Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Gwaith Penydaren

Oddi ar Wicidestun
Yr hen dy ger gwaith y Gyfarthfa Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Gwaith Plymouth

GWAITH PENYDAREN

A gafodd yr enw oddiwrth dyddyn Penydaren, lle saif y gwaith a gychwynwyd gan yr Humphreys, ar ôl yr ymrafael digwyddiadol fu rhyngddynt hwy a'r gweithwyr, a Bacon, yn Ngwaith y Gyfarthfa. Yr oedd gan y teulu oedd yn byw ar y tyddyn hwn brydles ar arwyneb amrai o'r tiroedd cylchynol. Ac yr oedd gan Gwmni Dowlais brydles ar y glo dan rai o'r tiroedd hyny; felly, yr oedd gan yr Humphreys i amodi â'r ddwy ochr. Ac yr oedd pedair punt yn y flwyddyn, yn ol ewyllys John Williams, i'w talu oddiar un o'r tiroedd hyn, o'r enw Tonyffald, at roddi addysg i blant aelodau gweiniaid yr Ynysgau, oedd un ran, a'r rhan arall tuag at eu dilladu. Cymerodd yr ewyllys hon le tua'r flwyddyn 1735.

Wedii'r Humphreys ddwyn y pethau hyn oddiamgylch, adeiladasant ffwrnes yn y flwyddyn 1782, un arall yn y flwyddyn 1796, ac yn nesaf, yn y flwyddyn 1811, adeiladasant yma y drydedd ffwrnes, yn nghyd a dwy felin-dro (rolling mills). Yn y flwyddyn 1806, llwyddasant i anfon ymaith 6,963 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1815, yr oedd ganddynt bump o ffwrnesau, a llwyddasant i anfon 7,800 o dunelli o haiarn, yr hyn oedd tua 80 tunell yr wythnos. Erbyn 1845, yr oedd ganddynt saith o ffwrnesau, ac anfonasant yn y flwyddyn hono 15,000 o dunelli. Yr oedd y gwaith hwn y pryd hwnw yn agos yn ei ogoniant, a'i radd uwchaf o rwysg, yn cadw rhwng tair a phedair mil yn gyson o weithwyr, a'u cyflogau yn cyrhaedd tua'r amcangyfrif misol o £12,000 i £16,000.

Tua'r flwyddyn 1830, daeth yn hollol i berchenog aeth Mri. Thompson a Forman. A thua'r flwyddyn 1854, a 1855, agorasant lo-byllau Cwmbargoed, i'r dyben o gael glo at eu gwasanaeth; o herwydd cyn hyny, yr oeddynt yn arferol o'i gael oddiwrth Gwmpeini Dowlais, a'r olaf yn gorfod cael rhan o'u mwn oddiwrth Gwmpeini Penydaren. Tua phum mlynedd yn ol daethant i ryw anghydwelediad a Chwmpeini Dowlais, mewn perthynas i'w hiawnderau a'u terfynau i weithio eu glo; ac wedi manwl ymchwilio ar y ddau du, cafwyd fod Cwmpeini Penydaren mewn dyled enfawr i Gwmpeini Dowlais, fel y penderfynodd y blaenaf adael i'w Gwaith sefyll, yr hyn oedd yn ergyd dwys a chwithig i weithwyr a masnachwyr Penydaren a Merthyr yn gyffredinol; ac aeth y wasg Seisneg mor hyf a'i alw The fall of Merthyr. Hawdd y gall pob ystyriol ddirnad ar unwaith fod yn agos i bedair mil o ddynion gael eu hamddifadu o'u cynhaliaeth, braidd yn ddirybudd, yn ergyd anadferadwy braidd i fasnach y lle.

Ond bellach mae genym yr hyfrydwch o draethu fod y cwmwl du fu yn 'ongian uwchben y lle hwn bellach wedi ei wasgar gan awelon masnach a thrafnidaeth, yn cael ei ysgwyd gan y boneddigion Mri. Davies, Victoria-street, Merthyr, T. Williams, Trecynon, Aberdar, yn nghyd a boneddigion ereill. Ac mae yr olwynion trymfawr oeddynt dan gramen o rwd yn awr yn dechreu troelli, a'r mwg a'r fflamiau yn esgyn o eneuau y gwahanol ffwrnesau tua'r entrych, gan ddwyn gwawr adnewyddol a gobeithiol ar y lle.

ADEILAD Y PENYDAREN MANSION HOUSE, A GWNEUTHURIAD Y FFORDD HAIARN I'R BASIN.

Yn amser cychwyniad Gwaith Penydaren, yr oedd Samuel Humphreys yn byw yn Merthyr, yn y ty y trigianodd Mr. Dyke y meddyg wedi hyny. Tua'r blynyddoedd 1785-88, neu 1790, adeiladasant y Mansion House, ar gae Tydfil. Hwn oedd y ty mwyaf ardderchog yn y plwyf yn ei amser cyntaf; ac yma y canfyddai y teithiwr a'r negeseuwr foneddigion a boneddigesau ar foreuau a phrydnawnau teg ac hafaidd, yn ymbleseru ar hyd y rhodfeydd gwyrddlas o flaen ac o amgylch yr adeilad gorwych hwn. Yn agos ar eu cyfer, neu ychydig yn uwch i fyny, yr oedd eu Gweithfa yn ganfyddadwy; o'r hwn le yr ymddyrchafai y fflamiau tuag i fyny gyda thwrf, gan fflachio eu goleuni ar y ty drwy gydol yr hirnos; ac yn y dydd gwelid y mwg yn taro allan o eneuau y ffwrnesau, yn gymysg a'r fflamau rhuddgochion, gan ddiog esgyn tuag i fyny uwch moelydd a chymylau. Fel yr oedd Gweithiau Dowlais, Penydaren, a Phentrebach yn cynyddu ac eangu yn y blynyddoedd 1800—1—2—3, yr oedd yr anghyfleusderau a'r anfanteision i'w gweithio yn llwyddianus yn cydgynyddu a hwy. Yr oedd Gwaith y Pentrebach yn sefyll tu arall i'r afon, tua haner milltir oddiwrth y gamlas. Penydaren yn agos i filltir, a Dowlais yn agos i ddwy filltir a haner; felly, nid oedd gan y naill na'r llall dramwyfa rwydd ac uniongyrchol a'r gamlas. Felly, penderfynodd gwahanol gwmpeini y tri Gwaith a enwasom anfon deiseb i'r Senedd am gael ffyrdd haiarn (tram roads) at eu cyfleusdra. Yn hyn buont yn llwyddianus; a dywedir mai hon oedd y ddeiseb gyntaf a basiwyd i'r cyfryw ddyben yn Senedd-dy Prydain Fawr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuasant ffurfio cymundeb rhyngddynt a'r gamlas yn Pont-y-store-house, yn nghyd a gwneuthur ffordd haiarn dramwyol i beirianau, yn gystal a cheffylau, rhwng Dowlais a'r Basin, pellder tua deng milltir; a daeth y ffordd hon yn barod yn y flwyddyn 1804, pryd y gosodwyd peiriant i dramwy arni, o wneuthuriad Mri. Vivian, &c., ac i dynu deg tunell ar ei hol, yn ol pum milltir yn yr awr. Ond ni fuwyd yn ffodus i gael gan y ddyfais newydd hon ateb nemawr ddyben yn y deng mlynedd dilynol. Ac er mor gywrain yr ymddangosai y ddyfais, ac er yr edrychid arni y pryd hwnw braidd yn gampwaith yr oes, nid ydoedd heb le i wneuthur llawer o welliantau arni. Ac yn ol diwygio llawer o radd i radd o'r dull oedd ar y dechreu, parhaodd i dramwy rhwng y lleoedd a enwasom hyd nes i'w rhagorach ddyfod yn agoriad cledr ffordd Dyffryn Taf, yn y flwyddyn 1841. Pe buasai cadw rhyw echrys dwrf yn rhyw fantais, buasai yr hen beirianau yn llwyddianus i ateb y dyben i'r dim, oblegyd gallesid meddwl fod un o fynyddau yr hen wlad yn nghyswllt wrth gynffon pob un o honynt!

"Gwylltent frain gelltydd y fro."

Nid oes un o'r hen arddull i'w gweled yn bresenol yn y plwyf, er fod mwy o ddefnyddio peirianau gan Gwmpeini Dowlais ar hyd fynydd Twyn-y-waun, &c., i gludo at ac oddiwrth eu Gweithiau nag a fu erioed; a'r un modd y Pentrebach, yr hwn a gaiff ein sylw nesaf.

Nodiadau[golygu]