Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Roberts, Parch. Edward
Gwedd
← Richards, Parch. Thomas | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Roberts, Parch. Richard, Dolgellau → |
ROBERTS, Parch. EDWARD pregethwr ieuanc gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn mhlwyf Towyn, yn nghantref Meirionydd, yn y flwyddyn 1814. Yr oedd yn wr ieuanc o dymherau hynaws a siriol iawn wrth natur. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn 15 mlwydd oed; a bu yn pregethu am un-ar-ddeg o flynyddau, a bu farw Rhagfyr 27, 1840, yn 26 mlwydd oed. Bu am amser byr yn hynod lafurus gyda'r weinidogaeth. Arferai bregethu yn ddifrifol ac effeithiol iawn. Bu yn athrofa y Bala am ryw ysbaid, ond gorfu arno ymadael oherwydd afiechyd, ac ni bu yn alluog i fyned nemawr o'r tŷ wedi hyny.