Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Wynne, Parch. William, A.M

Oddi ar Wicidestun
Wynne, Ellis, o Lanynys Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Enwogion Penllyn, Hen a Diweddar

WYNNE, Parch. WILLIAM, A.M, Maesyneuadd, ydoedd fab i William Wynne, Maesyneuadd, yn Ardudwy, o'i ail wraig, Margaret, merch Roger Lloyd, o Ragat, ac a fuasai o'r blaen yn briod â Meredith Lloyd, o Rhiwwaedog, yn nghantref Penllyn, a'r hon a fu farw yn 1760. Yr oedd yn gymrawd o Goleg yr Holl Saint yn Rhydychain. Cafodd ficeriaeth Llanrhaiadr-y- mochnant yn 1733, a chanoniaeth yn Llanelwy yn 1735, ac hefyd bersoniaeth Llanfechain, feallai yn lle Llanrhaiadr. Yr oedd yn gwasanaethu Llanbrynmair yn 1740–48. Ond fel offeiriad Llangynhafal a Manafon y mae yn cael ei adnabod oreu fel bardd. Y mae dau ddernyn o'i waith yn y Blodeugerdd, t.d, 321 a 521, ac hefyd ysgrif o'i eiddo ar Darddiad Geiriau Cymreig yn y Cambro Briton am 1796. Bu farw yn 1760.—G. Lleyn.


Nodiadau

[golygu]