Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Price, Theodore

Oddi ar Wicidestun
Phylip (William) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Prys, Edmund

PRICE, THEODORE, D.D., a anwyd yn Bron y foel, plwyf Llanenddwyn, yn Ardudwy. Mab ydoedd i Rhys ab Tudor ab William Fychan, o Gilgeran. Addysgwyd ef yn Rhydychain, lle y daeth yn gymrawd o goleg yr Iesu, ac ar ol hyny yn athraw ar Hart Hall. Wedi ei raddio yn y celfyddydau, cafodd fywoliaeth yn ngwlad ei enedigaeth, trwy gael ei benodi yn beriglor Llanfair, ger Harlech, yn 1581, ac yr oedd mewn meddiant o'r segurwyd cyfoethog, sef perigloriaeth Llanrhaiadr, Dyffryn Clwyd. Yn 1596, gwnaed ef yn brepend Winchester; ac yn 1623, yn brepend Westminster. Bu farw Rhagfyr 15, 1631, a.chladdwyd ef yn Westminster.— (Wood's Athen Oxon.)


Nodiadau[golygu]