Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Sion Dafydd Las
← Rowlands, Parch. David, Bala | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Richardson, Henry → |
SION DAFYDD, Penllyn Tegid, yr hwn hefyd a elwid "Sion Dafydd Las," ac weithiau "Bardd Nannau," a anwyd mae yn debyg yn y Pandy, ger Llanuwchlyn. Yr oedd yn blodeuo o 1650 hyd 1690. Yr oedd yn delynor a bardd, ac yn gyffredin yn Nannau. Clerwr oedd wrth ei alwad farddonol. Dywed yr Hynafiaethydd o'r Waenfawr fod ganddo lawer o'i waith mewn llawysgrifen a'u bod yn taflu goleuni mawr ar achau boneddion ei oes. Y mae "Cywydd Marwnad i Robert Wyn Hen, (A.D. 1691.) o Faes y Neuadd, yn Ardudwy," yn y Brython, cyf. IV., t.d. 264; o waith Sion Dafydd. Rhoddwn yma ddau "Englyn i Bont y Pandy," o'i waith :
Llun enfys hwylus dan haulwen,—oreudeg,
A rodir yn llawen;
Camog wych, emog wen,
Llawn ddalent yn ddwy ddolen.
Hael yw ei modd i hwylio meirch
Mawrion, a dynion dros Dwrch, [1]
A phynau hydd hoff iawn barch,
A phawb i'w man, a phob merch.
Yr ydym yn deall fod Sion Dafydd yn bur hoff o'r ddiod gadarn, dyma englyn eto a wnaeth ar ei oferedd:
Ofer pan hanner hunwyf,—a hefyd
Ofer pan ddeffrowyf;
Afradus ofer ydwyf,
Fe ŵyr Duw ofered wyf.
(Nid ydym yn hoff ychwaith o gofnodi gwendidau ein henwogion. "De mortuis nil_nisi bonum,"—"Of the dead say nothing except what is good.") Y mae llawer o'i hanes yn y Gwyliedydd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Dwrch," enw yr afon.