Tro yn Llydaw/Min Nos Saboth

Oddi ar Wicidestun
Eglwys ar Fryn Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Ynys Arthur

XI.

MIN NOS SABOTH.

"C'est l'heure ou les enfants parlent avec les anges." —

VICTOR HUGO.

YR oedd addoliad Ann Santes wedi troi'n ffair wyllt — y plant wedi gadael allor y santes, ac yn sefyll, gyda'r defosiwn eto ar eu hwynebau, o flaen stondin fferins; y dynion yn pigo eu crymanau, a rhai ohonynt yn sefyll yn bur ansefydlog wrth wneud hynny, ac yn gwenu gwên lydan fel adlewyrch cwpanaid o win coch; y begeriaid yn bendithio'r gwragedd roddent ddimeuau yn eu dwylaw, ac yn tywallt melltithion ar y plant roddent iddynt ddyrnaid o gerrig eirin.

Nid mewn lle fel hyn y medrem ddisgwyl tawelwch nos Sul. Cerddasom i fyny ffordd hir Molaix, ar hyd bryn gweddol serth, ac yn bur fuan yr oeddym yn unigedd gwlad ffrwythlawn dlos. Nid oedd ond ambell fôd dynol i'w weled, yr oedd pawb yn Lannion yn cadw gwyl. Dywedodd hen berson plwy' doeth wrthyf unwaith fod adeg Sasiwn y Bala yn amser wrth ei fodd, — "bydd pawb yno," meddai, ond y bobl oreu gen i." Y llynedd cymerodd lleidr fantais ar absenoldeb y bobl, ac yr oedd llestri arian y persondy'n rhan o'r ysbail

Byth er hynny y mae'r person plwy yn cadw'i lygad ar y bobl oreu genno fo.

Wrth deithio ymlaen hyd y ffordd union, gwelem wraig unig yn sefyll, a buwch fraith yn pori gerllaw. Cyn hir gwelem fod llinyn rhyngddynt. Dynes ganol oed oedd y ddynes, deneu a gwelw, yn dechre crymu cyn ei hamser. Y mae ei hwyneb yn rhy brudd a gwasgedig i fod yn brydferth, — na, daw gwên drosto, .y mae'n brydferth iawn. Wyneb meddylgar ydyw, yn dweyd hanes bywyd o weithio a phryderu dros eraill. Y mae ei dillad yn wael, nid iddi ei hun y mae wedi byw; y mae ei hwyneb yn dyner a phrydferth, — nid am dani ei hun y mae wedi meddwl. Gofynnais iddi yn Ffrancaeg pwy oedd. Ysgydwodd ei phen, ond gyda gwên garedig ar ei hwyneb. Yna treiais Gymraeg, gan gyfeirio at y 'fuwch, dafad,' 'caseg,' a dweyd ei bod yn 'Sul braf.' Dechreuodd hithau lefaru ar unwaith, gwyddwn fod ganddi galon lawn, ac yr oedd yn cymeryd diddordeb ynnom. Dywedasom ein bod wedi dod o'r gogledd, dros y môr. Yr oedd ganddi hithau frawd ym Mhen Pwl, tybed a oeddym yn ei adnabod? Clywais hen wraig yng Nghymru'n gofyn i un oedd newydd ddod o'r Amerig, — "y mae gen inne fachgen yn Sir Benfro, tybed na welsoch chwi o?" Daeth gwên dynerach nag o'r blaen dros wyneb y Llydawes wrth sôn am ei brawd, cofiai am lawenydd a dioddef ieuenctid. Byddaf yn meddwl fod merched yn dioddef mwy na dynion dros eraill, mae'n haws ganddynt aberthu, ymhyfrydant wrth deimlo eu bod yn dioddef dros rai a garant. Pe gwelsem y brawd ym Mhen Pwl, y mae arnaf ofn nad oedd ei chwaer gymaint yn ei feddwl ag oedd ef yn ei meddwl hi. Dyna fuasai nefoedd hon, nid gwlad lawn o seintiau ac offeiriaid a merthyron, ond gwlad lle mae'r rhieni byth yn ieuanc, a'r plant byth yn fach.*

Wrth deithio ymlaen, daethom at dŷ newydd rhyw ddegllath o'r ffordd. Gwelem hen ŵr yn camu dros y rhiniog, ac arosasom ef. Yr oedd yn fyr a cham, ac yn hobian, ond heb ffon; gwisgai het wellt ac esgidiau pren, ac yr oedd ei gôt laes yn cyffwrdd â'i arrau. Yr oedd gwên roglyd ar ei wyneb, a thybaco nid ychydig yng nghil ei foch.

(* Le paradis, ce serait les parents toujours jeunes et les enfants toujours petits." — Victor Hugo.)


"A fedrwch chwi siarad Gallec?"
" Na."
"Mae gennych dŷ newydd braf."
"ia, ia, ty nefe braw."
" Dacw foch gwyn.
"ia, moch gwyn."
"Dacw ddeunydd gwin gwyn ar fur y tŷ."
"ia, gwin gwyn.
"Gwin rhudd ydi'r gore.

"ia," gyda gwên dyn yn teimlo ei fod yn dweyd gwir wrth ei fodd, "ia, gwin felli sy'i efed."

Synnwn ein bod yn deall ein gilydd mor dda, a thynnais lyfr allan i ysgrifennu'r brawddegau. Erbyn i mi godi fy mhen, yr oedd yr hen dderyn wedi dychrynnu, a gwelwn ef yn hobian ymaith, a'i ddwy law ar gefn ei gôt laes.

Daethom at dalcen tŷ tafarn bychan a chlywem gyfri yn yr ardd, — "unan, daou, tri, pefer, pemp, whech, seis, eeis, nao, dec." Rhois fy mhen dros y gwrych, a gwelwn tua dwsin o bobl yn chware. Pan welais gyfle, treiais dynnu ysgwrs, —

"Whare?"
"ia, whare bwlw."
"Whare am arian?"
"ia, ia, am arian."

Bachgen ieuanc tal lluniaidd oedd yn siarad â mi, morwr yn perthyn i'r llynges Ffrengig. Yr oedd wedi bod yn Aber Tawe, yn Fenis, ac yn China, lle y clwyfwyd ef, ac yr oedd wedi cael tri mis o wyliau i fendio. Daeth un arall atom, a mynnai ddweyd ei hanes yng ngwarchae Strasburg. Gadawodd pawb eu chware pan ddeallasant fod yno Gymry, ac yr oedd gan bob un ei air Llydewig i ofyn ai'r un peth oedd yn Gymraeg. Gwaith anuwiol ydyw chware bwlw ar nos Sul, ond yr oedd y bobl hyn yn garedig ac yn foneddigaidd. Gwelsom lawer Sais swta; digymwynas a hunanol oedd y rhan fwyaf o'r Ffrancod gyfarfyddem; ond ni welsom un Llydawiad anfoneddigaidd, cawsom garedigrwydd syml, a gwên ar bob wyneb trwy'r wlad. Troisom yn ol ar hyd ffordd arall, ffordd oedd yn ymdroelli hyd ochr y mynydd, a'r troeon ymron a chyffwrdd â'i gilydd. Cynhir daeth Lannion i'r golwg odditanom, anadlai awel ysgafn drosti tuag atom, ac eisteddasom ar fin y ffordd i edrych ar y dref o dai henafol ymysg coed ar lan yr afon. Ar y drofa odditanom yr oedd amryw wragedd, a phlant yn chware, gan gadw gormod o sŵn, os gormod yw llawer. Oni bai am eu dadwrdd hwy, buasai tawelwch y Saboth yn gorffwys ar yr holl wlad eang o fryniau a dyffrynnoedd welem o'n blaen. Yn sydyn, clywsom dinc prudd ar y gloch fawr. Dyna bennau'r gwragedd yn crymu, ac yr oedd pob plentyn ar ei liniau mewn eiliad, a'i ddwylaw ymhleth, ar ganol y ffordd. "Cloch yr Angel " oedd, a gwyddwn rediad gweddi'r plant, —

"Dyro i ni ras, o Dduw, fel yr adnabyddom ymgnawdoliad dy Fab, ac y'n dyger i ogoniant yr Atgyfodiad drwy ei ddioddef a'i groes.Yn ei enw Ef. Amen."

Eisteddais yn hir i wylio'r plant. Mae plant yn debig i'w gilydd ym mhob man, a disgwyliwn eu cael yn debycach hyd yn oed nag ydynt. Synnai Dafydd Rolant glywed plant yn siarad Saesneg ar gyffiniau Lloegr, a synnwn innau weled plant, a'u hwynebau Cymreig, ar eu gliniau wrth glywed cloch yr Angelus. Yr oeddwn yn ceisio dychmygu ym mhle yng Nghymru y bu plentyn yn penlinio olaf i ddweyd "gweddi'r Angel", pan glywn lais Ifor Bowen yn dadseinio o'r coed gerllaw, —

"Cymru, fy ngwlad, hen gartref y Brython,
Cartref y dewr, ei grud, ac ei fedd."

Yr oedd y gloch wedi tewi, ac yr oedd y plant yn methu dirnad beth oedd y llais o'r coed. Gwn am blentyn feddyliodd unwaith fod ei weddi wedi deffro'r taranau, er mawr ddychryn iddo. Y mae Cymru wedi bwrw ei choelbren gyda Lloegr, a Llydaw gyda Ffrainc, ers canrifoedd bellach, ond wele Lannion odditanaf eto'n berffaith Lydewig, fel y mae'r Bala’n berffaith Gymreig. Rhoddwyd pob dylanwad ar waith i ladd y bywyd Celtaidd yn y ddwy, ond y mae'r plant yn dysgu'r hen iaith eto yn Llydaw ac yng Nghymru. Er hynny, nid yr un fu hanes y ddwy wlad. Ni orfodwyd Llydaw i ymostwng i Eglwys estronol, fel y gorfodwyd Cymru; ni rannwyd bywyd Llydaw, — y pendefig yn erbyn y gwerinwr, a'r gwerinwr yn erbyn y pendefig, — — fel y rhannwyd bywyd Cymru; ni chamesbonnir y Llydawr i'r Ffrancwr, fel y camesbonnir y Cymro i'r Sais; ymfalchia Ffrainc yn Llydaw, gan ddweyd mai'r morwyr Llydewig ydyw gogoniant ei llynges, tra dywed offeiriaid a barnwyr Seisnigaidd Cymru mai hyhi ydyw rhan wrthryfelgar Pryden a chywilydd ei llysoedd cyfraith. Ond gall Cymru ymorfoleddu yn ei gorthrymderau. Dioddefodd fwy o sarhad na Llydaw, ac am hynny y mae gwlatgarwch ei meibion yn llawer mwy effro heddyw. Dioddefodd orthrwm Eglwys faterol hyd nes yr anghofiwyd enw Crist ynddi," ond teimlodd hefyd rym diwygiad na theimlodd Llydaw mohono eto. Yr oedd arnaf finnau awydd diolch i Dduw, heb gloch, am gystuddio Cymru fel ei gwaredid, pan glywn lais Ifor Bowen draw ymhell, —

" Collaist yr oll pan gollaist Lywelyn,"

a phrysurais i lawr ar ei ol.

Troisom i mewn i eglwys Ann wrth fyned yn ol, — yr oedd wedi nosi weithian, — ac yr oedd ugeiniau o bererinion ar eu gliniau ar y llawr pridd. Yr oedd eu hanadl afiach wedi cymysgu â mwg aroglus y thuser, nes gwneud yr awyr mor glos fel na fedrem ni aros pum munud yno. Wedi cyrraedd ein gwesty cawsom hanes yr wyl.

"A fydd gennych chwi wyliau yng Nghymru?"
"Bydd, sasiynau y byddwn yn eu galw.
"Fydd pobl yn meddwi ynddynt?
"Na fyddant. Fe fyddent yn meddwi flynyddoedd yn ol, ond mewn rhyw Sasiwn fe roddodd John Elias feddwon y Sasiwn ar ocsiwn.


"Pwy a'u prynnodd, y diafol? "
"Nage, Iesu Grist."
"O 'roedd yna ŵr yn curo'r wraig, wedi bod yn yr eglwys, ac wedi meddwi. Fydd y gwŷr yn curo'r gwragedd yng Nghymru?"
"Na fyddant, 'dydi'r anuwiolaf ddim mor annuwiol a hynny. Ond, ers blynyddoedd yn ol, fe fyddai curo gwragedd yng Nghymru hefyd, fel y dywed yr hen bennill, —

"Llawer gwaith y bum i'n meddwl
Mynd i'r llan a gwario'r cwbwl,
Dwad adre'n feddw feddw,
Curo'r wraig yn arw arw.'

A dywedai Sian mai felly'n union y mae'r Llydawiaid yn gwneud yn awr. Yr oedd Josephine yno hefyd, ond heb yr het, a chawsom gryn ddifyrrwch wrth ei chlywed yn adrodd neilltuolion gwahanol genhedloedd. Y mae'r Saeson, ebai hi, yn sur a balch, ond yn onest a ffyddlon; y mae'r Cymry'n debig i'r Saeson, ond eu bod yn bruddach, ac yn bwyta llai; y mae'r Ffrancod yn anwadal, yn arw am bleser, yn anuwiol; y mae'r Llydawiaid yn dawnsio ac yn canu ac yn meddwi, ond y maent yn grefyddol iawn er hynny, ac nid fel y Ffrancod.

Meddyliwn wrth gysgu'r noson honno fy mod wedi cael Sul hir a llawn; a phan oedd y golygfeydd a'r dynion yn diflannu, y peth olaf welwn oedd y wraig unig, yn gwylio ei buwch ar y ffordd hir, ac yn gwenu wrth feddwl am ei brawd.