Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Gwaith Plymouth

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Penydaren Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Cyfoeth Mwnawl y Plwyf

GWAITH PLYMOUTH

Bacon oedd y gwr a wnaeth yr amod gyntaf a'r tir feddianwr, Iarll Plymouth, i'r dyben o sefydlu Gweithiau yma; ac o hono ef yr oedd Mr. Richard Hill, tad y diweddar Anthony Hill, yn gwneud ei gytundeb cyntaf, cyn dechreu ar y gwaith o adeiladu. Ac wedi iddo orphen ei amod, cychwynodd ei waith o adeilada un ffwrnes, yr hon oedd yn myned dan yr enw ffwrnes-isaf; cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1783. Adeiladodd un drachefn, yn dra buan, cyffredin mewn maintioli, fel yr un flaenorol. Yn y cyfamser, adeiladodd yma dy iddo ei hun i gyfaneddu ynddo, yr hwn sydd ger y gwaith, lle y bu yn byw hyd ei farwolaeth, a'i fab, Anthony Hill, hyd ei flynyddoedd diweddaf. Gorphenodd ef ei yrfa yn y ty gorwych a adeiladodd rhwng y Pen trebach a'r hen dy ger y gwaith. Yn y flwyddyn 1796, llwyddodd i gael gan y gwaith hwn wneud 2,200 o dunelli o haiarn. O'r flwyddyn 1800 i'r flwyddyn 1804, adeiladodd forthwylfa yn Pentrebach a ffwrnesau y Dyffryn. Trwy offerynolaeth dwfr y gweithid y naill fel y llall; a cheid y mwn a'r glo ar y cyntaf at y ffwrnes gyntaf trwy geueddau bychain oeddynt a'u geneuau yn ochr y brif-ffordd, rhwng ty Mr. Hill a'r Gwaith. Dealler mai dyma fel oedd yr heol a arwein iai o Ferthyr i Gaerdydd yn myned yn yr hen amser. Peirianydd y forthfwylfa hon oedd Mr.Thomas Aubrey, brawd i Mr. William Aubrey, cynorthwydd Mr. Watkin George yn Ngwaith y Gyfarthfa, y rhai oeddynt yn Gymry ac yn frodorion o gymydogaeth Pontypool. Bu un olwyn mewn defnyddioldeb yn yGwaith hwn yn cael ei throi gan ddwfr dros ddeugain mlynedd, hyd nes gosod peiriant agerawl yn ei lle.

Un o'r tri glowyr a weithiodd gyntaf yma i Mr. Hill oedd Mr. Edmund Harmond, cymeriad adnabyddus yn Merthyr fel dyn a dreuliodd foreu yn gystal a phryd nawn ei oes yn gariadus, heddychol, digrif, a diniwed. Dywedir iddo gario echel yr olwyn fu yn gweithio y Gwaith dros ddau cant o latheni, er ei bod dros chwech cant pwys. Lled lew, onide ?

Yr oedd Gwaith Mr. Hill wedi dyfod i gywair erbyn y flwyddyn 1796, fel y llwyddasant i anfon yn y flwyddyn hono 2,200 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1806, anfonasant 3,952 o dunelli o haiarn. Yr oedd tua 500 o weithwyr yn gweithio yma y pryd hwnw, a'r treuliau tuag at ei gario yn mlaen yn £4,000 yn fisol. Yn y flwyddyn 1815 yroedd yma dair ffwrnes, a gwnaethant 7,800 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1845, yr oedd cynydd dirfawr wedi cymeryd lle yn y Gwaith, fel yr oedd yma saith o ffwrnesau erbyn hyny, a gwnaethant yn y flwyddyn hono 29,120 o dunelli o haiarn. Mae wedi cynyddu eilwaith i wyth o ffwrnesau, ac wedi anfon yn y flwyddyn ddiweddaf tua 30,000 0 dunelli. Adeiladwyd un o'r ffwrnesau hyn tua dechreu y ganrif bresenol, a pharhaodd mewn gwaith dros 45 o flynyddoedd, pryd y daeth angen ei adgyweirio erbyn hyny, o herwydd meithder yr amser yr oedd wedi bod yn gweithio. Yr oedd darn o haiarn ar ei gwaelod yn pwyso tua 100 tunell. Bu ffwrnes arall yn Ngwaith Ynysfach 30 mlynedd yn llosgi yn barhaus; a dywedir fod pob un o'r ffwrnesau tawdd yn costio £6,500 yr un, a chyfrif treuliau adeiladu, yn nghyd a gosod peirianau, morthwylfa, ffwrnesau puddling a balling, &c., cysylltiedig a hi,a phob peth angenrheidiol tuag at iddi weithio yn llwyddianus, yr hyn a gyfrifir pan y byddo yn gwneud o 80 i 120 o dunelli o haiarn yn yr wythnos. Ond y mae cyfnewidiad y tywydd, symudiad y gwynt, a newidiad yn nhymer yr awyrgylch, yn nghyd a gradd fechan o leithder yn y blast yn gwneud eithriadau i achosi ei llwyddiant a'i haflwyddiant. Golygir fod 303 o bersonau yn ofynol ar gyfer pob un o'r tawdd ffwrnesau, (sef ballers, forgemen, refiners, &c.) Mae glo Merthyr wedi ei brofi yn mhlith y goreuon tuag at doddi haiarn; gofynol i'w gael mor bur ag sydd ddichonadwy oddiwrth bob sothach diwerth cyn y gall gynyrchu haiarn da, hyd yn nod o'r gareg fwn oreu. Defnyddir 6 tunell o'r glo hwn i doddi pob tunell o haiarn; a gwneir tua 70 y cant oddiwrth bob cant pwys o lo. Ond nis gwneir o'r un faint o olosg, yn yr awyr agored ag a wneir mewn ffwrnesau, o herwydd fod gan y tywydd, y gwlaw a'r gwynt, &c, eu gwahanol effeithiau ar y llosgiad a'i gynyrch.

Cyn y rhoddwn y penawd hwn heibio, yr ydym am goff hau rhai o rinweddau y diweddar A. Hill, Ysw.; yn eu plith cofnodwn, i ddechreu, y gymwynas haelionus a charedigol o werthu calch yn Pentrebach, am bris rhad a gwir resymol; yr hyn oedd mor fanteisiol i am aethwyr ac adeiladwyr, mewn gwlad a thref mor gynyddol a Merthyr. Nid oedd arno yr un rhwymau i wneud hyn, ac nid oedd yr elw a allasai ddeillio iddo oddiwrth y fath beth, a chymeryd dan ystyriaeth y draul o godi y ceryg calch a'u cludo oddiwrth Gastell Morlais i'r Pentrebach, yn ei argymhell i wneud hyny gymwynas, nac unrhyw beth arall, feddyliwn, ond egwyddor wirfoddol dros lesoli ei gydgreaduriaid yn unig. Yr oedd A. Hill, Ysw. yn meddu ar lygạid craffus a threiddlym meddwl ystyrbwyll, gwybodaeth eang, a chalon lawn o gydymdeimlad. Dichon nad oes neb o'r haiarn feistri yn deilwng o gael eu rhesu yn ogyfuwch ag ef yn y pethau hyn. Pan y byddai gweithiwr methiantus yn ei waith, yn analluog i enill ei gynaliaeth, ni wnai ef efelychu arferion rhai o'i gyd-feistriaid tuag ato trwy ei adael o'r neilldu i drugaredd y byd a'i helbulon ar ol iddo dreulio boreu ei oes yn ei wasanaeth, ond ymddygai tuag ato fel tad neu frawd, a mwy tirionawl, feallai, nag yr ymddygasai unrhyw berthynas. Rhoddai iddo waith a allasai yn rhwydd ei gyflawni, a modd i'w gynal am ei wneuthur. Colled anadferadwy oedd colli gwr o nodweddion Mr. Hill, oblegyd tra thebygol yw na welir ei fath yn fuan ar ei ol, os byth. Pan y cwympodd y gwr mawr hwn, teimlodd holl breswylwyr yr ardaloedd, ac yn wir nid heb achos, os bu achos teilwng i drigolion Merthyr a'r cyffiniau, yn fasnachwyr a gweithwyr, i wisgo eu galar wisgoedd rywbryd, yr ydym yn sicr mai ar y dydd yr hebryngwyd ef i'w hir artref—y gwr fu yn offerynol i ddyrchafu Merthyr a Throedyrhiw, oedd yr adeg addasaf erioed yma i arddangos y fath brudd-deb, yr hyn a wnawd gan dorf alarus, na welir ond yn anaml ei chyffelyb, ar y 9fed o Awst, 1862, pan oedd yn ei 77 mlwydd oed. Heddwch i'w lwch.

Daeth ei holl eiddo yn feddiant i Mr. Fothergill Hankey, Bateman, &c, trwy bryniad oddiwrth ei etifeddion, am £250,000, yn niwedd yr haf diweddaf, 1863.

Nodiadau[golygu]