Tro Ffôl (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Pe Tasai
Nesaf – Fel Daw Tada Adre

Mae Tro Ffôl yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Fy modryb, fy modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo'n dynn,
Mi wn fod yn 'difar i'w chalon cyn hyn.