, neu Osber Fitzgerald, oedd flaguryn o'r gangen Ddesmondaidd o'r cyff Gwyddelig Geraldaidd. Daeth trosodu i Gymru tua therfyn y 13eg ganrif. Dywedir' iddo ddwyn gydag ef gant o wyr meirch ar gant o geffylau gwynion, ac i'w wasanaeth gael ei dderbyn gan Llewelyn, Tywysog Cymru. Sefydlodd yn Berllys, neu lys Osber, ger Corsygedol, yn Ardudwy; ac y mae tiroedd gerllaw a elwir Berdir, neu dir Osber. Dywedir ei fod wedi priodi aeres Corsygedol, a bod y lle hwnw o ganlyniad yn eiddo iddo. Y mae olion caerfa yn weledig eto yn Berllys. Un o ddisgynyddion mwyaf anrhydeddus Osber ydoedd Dafydd ab Ifan ab Einion, cwnstabl dewr Castell Harddlech yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau. Y mae teuluoedd eraill yn Meirion yn hawlio eu disgyniad o hono.
Dywed Myrddin Fardd fod y Fychaniaid Corsygedol, yn disgyn yn unionsyth o hono.—(Gwel Achau Corsygedol, yn yr Haul.)