Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Philip ap Tomas Fychan, o'r Annell

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Fychan o Gaio Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Cymeriadau Enwog Caio

"I PHILIP AP TOMAS FYCHAN, O'R ANNELL."

Yr anedd wrth yr Annell, (1)
Ni wn i ddyn anedd well;
Dafydd fu'n magu â medd,
Yr ynys yn yr anedd.
Yn ei ol ei nai eilwaith, (2)
A wnai â gwin yr un gwaith;
Ffurfodd yn rhodd o'r eiddaw,
Philip[1] corph Huail ap Caw. (3)
I Urien (teml Wynen lân!) (4)
Y saif âch Tomas Fychan.
Philip o ddeugyff haelion,
Yw'r ddar hir o'r ddaear hon!
Ei dad oedd frig i bob dyn,
O Rydderch, yntau'n wreiddyn;
Ei fam oedd flodau am fedd,
O Einion, yntau'n unwedd.
Y bêl, nai Esgob Eli, (5)
Ef à i'r al fry a hi,
Ef a dal cystal ag wyth,
Hyn a dalai'r hen dylwyth.
Ni wnai gwaeth, (6) yn un gŵr,
Yn y Deau, no deuwr;
Dwy wlad dano fo a fydd,
Dwy dref, a deudir ufydd;
Dau dda a lenwis dwy ddôl,
Da byw (7) wythwaith, da bathol. (8)
Mal mab i Ddyfnwal Moel Mud, (9)
Yw Philip praff ei olud;
E fesurai'n brif saeraidd,
Y grwn & hyd gronyn haidd; (10)
Un rhyw y gwna ŵyr Hywel,
Ar ei dir yr awr y dêl;
Mesur oll y maes a'r ŷd,
Ac ei erydr bob gwrhyd. (11)
Cwmwd hir tair milltir mawr, (12)
Canterw mân, cantre' maenawr.
Mae yn llaw hil Dyfnawal,
Yr erwi mawr a'r aur mâl;[2].

Y cyfoeth ef a'i cafas,
Ac ar ei ol dawn a gras.
Tir yr hynaif trwy raniad,
A rhan o dir yr hen dad;
Tai'r gorhendad, a'r tad da,
Tai'r Ewythyr fal Troia; (13)
Tai'r Sieb, lle trois y iaith, (14)
Philip a'u caffo eilwaith;
Philip a gaiff ei weled,
Yn nhai Sais, aen' hwy i sied. (15)
Cymered dai Cymaron,
Y gan fab gwinau o Fon;
Ni'm gad Philip gredadwy,
O dŷ'r medd i un dre' mwy.
Nid abl ym onid ei blas,
Nid da ym ond mab Tomas;
Ni ddof oddiwrth nai Ddafydd,
Yni ddêl y nos yn ddydd; (16)
Yni ddêl naw o Ddulyn,
Yni ddel o Wynedd un,
Yni ddêl dros ddwr Mynyw,
Y du bach a'r bwbach byw.

ESPONIADUR:—

(1) Pa le yr oedd "Yr anedd wrth yr Annell" wys? Efallai fod olion yr hen balasau y cyfeiria y bardd atynt, eto i'w canfod yn Nyffryn yr Annell. Mae'n bur debyg fod y presenawl Glan-yr-Annell wedi ei adeiladu ar safle un o'r hen balasau hyn.

(2) "Ei nai eilwaith," ysef fod Philip yn dylyn haelfrydigrwydd ei ewythr Dafydd.

(3) "Huail ap Caw," yr hwn a enwogedd ei hun gymaint yn rhyfeloedd Arthur. Rhestrir ef gyda Chai ap Cynyr Cein-farfog, o Gaio, a Trystan ap Tallwch, dan yr enw "y tri Arweinydd Coronawg mewn rhyfel." Gwel y Cambrian Biography, p. 180.

(4) "Teml Wynen lân." Myn teml, &c. "Urien." Urien Rheged, un o hynafiaid anghysbell teulu Dinefwr.

(5) "Esgob Eli." Philip Morgan, D.C.L., yr hwn ydgedd yn hanu o'r hen deulu yma. Yr oedd yn gyfreithiwr enwawg, ac yn ddiplomatydd galluawg. Fe'i penodwyd yn ganghellydd Normandy ar yr 8fed o fis Ebrill, 1418; ac a gysegrwyd yn yr Eglwys gadeiriol yn Esgob Worcester ac Eli ar y 3ydd dydd o'fis Rhagfyr, 1419. Ymddengys yn ol "Rymer's Fædera," iddo fod yn Normandy o'r flwyddyn 1414 hyd y flwyddyn 1420. Yr oedd Philip mewn bri mawr gyda'r Brenin Harri V. (Gwel ei hanes yn mhellach yn "Williams' Biographical Dictionary," tudal. 339.) Bu farw yn y flwyddyn 1435.

(6) "Ni wnai gwaeth, &c." Ni wnai lai no deuwr.

(7) (8) "Da byw," live stock; Da bathawl, coined speciæ.

(9) "Dyfnwal Moel Mud." Brenin Prydain, yr hwn, ebe rhai awdwyr, a deyrnasodd dros Brydain benbaladr oddeutu 400 o flynyddau cyn dyfodiad y Messiah; ond ffug ydyw hyny. Y mae yn enwog am y cyfreithiau a ffurfiodd; meddiant o ba rai a gafodd Hywel Dda, pan yn llunio ei gyfreithiau. Mae y "Trioedd Cyfraith" ganddo yn ei gyfreithiau. Ond y mae beirniaid enwog mewn hanesyddiaeth, megys Mr. T. Stephen o Ferthyr, yn dwyn Dyfnwal Moel Mud i waered (os ydym yn cofio,) i̇'r 12ed ganrif.

(10) "Y gronyn haidd." Yr hynafol "fesur hir" yn ngwaith Hywel Dda, megys, "y tri gronyn haidd.” (Gwel y "Myfyrian Archæology," vol. iii.)

(11) Dengys wrth yr ymadrodd yn y ddwy linell yma, fod Philip yn amaethydd brwdfrydig, ac ei fod deall ei fusnes yn dda. Mae yr aradr yn hen offeryn yn Nghymru. "Aradr yr arsang," i.e. "overtreading. plough and mattock." "This mode," ebe Meyrick, yn ei "Costume of the Ancient Britons and Irish," tudal 21; gwel hefyd arlun o honi yn plate v., p. 21, "This mode was practised by the Egyptians, and is exhibited on the walls of a sepulchre at Elcithias; the figure with the wooden plough, on which he treads (arsang) to bear it to the earth by its weight, is taken from an illumination in the British Museum, apparently about the age of the 7th century, and what is extremely remarkable, the cattle which draw the plough are the ychen banawg, literally hunched oxen, as they are represented, which do not occur in any later illumination." Mae yn debyg mae Illtud ydoedd awdwr yr "Improved Plough," yn y 5ed ganrif.

(12) Pale yr oedd y "Cwmwd hir," &c., a "Chantre' Maenawr"? Yr oeddynt yn sicr o fod yn gorwedd yn nghymydogaeth Caio.

(13) "Tai'r Ewythyr, &c." Yma mae y bardd yn cyfeiriaw at wahanol deitlau Philip i'w ystad; megys "Tai yr hynaif;" "Rhan o dir yr hen dad, a'r tad da," (taid); ac am dai ei ewythr, a ellid dybied oedd yn nwylaw Saeson,-"yn nhai Sais," &c., ac mae y bardd yn dangos iddo ei ewyllys da drwy ddymuno, "a'u caffo eilwaith."

(14) "Tai Sied," shed—a shed of land, ebe Tegid.

(15) "Aent hwy i sied." A common term for strayed sheep; defaid sied, ebe Tegid.

(16) "Yni." Hyd oni.

Nodiadau[golygu]

  1. Yr oedd y Philip hwn yn frawd i dad Harri ap Gwilym o Gwrt Meary, Liangathen.
  2. Milled Goid