Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Richards, Parch. Thomas
Gwedd
← Richards, Syr Richard | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Roberts, Parch. Edward → |
RICHARDS, Parch. THOMAS, a hanai o deulu Caerynwch, Meirionydd. Bu yn offeiriadu yn Llansannan, sir Ddinbych, a Llanfyllin, sir Drefaldwyn, ac yn gantawr yn Llanelwy. Yr oedd yn awdwr cyfrol o farddoniaeth Lladin ar farwolaeth y frenhines Caroline, priod Sior I. Dywedai Dr. Trapp, proffeswr barddoniaeth yn Mhrif-ysgol Rhydychain, ei fod y bardd Lladinaidd goreu yn ei oes. Ysgrifenodd lythyr i'r Philosophical Transactions hanes y tân yn morfa Harlech, 1644, ac a gyhoeddwyd hefyd gan Camden.—(G. Lleyn.)