Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Afon Cothi

Oddi ar Wicidestun
Yr Ogofau Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Attodiad

AFON COTHI

Yr ydym braidd wedi hysbyddu y testyn hwn yn ein hymdriniaeth â'r Ogofau, ac yn ei berthynas â gwrthddrychau ereill sydd wedi bod dan ein sylw yn y rhanau blaenorol o'n traethawd. Y mae y Cothi yn tarddu, neu yn suo allan, o hen gors ar fynydd a elwir "Bryn Catel," yn mhlwyf Llanddewi Brefi, uwchlaw pentref enwog Caio. Yr unig hynodrwydd sydd yn perthyn i'r afon hon yn awr, ydyw ei bod mor orllawn o bysgod. Y mae er's blynyddau bellach yn cael ei dyogelu (preserved) gan warchodwyr sydd dan amryw foneddigion, y rhai sydd wedi ymffurt yn gymdeithas i'r perwyl hwnw, dan yr enw "The River Cothi Fishing Club." Ac anferthawl y lles y mae wedi ei wneyd, drwy gario allan eu gwahanol drefniadau er sicrhau llwyddiant eu hanturiaeth. Y mae boneddigion o bob rhan o'r deyrnas yn talu ymweliad â'i glanau, er cael ychydig—dywedwn llawer iawn—o fwyniant i ddal y pysg amrywiol sydd yn awr yn lluosog yn yr afon hon. Gan fod cymaint o son am y "pysgota" ysplenydd sydd i'w gael yn Nghothi, fe dalodd awdwr y llinellau hyn ymweliad â'i glanau yn mis Awst, 1857, er mwyn dadluddedu ychydig ar ei feddwl, a chael tipyn o bleser yn y gelfyddyd ddiniwaid o "bysgota plufyn," ac ni anghofia fyth y digrifwch a'r mwyniant a gafodd yno. Fe ddaliodd ef a'i gyfeillion ddeugain pwys o frithyllod ysplenydd, a dau sewin oddeutu pwys a haner yr un!


Er fod llawer a ânt yno, hyd yn nod yn fwy llwyddiannus yn y grefft, eto, yr oeddym yn teimlo ein bod wedi cael ein gwala o ddifyrwch. Gan na adewir i garwyr y "wialen" a'r "coch-a-bonddu" bysgota yn Nghothi ar ol y dydd diweddaf o Awst bob blwyddyn, gofaled yr ymdeithwyr fyned yno cyn hyny. Y mae y Cwmpeini hyn wedi lledaenu eu golygiadau a'u gweithrediadau yn ddiweddar, ac y maent yn gwarchawd a dyogelu yr afon odidog Tywi eto.

Y pysg a welsom ni yno oeddynt y rhai canlynol— yr eog, y sewin, y brithyll, y lyswen, &c. Y mae y Cothi yn rhedeg drwy anialwch diffaeth ac annhramwyadwy braidd, i lawr i waered hyd Gwm Cothi, drwy greigiau erchyll, nes y ffurfia yn fynych yn dro-byllau arswydus yr olwg arnynt, ac ymarllwysa i'r afon brydferth Tywi, yn ymyl Pont-ar-Gothi, oddeutu chwe' milldir i dref Caerfyrddin. Y mae llawer o felinau ar ei glanau, paham hefyd na allai fod llawer iawn o weithfeydd ereill ar ei glanau, megys gweithfeydd gwlan, brethynau, &c.? Mae yn sicr o fod cyfleusterau nodedig er dwyn gwahanol orchwylion y gweithiau hyny yn mlaen, pe byddai anturiaethwyr a dynion o gyfalaf (capital) yn gwybod am y gwahanol gymhwysderau a'r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol er gwneuthur symudiadau o'r fath yn llwyddiannus. Ni a ddirwynwn ein traethawd i fyny gyda dyweyd y chwedl ganlynol:—Yr oedd hen wag o'r enw William Shôn yn byw yn yr ardal, yn y ganrif ddiweddaf, ac yn gwneyd bywioliaeth bur ddidaro drwy broffesu rhywbeth a ymylai ar gwnsuriaeth. Yr oedd yn proffesu gwella pob math o glefydau, ac i ddarllen tynghedfen dyn neu geffyl! Ni fyddai Shôn yn darllen dwfr, nac yn cynyg gweinyddu ei rinweddau, a'i gyffuriau meddygol, &c., ond cyn cyfodiad, ac wedi machludiad yr haul! Fee yr hen walch oedd fel y canlyn:—Hyn a hyn o fara ceirch dros geffyl, caws dros eidion, ac ychydig gash, fel y byddai y llogell yn caniatau, am ddarllen dwfr, neu ddarllen y dyfodiant! Yr oedd maen mawr ar lan yr afon, yn mha le yr oedd yn rhaid i'r aberthydd offrymu ei aberth, drwy osod ei offrwm dan y maen hwn; tybid mai aberth i'r duwiau ydoedd! Wedi i'r bobl ofergoelus ac anwybodus hyn fyned ymaith, ceid gweled yr hen wron yn carlamu tua'r maen, i gyrchu yr offrymau! Wrth syn-fyfyrio ar un o hen greigiau erchyll yr afon hynod hon, yn swn un o'i thro-byllau dyfn-ruol, a gweled ei physg godidog yn ymgampio mor nwyfus ynddynt, y mae ein meddwl yn cael ei lanw syndod, wrth feddwl mor wahanol ydyw pethau yn awr, ar, ac yn nghymydogaeth ei glanau, i'r hyn oeddynt yn amserau blinion ac ofergoelus ein tadau! Yr ydym yn canfod ar ei glanau anial-leoedd sydd wedi cael eu trochi a'u cysegru â gwaed ein hynafiaid! Y mae yma leoedd hefyd wedi eu cysegru gan awenydd orwisgi Lewis Glyn Cothi, gan Hymnau Dafydd Jones, gan "Athroniaeth" Lewis,[1] a chan ehediadau awenyddawl y diweddar ddysgedig Eliezer Williams. Yr ydym yn gweled lleoedd hefyd wedi eu poblogi gan y Cymry—plant y bryniau moelwylltion er's miloedd lawer o flynyddau. Ie, y mae cenedlaethau wedi wylo—wedi canu llawer gyda'r hen delyn Gymreig—wedi ymladd brwydrau anfarwol—wedi adeiladu caerau a chastelli, gwyddfâu a themlau, ac wedi myned gyda'r llif i fythol ddystawrwydd! Byd rhyfedd ydyw y byd hwn! Hyderwn ein bod fel hyn, yn frysiog, wedi bod yn llwyddiannus i brofi fod yr "Ogofau ac Afon Cothi," pentref Caio a'i hardaloedd, yn llawn o destynau gwir ddyddorol, a'u bod un ac oll yn cynwys maesydd ag sydd yn wir werth i'r hynafiaethydd droi ei olygon manylgraff tuag atynt, am fod eu hynodion a'u holion hynafiaethol, y rhai y buom yn ymdrin tipyn â hwy, yn profi eu bod yn orlawn o'r hyn a gyfansoddai lawer o fawredd, nid yn unig y Deheubarth, ond Cymru gynt. Gan orphwys mewn gobaith y bydd i hyn o hanes Cynwyl Gaio fod yn foddion i ddadblygu talentau, ac i ddwyn i'r golwg fechgyn eto o'r gymydogaeth, a fyddant yn sêr tanbaid yn ffurfafen ein llenyddiaeth, y rhai a fyddant yn llewyrchu hyd yn oes oesoedd, yn llewyrchu bri digwmwl ar eu gwlad a'u cenedl, ac yn rhai a fyddant yn foddlon i aberthu pob peth er lles "Cymru, Cymro, a Chymraeg,"—ïe, aberthu pob peth er dyrchafu eu cydgenedl mewn rhinwedd, moesoldeb, a chrefydd.

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Attodiad.