Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Cymeriadau Enwog Caio
← Philip ap Tomas Fychan, o'r Annell | Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau gan William Davies (Gwilym Teilo) |
Yr Ogofau → |
BER DREM AR GYMERIADAU ENWOG EREILL A FUONT YN BYW YN NGHAIO.
YR hyn sydd yn gosod mwyaf o fri ar bob tref, neu bentref, tŷ, neu dŵyn, ydyw, os bydd ffawd wedi taflu rywbryd ryw berson enwog i breswylio yno. Mae Stratford-upon-avon ag anfarwol fri yn ei choroni, yn unig am i'r bardd Shakspeare fod yn byw yno. Y "Deserted Village," a wnaethpwyd yn fythwyrdd drwy Oliver Goldsmith; lleoedd ereill ydynt wir enwog yn unig am yr un rheswm. Fe welir bellach nad ydyw Pentref Caio mewn un modd, yn anenwog yn yr ystyr hon, gan ei fod wedi ei fendithio à chymeriadau nodedig ac athrylithfawr. Yn mhlith y "cydser" hyn y saif enw Dafydd Jones o Gaio. Ganwyd ef yn Cwm Gogerddan, plwyf Caio, yn y flwyddyn 1710. Bu yn byw yma hyd ei ail briodas, pryd y symudodd i Hafod-dafolog, Llanwrda. Bu farw yn y flwyddyn 1777, yn 67 oed, ac a gladdwyd yn Nghrug-y-bar, ger Caio. Ei gampwaith oedd cyfieithu i'r Gymraeg "Salmau a Hymnau Dr. Watts." Daeth yr argraffiad cyntaf o'r "Salmau” allan yn y flwyddyn 1753; a'i gyfieithiad o'r "Hymnau" yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny. Yr ydoedd hefyd yn awdwr casgliad o "Hymnau," yn dair rhan, dan y titl "Difyrwch i'r Pererinion, o fawl i'r Oen, yn cynwys hymnau ar amryw destynau o'r Ysgrythyr Lân." Mae ef hefyd yn awdwr llawer o ddarnau ar wahanol destynau, yn amryw gyfnodolion ei oes. Mae ei syniadau yn ei "Salmau a'i Hymnau" yn dduwiol, ac yn dda, ac yn llawn tynerwch calon; ond nid ymddengys ei fod yn meddu awen danllyd a gwreiddiol. Nodir ei "66th Hymn," yn ail lyfr Watts, fel un o'r cyfieithiadau hapusaf yn ein iaith. Gŵr enwog iawn a fu yn offeiriad yn Nghaio ydoedd y Parch. Eliezer Williams, mab yr anfarwol Barch. Peter Williams, o Gaerfyrddin, yr hwn sydd yn adnabyddus i bob dyn yn Nghymru, yn herwydd yr argraffiad ysplenydd a ddygodd allan o'r Beibl yn Gymraeg, ysef "Beibl Peter Williams." Gorphenodd ysgrifenu ei nodiadau esponiadol, y rhai sydd mor ryfeddol o syml ac hyfforddiadol, yn mis Mai, 1770. Cynwysai yr argraffiad cyntaf 3600 o gopiau. Yr ail, yn y flwyddyn 1774, 6400 o gopiau; a'r trydydd, yn 1796, 4000 o gopiau, ond cyn gorpheniad yr argraffiad olaf, fe fu farw, yn nghanol ei orchestwaith a'i ddefnyddioldeb. Dylasem ddywedyd iddo argraffu y "Concordance" yn 1773; ac iddo argraffu 4000 o gopiau Cymreig o "Cann's Bible," yn nghyda nodiadau cyfoethawg a synwyrlym. Pwy a ŵyr—ie, pa angel a fedr ddychymygu y dylanwad moesol a chrefyddol a gafodd yr un-mil-ar-bymtheg (16,000) Beiblau hyn yn ein gwlad! Mab i'r dyn rhyfeddol yna ydoedd y Parch. Eliezer Williams, M.A. Pan oedd yn Chaplain ar fwrdd H.M.S. "Cambridge," yr ydym yn cael iddo dderbyn gwahoddiad, oddiwrth Arglwydd Galloway, i ymgymeryd â ficeriaeth Caio yn y flwyddyn 1784. Yr ydym yn cael ei fod hefyd yn hynafiaethydd enwog, yn ohebydd i'r "Cambrian Register,"[1] "The Gentleman's Magazine," &c. Yr ydoedd hefyd yn fardd galluawg iawn. Argraffodd yn 1801, ei "Nautical Odes, or Poetical Sketches, designed to commemorate the achievements of the British Navy," cyhoeddiad pa rai a ddygodd fri mawr arno. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes lafurfawr yn Llanbedr, lle y sefydlodd ysgol Ramadegawl, o ba un yr urddid cystadleuwyr i'r urdd Eglwysig. Wedi iddo arolygu y sefydliad rhagorol hwn am bedair ar ddeg o flynyddau, efe a fu farw ar yr 20ed o fis Ionawr, 1820. Cyhoeddodd ei fab, yn y fl. 1840, gyfrol wythplyg harddwych o'i weithiau yn yr iaith Saesonig, gyda'r teitl canlynol, "The English Works of the Revd. Eliezer Williams, M.A., Vicar of Lampeter, &c., with a Memoir of his Life."
Yr oedd Mr. Williams yn fardd Cymreig o enwogrwydd nid bychan. Y mae awdlau ac englynion o'i waith yn "Seren Gomer." Yr oedd yn gyd—feirniad â Iolo Morganwg, yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1824. Yr oedd yn gohebu i brif gylchgronau ei oes. Dyn mawr a gweithgar oedd hwn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwel Attodiad