Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Golygfa Ddychymygol ar y Lle Bedair Canrif Yn Ol

Oddi ar Wicidestun
Cyfoeth Mwnawl y Plwyf Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Terfysgoedd 1800, 1816, 1831

GOLYGFA DDYCHYMYGOL AR Y LLE BEDAIR CANRIF YN OL—HANESIAETH HENAFOL, DARGANFYDDIADAU—DECHREUAD A CHYNYDD DOWLAIS—ADDYSG—BEIRDD A LLENORION, &c.

Pan y mae y meddwl yn ehedeg yn ol ar adenydd dychymyg dros bump neu chwech o oesau, disgynai ar unwaith mewn rhyw fan cyfleu's ar un o'r creigiau anhygyrch a disathr a lechweddant tua'r Afon Taf, yr hon yn araf a wel yn ymddolenu rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion, a'i dyfroedd grisialaidd fel yn sibrwd yn awel dyner y dydd wrth daro yn erbyn traed y bryniau a estynent eu penau'n lled-syth tua bro asur; ar y cwr gorllewinol iddo gwelir y gornant fechan Morlais, fel yn neidio i fodiant o grombil y mynydd, gan gymeryd ei chyfeiriad yn ffrothwyllt tuag i lawr o foel ac anial fynydd Dowlais, ac un arall draw ac yma yn ymlwybro yn yr un ddullwedd tua'r gwaelodion dros anialdir anniwylliedig weithiau, a phryd arall rhwng tiroedd yn dynodi diwylliaeth a diwydrwydd dwylaw dynion, y rhai oeddynt wedi ffurfio eu cartrefleoedd un yma a'r llall draw, o'r braidd yn nghlyw uchelwaedd a ddygwydd ai yn achlysurol gan y naill neu llall. Ac yn y nos. nid oedd dim i'w weled ond ambell gipdrem yma a thraw, ar oleuni llwydwanaidd gan yr amaethwr neu rai o'i deulu wrth edrych yr anifeiliaid; ac arall a " llusern yn ei law yn brasgamu yn groesi'r caeau, gan gyfeiriro ei gamrau tua thy cymydog, i adrodd rhyw helynt neu geisio rhyw neges gan rai o'i gydnabod. Yn araf deithio dros droellau yr hen brif ffordd gyda glan yr afon oddi wrth Troedyrhiw, dacw angladd rhywun o'r plwyfolion, pob un o'r olaf gymwynaswyr oeddent naili ai yn cerdded neu yn marchogaeth, am nad oedd dim cyffelyb i gerbyd mewn ymarferiad yma y cyfnod hwnw; a phell oedd yr heol o fod yn addas i'r cyfryw beth. I Bacon yr ydym yn ddyledus mewn rhan amdani yn y dullwedd presenol. Yr oedd mor igam ogam gyda'r fath oriwaered weithiau a'r fath dylau bryd arall, fel yr oedd braidd yn beryglus i'r teithiwr ei thramwy mewn unrhyw ddull. Pan yn edrych i fyny neu i waered i'r cwm, canfyddwn yn awr ac eilwaith ddeg ar ugain neu ddeugain o gyplau o ddynion ieuanc, weithiau ar draed ac weithiau ar geffylau, yn ol eu sefyllfa a'u dylanwad yn y gymydogaeth, yn cyniwair tua'r hen Eglwys, yn ddigon hapus a llawen, i'r dyben o rwymo rhyw ddau yn nghyd yn ol yr hon ddefod sydd wedi dwyn gymaint o gysur ac anghysur i dorf afrifed o deulu Adda. Arferid yma yn yr oesodd gynt gynal rhyw wledd o ddifyrwch er nwyflonianti'r pâr ieuanc ddydd eu priodas; ac yn y nos cyfarfyddai yr oll o'u cyfeillion yn y ty oeddynt wedi ei ddodrefnu i ddechreu eu gyrfa briodasol, ac yno adroddent lawer o hen helyntion a chwedleuon o bod math, er mwyn cynal eu nos yn llawen, ac yn y diwedd cyn ymadael, yr oedd pob un yn estyn ei rodd, bid fechan neu fawr, fel y derbyniai y ddau a unwyd, fe allai 40 neu 50 o bunoedd, mwy neu lai, yn ol sefyllfa y cwmpeini. Yr oedd hen ddyn yn byw ar Dwynyrodyn, yn dweyd iddo gyd gerdded unwaith gydag 50 o gyplau tua hen Eglwys Merthyr, a thra yr oedd y seremoni yn cael ei chyflawni, troai rhai eu ceffylau i'r fonwent, ac eraill i ystablau y Star, yr hwn oedd y ty bob amser ar у fath amgylchiad, a roddai fantais deg i ddyn i ffurfio barn am у ddefod hon yn yr hen oesoedd. Ac ar ol myned allan oddiyno meddai un awdwr, ymffurfiant yn gyplau a dechreuent a'r eu rhedegfeydd, a'r naill ar draws y llall, ond fynychaf y merched fyddai yn enill y gamp. Hen arferiad gan y menywod ydyw hyn. Mae yr arferiad o gynal neithiorau eto mewn rhai parthau o Gymru, ac y mae yn mysg yr Iuddewon er ys rhagor na 2,000 o flynyddau.

Anfonwyd o Jerusalem yn ddiweddar i Ferthyr, wahoddiad i Iuddewon y lle hwn fyned drosodd i ryw briodas urddasol oedd i gymeryd lle yno; ond tebygol mai nid gyda y bwriad y buasent yn myned, ond o ran ffurf o gyfarchiad yn ôl yr hen ddefod 'hon. Dywedir nad oedd un dydd yn Merthyr i'w gyffelybu i ddydd priodas, ond dydd neu ddyddiau ffair y Waun, yr hon a gynelir ar dwyn, ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r lle hwn, man ag y mae ffeiriau yn cael eu cynal er ys rhagor nag 800 o flynyddau, ar y dyddiau canlynol o'r flwyddyn, Mawrth y 18fed, Mai y 13eg, Llun у Drindod, (a chynhelid marchnadoedd hefyd yn y lle yn yr hen amser o'r 14eg o Fai, hyd y 14eg o Hydref,) yr ail Llun yn Gorphenaf; Llun cyntaf yn Awst, Medi yr 2ail, a'r 24ain, dydd Llun ar ol Hydref y 1af, a Tach. yr 20fed. Y ffeiriau mwyaf nodedig yn y lle hwn ydynt Mai y 13eg, yr hon a elwir yn gyffredin ffair Calanmai; a'r 24ain o Fedi, yr hon a elwir yn ffair у pêr a'r afalau. Gwnawd cân i ffair y. Waun, gan Fardd difyr y Grawerth; y penill cyntaf o honi sydd rywbeth yn debyg i hyn:—

"Ar ryw brydnawn, hyfryd iawn, ymaith awn tua thref,
I'r Waun i edrych welswn neu glywswn dan y nef
Y farchnad oedd megis bloedd oll ar g'oedd yno gyd,

Mi glywn i Shon y Ffarmwr yn codi ddwndwr cuwch,
Yn mofyn saith a chweugain o fargen ar y fuwch,
A Jack o'r wlad yn cadw'i nad gwaith colli gwa'd ei gariad Gwen,
Ac arall draw'n ceg-ledu gan waeddi Rock Again.


Yn y flwyddyn 1847, cyfarfyddodd H. P. Powell, oʻr Gwernllwyn Cottage, a chwech cheiniog yn y lle hwn, o ddyddiad y Frenines Elizabeth; mae y darn hwn i'w weled yn awr yn amgueddfa Castell Nedd. Dygwyddodd i Mr. Jonathan Reynolds, (Nathan Dyfed,) gael swllt o'r un dyddiad yn agos i'r un lle. Hefyd cafodd yn y tir ddarn wyth onglog o dderw wedi ei ysgythru a'i drin, yr hwn sydd i'w weled ond galw yn nhy y darganfyddwr yn heol y Felin, Merthyr. Deuwyd o hyd hefyd i lawer o bethau yn ddiweddar o nodwedd henafol yn Nghastell Morlais, megis geingion y cerfwyr, morthwylion, hoelion, plwm, &c. Tebygol, yn ol yr arwyddion, mai ei losgi a gafodd y lle hwn idd ei ddinystrio. Gwiail oeddynt yn gwneud i fyny y tai cyntaf yn Dowlais, y rhai allwn feddwl oeddynt yn oer ac anghysurus iawn o herwydd uchder, a noethlymder y lle; ond nid hir y buwyd wedi dechreu y gwaith cyn adeiladu yma dai ceryg, y rhai a gaed o'r Twynau gwynion, ac o'r mynydd yma thraw. Y siop gyntaf o unrhyw sylw yn Dowlais, oedd un y Cwmni, a adeiladwyd ac a agorwyd yn y flwyddyn 1797, tu cefn i'r man y saif swyddfa yr Heddgeidwaid yn awr; a nodau papur £1 yr un oeddynt yn arferedig yn Ngwaith Dowlais hyd y flwyddyn 1823.

Nid oedd y gyfnewidfa hon mor ormesol a'r cyffredin o'r un enw, ond er hyny achwynai rhai o'r gweithwyr eu bod yn cael camwri.

Cyrhaeddod hyn i glustiau y Cwmpeini, fel y penderfynasant rhoddi cynygiad iddynt ar yr un a fynent yr arian nodau heb y siop, neu y siop mewn cysylltiad a'r arian nodau; ond eiliwyd yr olaf gan y mwyafrif o'r gweithwyr o herwydd barnai y rhan luosocaf eu bod yn cael eu nwyddau yn rhatach oddiyno nag o un man arall. Dywedir i'w pherchenogion fod yn golledwyr o £2,300 o bunoedd unwaith mewn cysylltiad a'r siop hon, trwy iddynt brynu ryw ystorfa fawr o nwyddau i mewn iddi yn amser drudaniaeth, gan goledd y dybiaeth y buasai pethau yn myned yn ddrutach fyth, ond yn ffodus i'r gweithwyr, er yn anffodus iddynt hwy, trodd pethau allan i'r gwrthwyneb. Yr oedd y blawd haidd y pryd hwnw yn gystal a'r blawd ceirch, yn amrywio o 7 i 10 swllt am yr 28ain pwys; a'r blawd gwenith o 10 i 12 swllt. Rhwng drudaniaeth yr ymborth ac iselder y cyflogau yr oedd canoedd os nad miloedd drwy yr ardaloedd yn goddef gradd o newyn. Gwnaeth y siop hon ei rhan yn dda tuag at ei liniaru nes i bethau gael eu adferyd i drefn eilwaith. Nis gallwn ddywedyd fod Dowlais ond yn ei fabandod cyn amser y diweddar Syr John Guest, Bart, A.S., yr hwn fu yn offeryn i godi y lle i'w sefyllfa bresenol. Ni chyflawnwyd yno un gorchwyl o bwys yn ei amser heb fod rhywbeth a fynasai ei law a'i galon ef a'i ddygiad yn mlaen a'i ddybenion. Efe a adeiladodd ac a drefnodd y Llyfrgell yn 1845, yr hon a gynwysai 900 gyfrolau o lyfrau Cymreig a Saesoneg, ac yn rhydd i bob ymwelydd i fyned yno i dreulio eu horiau hamddenol. Efe hefyd a adeiladodd yr Ariandy Cynilo ar ei draul ei hun, ac a gynorthwyodd tuag at adeiladu y Neuadd Ddirwestol. I'r enwog Lady Charlotte Guest, y priodolir cynllunio a dwyn oddiamgylch y Wyddonfa Gelfyddydol, (Benevolent Society,) yr hon gymdeithas sydd yn rhydd i dlodion i gyrhaedd amryfath o addysgiaeth fuddiol ac adeiladol yn ngwahanol elfenau gwybodaeth. Gorphwysai ei chymydogion a'r gweithwyr yn agos bob amser ar feddwl y waddoles urddasol hon; ac er fod gwaed breninol yn rhedeg trwy ei gwythienau, ni wnai ddiystyru unrhyw amser ei hisradd fwy na'i uwchradd. Mae wedi profi ei hun yn deilwng o'r enw yn ei wir ystyr. Cyfeithiodd amrai lyfrau o'rGymraeg i'r Saesnaeg, megis y Mabinogion, &c., yn nghyd a darnau bychain o ryddiaith a barddoniaeth, yn eu mysg, "Ymweliad y Bardd a'r Bala " a bydd ei thalent a'i llafur yn drysorau yn yr iaith Saesneg, pan y bydd hi yn huno yn nhawel ddystawrwydd y llwch. Ac er mwyn dangos rhai i ragoriaethau ei diweddar briod, dyfynwn ddarnau o Awdi fuddugol Dewi Wyn o Esyllt, ar ei farwolaeth

"Af yn awr ganrif yn ol,
Tua'r bryniau tra breiniol,
I weled ei hardaloedd,
Pa agwedd gynt arnynt oedd,
Drwy'r mynyddoedd nid oedd dy,
Na lle atal na llety.
Na braidd un llef o un bryn,
Ond hiraeth yr aderyn,
Na son am Dowlais hynod,
Chwaithach i'r fath fasnach fod,
Llwfr iawn edrychai'r holl fro,
Diffrwyth heb ddim yn deffro
Y dyn i syniad unawr
Y deuai'r fan yn Dref fawr,

Ond heddyw onid diddan,
Edrych yn fynych i'r fan,
A chanfod masnach enfawr,
Ei thai myg a'i gweithiau mawr.
Aur a nerth ein Syr John ni,
Erioed a wnaeth fawrhydi,
Dilys ei glod-Dowlais glau
A naddodd o'r mynyddau,
A thyfodd fel gwyrth hefyd,
Ei fawr waiih yn ben: waith byd,
Wele Merthyr o'r herwydd,
Mewn bri bron fel Sidon sydd.

Chwai y rhwygir ei chreigiau—lliosog,
Arllwysir ei bryniau,
Mae acw o hyd drwm-waghan,
Ar ei bên werthfawr haenau,

Cyrau dedwydd Caerdydi,
Syn ddedwydd o'i herwydd hi,
Sainwech hyawdl ei masnach hoew—sydd,
Yn rhoi llawenydd i'w thrai a'i llanw,

Gowylia'r arwyllt ager beirianau,
I lawr trwy y tir o le'r trysorau,
A nofia wedi'n y Camlas fadau,
Heibio'n tiroedd yn dwyn mawr bentyrau,
O lo a haiarn o'u dwfn welyau,
Y fro a lethant gan ddirfawr lwythan,
Estynir y rhain dros donau'r moroedd,
Llwydion i diroedd llydain eu dorau.

Hoenus yw gweled yr hen ysgolion,
A adeiladodd er cynt i d'lodion,
Wedi'u helaethu 'n briodol weithion,
A phlant yr ardal yn cael o faelion,
Byd o addysg a phrif wybodyddion,
Hefyd i'w tywys i'w phorfeydd tewion.

Adeiladodd yn mro y deiidau,
Fawr dai newyddion-hyfryd aneddau,
I'w weithwyr hwylus ac wrth reolau.
Ef ail ystyriodd eu cyfleusderau,
Eu iechyd anwyl-a'u parch-a'u doniau,
A daeth i osod eu cymdeithasau,
Adeiliai wedy'n eu sefydliadau.

Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y gweithiau Haiarn a'r Trefi cymydogaethol yn ngogledd-barth Morganwg; a gwasanaethodd ei swydd yn anrhydeddus hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1852. Mae iddo gofgolofn hardd yn Dowlais.

Efe oedd yr offeryn penaf i ddwyn Cledrffordd Dyffryn Taf i Ferthyr Tydfil; a dywedir ei fod yn rhanol yn ngynlluniad y gwefr-hysbysydd, yr hwn sydd mor ddefnyddiol i drafnidiaeth, &c., ac yn un o brif ryfeddodau yr oesau diweddar. Anrhegodd hefyd lyfrgell Merthyr a tua 180 o gyfrolau o lyfrau Cymraeg a Saesoneg. Nid oedd neb ar a wyddom yn fwy hoff a addysg nac efe: gwnaeth drefnu ysgol ddyddiol dda yn Dowlais, yr hon a gynwysai tua 200 o ysgolheigion, tri o athrawon, a'r un nifer o athrawesau, yn cael eu cynal yn rhanol gan y Cwmpeini a cheiniogau plant y gweithwyr, heb law ysgolion dyddiol ereill sydd yma ac acw drwy'r lle. Addysgir eleni, 1863, ddwy fil o blant yn yr ysgolion a elwir ysgolion y Cwmpeini, ond yn cael eu cynal gan mwyaf gan y gweithwyr.

Cymerwn hyn yma yn engreifftiau o weithrediadau daionus Syr John. Yr oedd y gwr mawr hwn wedi trefnu llawer o gynlluniau ereill fuasent o lawer o les i'r gymydogoeth pe cawsai fyw i'w dwyn i weithrediad, ond cyn i ni gael rhagor oddiar ei law nac adnewyddu y brydles ar waith Dowlais yn 1848, yr hyn barodd lawenydd mawr i tua 5,000 o weithwyr, heblaw eu teuluoedd, yr oedd brenin braw yn taflu rhyw adflas chwerw ar y pethau hyn oll, a phob peth braidd o'n cylch, trwy ei rifo yn mhlith y meirw. Ond er iddo farw y mae ei weithredoedd eto yn llafaru yon ein mysg. Dymunem heddwch i'w lwch. Er nad oedd yn Dowlais tua 60 mlynedd yn ol ond nifer fechan o dai, a'r rhai hyny gan mwyaf yn wasgaredig yma a thraw, cynyddodd gyda'r fath frys, ac i'r fath raddau, fel y mae yn agos bob peth ag sydd yn angen ar ddyn i'w gael naill ai yn y marchnadoedd, neu yn rhai o'r mael faoedd heirdd sydd yma yn addurno ystrydoedd y lle. Ond rhaid i ni addef nad oedd y rhestrau tai a adeiladwyd yma ar y cyntaf ond rhai tra gwaelion o ran cynllun, a'r heolydd rhyngddynt yn rhy gulion i fod agos mewn ffurf iachusol i'r trigolion, er fod y lle yn sefyll tua 500 o droedfeddi uchlaw Merthyr, a dros 1,000 o droedfeddi uwchlaw i arwyneb y môr. Nid oedd y trigolion heb gael goddef yn drwm oddiwrth glefydau a marwolaethau lluosog, hyd y deng mlynedd diweddaf, pryd y daeth y Bwrdd Iechyd i liniaru yr ymweliadau dirdynol a brawychus hyn, trwy ysgubo, golchi, a glanhau pob budreddi ac ysgarthion oedd yn gwenwyno awyr y lle, yn nghyd a threfnu adeiladau newyddion, yn ol y cynllun mwyaf iachus a chysurus i'r preswylwyr. Mae yma yn bresenol lawer o faelfaoedd tra llawnion o nwyddau, ac yn gwerthu mor rhad a manau ereill, trwy y plwyf. Mae yma hefyd dros 100 o dafarndai trwyddedig, &c. Cynaliwyd yma gymdeithas lenyddol er ys amryw flynyddoedd yn ol, dan yr enw Cymdeithas Lenyddol y Gwernllwyn, o dan arolygiad y Parch. B. Williams, (Annibynwr); a bu yn llwyddianus i ddadblygu llawer talent, trwy fod yn argymhelliad iddynt i arfer eu doniau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, ond cafodd golled i raddau ar ymadawiad ei pharchus arolygydd, yr hwn oedd yn Gymro twym-galon, talentog, a charedig—parod bob amser i wneud yr hyn a allai dros ei gydgenedl y Cymry. Gellir dyweyd am dano yma, "Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth." Gobeithiwn y bydd yn offeryn yn y byd i godi llawer o enwogion yn y byd barddonol, &c., cyn ei rifo i'r ty rhag derfynedig i bob dyn byw. Mae yn y lle hwn lawer o feirdd a llenorion tra enwog, ac yn eu plith gwnawn enwi F. E. Clarke, Ysw., awdwr y Guide to Merthyr, fo, Lady Charlotte, Gwilym ap Ioan, D. Bowen, G. Glan Teifi, ac ereill. Mae yn y lle hwn hefyd am ryw Fudd Gymdeithasau, Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, &c. Cynelir yma hefyd Eisteddfodau llewyrchus, yn awr ac eilwaith, y rhai a brofant nad ydyw y trigolion wedi anghofio hen iaith eu teidau, er cymaint o estroniaid sydd wedi dylifo yma yn y ganrif ddiweddaf, o blant Hengist, a lluoedd llechwraidd yr Ynys Werdd, y rhai, fel y mae gwaethaf y modd, ydynt wedi, ac yn bod, yn achos i gadw y cyflogau yn isel, o herwydd y maent dan rwymau i weithio, am eu bod mor epiliog, neu ynte oddef newyn, ac os na weithiant, gwyliant yr amser, a'r meistri, ac ymddyga y rhan amlaf yn deilwng o honynt eu hunain, mewn meddwl, gair, a gweithred.

Gadawn y lle hwn yn awr, a brysiwn dros у brif. ffordd, tua Merthyr, gan groesi pont y Gellifaelog, lle cyferfydd godreu Dowlais â chwr uwchaf Penydaren. Ar у de a'r aswy, canfyddwn restrau o dai, agos yn newydd, ac yn eu mysg, ryw ychydig o'r hen aneddau a adeiladwyd, debygem, tua'r amser y cychwynwyd Gwaith haiarn y lle hwn, er mwyn cyfleusderau i'r gweithwyr, y rhai oeddynt yn Seison, ac oddiwrthynt hwy y derbyniodd yr enw o Restr y Seison, ac y mae yn aros arni hyd heddyw. Ac ar y de, gyda chodiad y tir, gwelwn restrau uwch rhestrau yn codi nes ydym yn colli ein golwg arnynt oddiar y brifffordd. Ar yr ochr hon y mae amryw fasnachdai eang a chyfleus yn denu ein sylw, megys yr Inn Fawr, &c., nes yr ydym yn dyfod i mewn i Ferthyr, dros Bont Morlais, pryd y cawn ein hunain ar unwaith yn mysg adeiladau prydferth, yn dair uwchder lloft; ac yn eu plith, gwnawn enwi Morlais Castle Inn, y Pont Morlais Inn, &c. Ond rhaid i ni adael y lleoedd yma i'r dyben o sylwi arnynt ganrif yn gynarach, pryd nad oedd, fel y crybwyllwyd, ond rhyw nifer fechan o hen dai llwydion, a'u penau gwelltog, yn sefyll tua'r fan y saif y Tlotty yn awr, a phump_neu chwech ereill, hyd ochr yr heol o'r hen eglwys i Bont Morlais. Yn ymyl hon, ar yr ochr-ddwyreiniol, mewn hen fwthyn oedd yno, y ganwyd y diweddar Thomas Pritchard, o Gefn-y-fforest, yr hwn oedd fab i'r Dr. Pritehard, ac a fu yn wr parchus yn ei gymydogaeth nes i angeu ei symud o'r byd, wedi iddo gyrhaedd yr oedran anarferol o 99 flynyddoedd a saith mis. Yr oedd tollborth wrth y bont hon, ac un arall wrth y bont haiarn yr amser hwnw. Symudwyd y rhai hyn ychydig cyn amser Rebeca, gelynes y tollbyrth. Y dollborth oedd ger Gwaith Penydaren a symudwyd yn ei hamser hi, er nad ymwelodd a'r lle hwn; a'r hon oedd ger y tan lle у saif y London Warehouse yn awr, a symudwyd cyn cof gan neb yma, oddigerth gan ambell un o'r hen drigolion. O'r fan lle y saif y London Warehouse i Bont Morlais, nid oedd ond un hen fwthyn tylawd yn sefyll yn yr amser hwn. Tua'r flwyddyn 1798. o herwydd fod mynwent yr hen eglwys agos yn llawn, prynodd Mr. Meyrick ddarn o dir dros yr Eglwyswyr, ar Dwyn-yr-odyn, at wneud mynwent, gan Samuel Rees, o'r Court, am ba swm o arian, nis gwyddom, am na fynegwyd hyny i ni mewn cysylltiad a'r dyddiad. Blynyddoedd maith yn flaenorol i hyn, adeiladwyd y tafarndy adnabyddus wrth yr enw Crown Inn, a Phen-y-fynwent, adnabyddus yn awr wrth yr enw Three Salmons, oeddynt hefyd yma y pryd hwnw, yn nghyd a'r Boot, a'r Angel Inn, yn nghyd a'r Bwthyn adnabyddus yn awr wrth yr enw Farmer's Arms, yr hwn oedd dy o'r hen arddull, a thô gwellt, a lloft isel; a chlywsom fod rhai o gymeriadau hynotaf y gymydogaeth, pan dan ddylanwad grymus Sir John Barleycorn, yn dangos eu ystranciau weithiau, trwy godi gwaith y crydd i gusanu y lloft, a brydiau ereill byddent yn myned trwy y seremoni hon pan dan ddylanwad eu nwydau anifeilaidd.

Nid oedd у lle hwn, er mor wledig oedd er ys 100 mlynedd yn ol, heb gael ei aflonyddu, a'i hynodi ar droiau gan ambell ymryson ac ysgarmes; na chwaith yn rhydd oddiwrth ymosodiadau gan glefydau, er fod ei hawyrgylch heb ei anmhuro gan fwg a nwyon afiachus oddiwrth y Gweithiau; oblegyd clywsom fod galwad am feddygon yr amser hwnw, neu tua'r flwyddyn 1756, yr hwn a gawd yn mherson y Dr. Pritchard, gynt o Gefn-y-fforest, yn y plwyf hwn. Bu yn feddyg ar y môr dros ysbaid 17 mlynedd, cyn dyfod i gadw ei swydd i'r ty a enwasom yn barod, ger llaw Pont Morlais, oddiyno y priododd ag etifeddes y Candon, ac y bu yn byw dros flwyddyn wedi hyny, cyn symud i'r ffermdy y soniasom am dano, yn nghwr isaf y plwyf.

Y fferyllydd cyntaf a fu yn y lle hwn oedd un o'r enw Bitles—Crynwr o ran barn a phroffes, ac yn meddu cymeriad da iawn yn yr ardaloedd; oblegyd nid oedd neb yn cadw y fath fasnach y pryd hwnw ond ei hun, efullai, yn y 10 milltir cylchynol. Ar ddiwrnod, dygwyddodd i gorgi rhyw ymwelydd droi i mewn i'w siop, ac ysglyfaethu darn o gaws oddiarno, darfu iddo fod mor ffodus a'i weled yn cyflawni y weithred a dywedodd wrtho, "Wel, nid af i wneuthur un niwed i ti, y ci, ond rhoddaf air drwg i ti." Ac ar ol iddo fyned allan, aeth i'r drws, a gwaeddodd "Bad dog," &c. Dygwyddodd fod rhyw rai yn sefyll gerllaw, a meddyl iasant mai mad dog oedd ei leferydd, a ffwrdd a hwy ar ei ol, a'r canlyniad fu i'r lleidr gael goddef marwolaeth ddisyfyd am y weithred.

Ger y Boot yr oedd efail gof, ac un o'r gofiaid cyntaf a weithiodd ynddi oedd un a adnabyddid wrth yr enw Shon y gôf. Pedolai geffylau y wlad o gylch, yn nghyd a cheffylau Mr. Hill. Mae maelfa nwyddau yn awr yn y fan у safai gynt.

Arferid cynal y marchnadoedd yma yn yr amseroedd gynt ar hyd ochr yr heol, ac yn fwyaf neillduol o gylch y Boot, lle y byddai pob un o'r gwerthwyr a'i sefyllfan ei hun, oddigerth, fod rhyw un yn awr ac eilwaith yn gwerthu ei nwyddau, o gewyll, ar gefn ei geffyl. Nid oedd y farchnad yr amser hwnw ond bychan a dinod iawn, mewn cymhariaeth i'r hyn ydyw yn bresenol; a thra thebyg mai ar Dwyn-y-waun yr oeddid yn cynal marchnadoedd cyn dechreu eu cynal yn y lle hwn. Adeiladwyd y marchnad-dy presenol yn y flwyddyn 1838, ac nid cyn fod gwir angen am dano, oblegyd agoriad a chynydd y gweithiau—dylifiad dyeithriaid i'r lle, yn nghyd a chynydd cyflym y boblogaeth. Saif ar tua dwy erw o dir, ac y mae ynddo tua 112 o leoedd penodedig i gigyddion, a'r gweddill o hono, mewn cyfartaledd, yn gyfatebol i'r gwahanol fasnachau ereill. Mae ynddo bob peth i'w gael at gynaliaeth dyn, a hyny agos mor rhad ag unrhyw fan yn Nghymru. Goleuir ef y nos gan uwchlaw 90 o nwy[1] oleuadau, heblaw nifer mawr o ganwyllau sydd i'w canfod yn goleuo yr adeilad yma a thraw gan y gwerthwyr. Mae un rhan o hono, er ys blynyddau, yn cael ei rentu allan gan y perchenogion i fod yn ddangosfa chwareuyddol (theatre), a'r un modd y gwneir o'r tir sydd o'i flaen a elwir square ty'r farchnad. Rhoddir hwn ar delerau, yn ol eu rhif a'u maintioli, i berchenogion dangosiadau (showmen), ac yn fynych yn nhymor haf, gwelir mwy na haner y lle hwn yn llawn gan gerbydau y ffug-chwareuwyr hudolus yma—un a'i bibell, a'r llall a'i dabwrdd—ar eu goreu yn ceisio denu y dorf fyddai yn sefyll o'u blaen, yn sylwi ar eu symudiadau, a chlust-ymwrando ar y twrf fyddai yn cael eu hateb gan furiau yr adeiladau cylchynol! Show rhad; a dau neu dri arall, a'u cegau ar led, ar eu goreu yn ceisio gwerthu mân nwyddau—yn nghyd a thri neu bedwar o faledwyr, a mwy na’u haner yn ddall, wrthi yn ddiwyd, yn canu baledau Dic Dywyll, neu rywun arall, fel y gall yr anghyfarwydd gredu braidd ei fod wedi disgyn i ryw le annaearol, a braidd na theimlai ei fod, i raddau, yn ddyeithr iddo ei hun!

Tua'r flwyddyn 1793, adeiladwyd y bont sydd ger Gwaith y Gyfarthfa, a elwir Jackson's bridge, a'r bont haiarn gan Watkin George, tua'r flwyddyn 1800, o herwydd fod y bont geryg oedd yno wedi syrthio ar lifogydd mawr, ar ol pedair wythnos ar ddeg o rew caled; dystrywiodd lawer o bontydd coed, ac ysgubai bob peth agos ffwrdd o'i flaen.

Yr oeddy fath gynydd anarferol wedi cymeryd lle yma, gyda chynydd y Gweithiau, fel yr oedd ynddo, erbyn y flwyddyn 1801, y rhifedio 1,404 o dai, 4,273 o wrywod, a 3,432 o fenywod, yn gwneud cyfanswm o 7,705. Tua'r amser hwn, neu ychydig yn gynarach, yr oedd Mr. Maber, vicar yr eglwys, wedi llwyddo i gael gan y Senedd basio gweithred i'w alluogi i roddi allan y tir oedd yn perthyn i'r eglwys, i adeiladu arno, trwy brydlesau; y rhan amlaf o honynt oeddynt dros ysbaid tri bywyd, ac weithiau dros dymor penodedig. Adnabyddir y tir hwn yn gyffredin wrth yr enw Glebeland,[2] lle y saif rhai o'r maelfaoedd harddaf yn Mer thyr yn awr, ac agos yr oll o'r adeiladau sydd rhwng y brif ffordd a'r afon, ac o gwr isaf mynwent yr eglwys hyd bont Morlais, yn nghyd a'r tir lle saif Eglwys St. David, a'r ysgoldai perthynol iddi, &c. Ac ar ol iddo fod yn derbyn llawer oarian oddiwrth berchenog ion adeiladau newyddion oeddynt yn sefyll ar y tir hwn, yn nghyd a £300 o gyflog flynyddol, dygwyddodd iddynt fod yn rhy fychan un flwyddyn i dalu y treth oedd, &c. a ddisgynai arno, o herwydd y fath nifer lluosog o dylodion addylifent i'r lle, yn nghyd a phrinder a drudaniaeth ymborth. Yn y flwyddyn 1800,yr oedd y blawd gwenith yn cyrhaedd y pris uchel o 15s yr 28ain pwys, yr halen yn 7½ y pwys, a phob peth arall mewn cyfartaledd. Dyma'r pryd y torodd y terfysg cyntaf allan yn Merthyr, yr hwn, yn nghyd a'r terfysg yn 1816, a'r un yn 1831, a roddwn i lawr yn y benod nesaf.

Nodiadau[golygu]

  1. Gorphenwyd y Nwy Weithiau yn y flwyddyn 1836.
  2. Yma bu farw lolo Morganwg.