Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Rowlands, Parch. David, Bala

Oddi ar Wicidestun
Roberts, Parch. David, (Dai Glan Tegid) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Sion Dafydd Las

ROWLANDS, Parch. DAVID, Bala, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, gerllaw y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yu 1795. Pan yn 18 oed, dechreuoedd bregethu, a phregethodd yr Arglwydd Iesu yn wresog am 48 o flynyddoedd. Yn 1831, urddwyd ef yn Nghymdeithasfa y Bala. Bu am ryw ysbaid yn yr ysgol gyda'r Parch. John Hughes, Wrecsam, o Lerpwl wedi hyny; ond yr oedd wedi ei lyncu gan ysbryd pregethu yn gymaint fel na enillodd lawer o addysg; a dywedai, "ni adawaf i'r cynhauaf fyned heibio a minau yn hogi fy nghryman." Ond yr oedd yn ddigon o Sais i allu casglu mêr duwinyddiaeth y Saeson, chwynai yn fynych na fuasai yn deall y tair iaith yr oedd achos yr Iesu yn ysgrifenedig ynddynt ar y groes—y Groeg, Lladin, a'r Hebraeg. "Gŵyr pawb a glywodd David Rowlands yn pregethu fod ganddo ddull a dawn neillduol o'i eiddo ei hun heb fod neb yn debyg iddo ef, nac yntau yn ymdebygu i neb arall. Yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog, a theimlad cynhyrfiol; ac yr oedd arabedd yn naturiol iddo, a chanddo gyflawnder o hen eiriau Cymreig cryfion a mynegiadol gwledig, ac agos at y bobl, yn hynod wrth law ar bob achlysur; ac yr oedd hyn gyda'i ddull Cymroaidd a gwladaidd, yn gosod argraff anefelychadwy ar ei bregethiad.' Bu Dafydd Rolant yn hynod gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr tros ei holl oes; byddai ei wrandawyr yn rhy llosog i'r capelau eu cynwys, ymhob man braidd lle y pregethai. Claddwyd ef yn ngladdfa capel y Llidiardau, ger y Bala, a chyfarchwyd y dyrfa ar yr achlysur gan y Parch. John Parry, Bala, a phregethodd y Parch. Dr. Edwards yn y capel, o'r 1 Cor. xii. 4—6 Y mae "Cofiant Dafydd Rolant," a chofiant D. R. ydyw hefyd ac nid neb arall, wedi ei gyhoeddi gan Mr. Hughes, o Wrecsam, o waith y bywgraffydd enwog, y Parch. Owen Jones, y Tabernacl, Ffestiniog, ac awdwr athrylithgar "Cofiant Robert Tomos," o'r un gymydogaeth.


Nodiadau

[golygu]