Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Roberts, Parch. Richard, Dolgellau
Gwedd
← Roberts, Parch. Edward | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Thomas, Parch. John, D.D. → |
ROBERTS, Parch. RICHARD, Dolgellau, oedd weinidog gyda'r Trefnyddion Cafinaidd yn sir Feirionydd. Efe a ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd tra yr oedd yn ieuanc; bu 46 mlynedd yn ngwaith y weinidogaeth yn eu plith. Efe a deithiodd yn achlysurol trwy holl siroedd Cymru. Yr oedd o ran ei gymeriad personol yn ddifefl a disglaer, a byddai yn pregethu ar amserau yn rymus ac effeithiol iawn. Bu farw Mai 17, 1861, yn 76 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)