Tro yn Llydaw/Ynys Arthur

Oddi ar Wicidestun
Min Nos Saboth Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Morlaix

XII.

YNYS ARTHUR.

"The island valley of Avalon,
Where falls not hail or rain, or any snow,
Nor ever wind blows loudly."
TENNYSON.

AMSER du, oedd y geiriau cyntaf glywais bore dydd Llun, ac ateb Ifor Bowen, — " Na, amser gwyn." Ifor oedd agosaf i'w le, — yr oedd niwl glaswyn yn gorchuddio'r dref a'i choed, a gwlith — wlaw'n disgyn o hono. Ger llaw ein tŷ yr oedd cerbyd bychan ar gychwyn i Be’rhos a Threcastell, heibio'r fan lle dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno. Gosodasom ein hunain ar un o'r ddwy fainc oedd ynddo, a chyn hir yr oedd cymaint o lwyth ohonom fel y bai'n dda gennyf gael mynd allan, oherwydd cydymdeimlad a'r ceffyl bach buan oedd yn ein tynnu, ac oherwydd fod y lle gawn i'm coesau'n rhyfeddol gyfyrg. Ni fedrwn symud oddiar ymyl gul y cerbyd, hyd yn oed pan fyddai chwip y gyrrwr yn troi'n rhy agos at fy mhen neu pan fyddwn yn cael fy ngwthio drosodd i eistedd ar gant yr olwyn. Yr oedd dyn mawr tew yn y cerbyd, a bum yn synnu laweroedd o weithiau mor hawdd y bydd dyn tew'n disgyn, wrth ei bwysau ei hun, i'r lle mwyaf cysurus ymhobman. Yr oeddwn i'n gysurus wrth gychwyn, ac yn ceisio gwneud englyn i got y dyn tew oedd yn crogi dros y cerbyd; ond cyn hir, trwy ryw ddirgel ffyrdd, yr oedd y dyn tew wedi symud i ganol y cerbyd, a minnau'n ofni bob munud y byddai'r olwyn yn cyffwrdd â mi. Er hynny, cefais beth difyrrwch. Dywedai'r Llydawiaid enwau lleoedd wrthyf, — Caer Efoar, Maesmor, en ar Lan, Croes Hedd, Tre Melfen. Dywedent hefyd enwau pob peth welem. — 'nifel,' 'ceseg,' meizion' (meillion), 'rhod' (olwyn), 'moch,' porchell,' ‘gwenith,' 'haidd.'

Pan ddaethom i olwg y môr ger St. Quay gadawsom y cerbyd a'i drymlwyth, a dringasom fryn serth i Ben rhos Gwirec. Yr oedd y niwl yn codi oddiar y môr, aç ynys ar ol ynys yn dod i'r golwg; daeth yr haul o'r cwmwl, fel Arthur o'i ynys draw, disgleiriodd y tywod, a gwridodd y grug. Yr oedd yn fwll i gerdded. a throisom i fynwent Pe’rhos i orffwys ac i edrych ar yr olygfa swynol o draeth a bryniau. Y mae golwg henafol ar yr eglwys. Gwenithfaen coch yw ei defnydd, ac y mae'n hawdd gweled fod llawer ystorm wedi bod yn curo arni er pan adeiladwyd hi yn y ddeuddegfed ganrif. Y mae ei cholofnau fel pe bai bleiddiaid llidiog wedi bod yn eu cnoi, y mae ei thô yn anwastad a llwyd, y mae pob carreg yn heneiddio yn y mur, nid oes dim newydd yn agos at yr eglwys hon, ond beddau. Aethom i mewn, i'r lle tawelaf fu erioed. Heibio le'r dwfr bendigaid, heibio'r bedyddfaen, heibio i le'r arch, rhwng colofnau ceimion gan henaint, fel coesau hen ddynion, daethom i'r côr, dan oleuni lliwiau hen wydr na all neb yn awr wneud ei debig. Yr oedd distawrwydd y bedd yn llenwi'r eglwys, oni bai am dipiadau cloc mewn cornel bell, ac yr oedd tipiau hwnnw, fel curiadau calon, yn gwneud y distawrwydd yn ddyfnach fyth.

Y mae ei eglwys yn gartref i'r Llydawr. Ynddi y bedyddir ef, dywed hanes ei fywyd o ddydd i ddydd yn ei chyffesgell, a phan ddaw awr marwolaeth teimla y bydd yn ddiogel os rhoddir ei gorff i orffwys ynddi dan y brethyn du a'r groes wen ar ei ffordd i'r bedd. A phan ddaw henaint ac unigedd, y mae'r eglwys yn lle tawel i fyfyrio am ddyddiau ieuenctid ac am hen gyfeillion sydd wedi gadael dyffryn Bacca. Nid oedd ond un hen wraig yno y bore hwn, mor ddistaw a delw, ond clywem swn clocs un arall ar y llawr cerrig pan oeddym yn ymadael.


Fel y Cymro, y mae lle ei fedd yn dir cysegredig i'r Llydawr. Fel y mae cyfraith Ffrainc yn bod, ni raid gadael bedd heb aflonyddu arno ond am ryw ychydig o flynyddoedd, a pheth eithaf tarawiadol oedd gweled fod ambell un wedi prynnu llonyddwch am ddeugain mlynedd." Yr oedd enwau Llydewig ar bob carreg fedd. Yr oedd yno un Marie Yvonne Gallec yn gorwedd, fel y gellir gweled John Sais, neu Sayce, mewn ambell fan yng Nghymru.

Yn Llydaw y mae'r offeiriaid mor Lydewig a neb. Y mae hyn yn cyfrif i raddau pell am eu dylanwad ar y wlad. Mewn cyfarfod pregethu eglwysig yn y Bala, rhoddwyd yr esgob i bregethu yn Saesneg, ac nid ydyw hyn ond enghraifft o'r ynfydrwydd barnol sy'n gwrthod pob moddion i anwylo’r Eglwys i'r wlad. Ond yn Llydaw, y mae'r offeiriaid yn Llydawiaid. Dacw offeiriad ieuanc yn nesau at yr eglwys, meddyliasom am eiliad mai rhyw chwil giwredyn o Gymru oedd, yr un het, yr un goler, yr un gôt, yr un ysgrepan. Prin na ddisgwyliem y Saesneg neis hwnnw, y Saesneg nas mynnir siarad y Gymraeg wledig rhag ei ddifwyno, oddiar ei wefusau. Ond Llydaweg glywsom, iaith ei bobl, ac yr oedd ei bobl yn adwaen ei lais.

Cerddasom ymlaen hyd lan y môr, ac er poethed oedd, gwelem fod gan y Llydawiaid gymaint o ddillad am danynt a phe bai raid iddynt wynebu rhewynt Tachwedd neu eirlaw Chwefrol, esgidiau pren, trowsus llac carpiog wedi ei glytio fel na welid beth oedd y brethyn gwreiddiol, crys a'r patrwm wedi ei osod bob ffordd, fel pe bai ei wisgwr wedi ei wneud o ddarnau o bobl eraill. Peth digri oedd gweled y plant oll wedi eu gwisgo mewn dillad pobl; gwelsom eneth a'i nain, y ddwy mewn pais stwff a chap, ac ni wyddem o'r tu ol p’un oedd yr eneth seithmlwydd a ph'un oedd yr hen wraig saith mlwydd a thrigain.

Yr oedd y tai welem oll fel ei gilydd, — tô brwyn, llawr pridd, cypyrddau ac addurniadau efydd hir ar eu drysau, bord gron, llestri a llwyau pren. Wrth bob tŷ, gwelir teisi eithin, llyn chwid, a moch yn ymdorheulo; a chlywir arogl y rhedyn sy'n llosgi dan y crochanaid tatws. Trwy wlad o dai lliosog, daethom i La Clarte, pentre tlawd o dai gwael o amgylch eglwys hen. Pan ddaethom at y porth, gwelem ddyn yn eistedd o flaen drws mawr yr eglwys, ac yn ceisio tynnu lluniau'r cerfwaith carreg, — yr Iesu’n marw, y Forwyn a'i baban, y deial, — oedd ar y mur o'i flaen. Nid gwaith hawdd oedd hyn, oherwydd yr oedd tyrfa o blant a chŵn yn gwasgu arno o'r tu ol, ac yn cymeryd y diddordeb mwyaf yn y darlun, fel ag yr oedd yn rhaid i'r arlunydd druan fod ar ei ochel rhag i fys budr neu drwyn ci gyffwrdd â'i baent gwlyb. Pan ddaethom ni i'r golwg, cafodd yr arlunydd lonydd gan ei feirniaid, rhedasant oll i'n cyfarfod, y plant i fegio, a'r cŵn i ysgwyd eu cynffonnau. Cyn i'r begeriaid ein byddaru, daeth nifer o Ffrancod bach tewion diamynedd, a merched i'w canlyn yn gwasgar perarogl o’u sidanau, o gerbyd gerllaw. Rhuthrodd y dorf o fegeriaid ar draws ei gilydd at y rhai hyn, a chawsant un Ffrancwr hael, a dime i'w rhoddi. Yr oedd ugeiniau o ddwylaw diddaioni o'i flaen, ac ugeiniau o gegau yn dolefain disgrifiadau o ystad y tlawd. Aethom i borth yr eglwys, ac yr oedd llond y ddwy fainc o fegeriaid, yn murmur eu cwynfan wrth i ni fyned heibio. Y mae'r bobl hyn yn begio wrth eu tylwythau, — gwelsom nain a mam a merch yn estyn eu dwylaw am gardod ar unwaith. Gwelsom bobl dlodion garpiog yn gweithio'n galed, gwnaent unrhyw gymwynas inni, ac ni ddisgwylient, rhagor gofyn, am gardod. Ond am rai eraill, dysgant fegio oddiar y fron, — gwelsom lawer baban wedi ei ddysgu i estyn ei law fach oddiar fron ei fam, — ni wnaent gymwynas dros eu crogi, a dyma'r bobl mwyaf aniolchgar ar wyneb y ddaear. Rhennir trigolion Llydaw, fel y rhennid y Cymry gynt, yn ddau ddosbarth, — y bobl sy'n cynyrchu, a'r bobl sy'n difa'r hyn gynyrchir gan eraill. Gwaith y dosbarth cyntaf yw llafurio ac aberthu. A gwaith y lleill, — "defaid y gadles," fel eu gelwir, — yw bwyta'r mêl o gychod rhai eraill, cardota, gwlana, bendithio â'r genau, a melltithio â'r galon. Nid oes ond un tlodi anrhydeddus, — tlodi fel tlodi ein Gwaredwr, — tlodi y syrthiwyd iddo trwy weithio a dioddef dros eraill. Fel y mae gwlad yn dod yn fwy crefyddol, diflanna'r cydau cardod, ac amlha gweill, ceibiau, a rhawiau.

Y mae'r ffordd o La Clarte i Blw' Manach gyda'r ryfeddaf fum i 'n deithio erioed. Dringasom i gopa bryn, ac i frig craig anferth orffwysai ar ei ben. O'n blaen yr oedd anialwch o greigiau erchyll, neu yn hytrach o gerrig llwydion yn bentyrrau ar ei gilydd. Gallem yn hawdd ddychmygu mai rhyw anialwch dwyreiniol ymestynnai o'n blaenau, a'r cerrig fel camelod yn gorwedd arno, a'r Ffrancesau sidanog welsem yn La Clarte fel ambell i fflamingo oleugoch ysblenydd yma ac acw. Gyda min yr anialwch hwn gwelem dawelwch dedwydd eangder y môr.

Wrth ymlwybro rhwng y cerrig, bron na feddyliem mai pennau cawrfilod, penglogau hen anifeiliaid y cynfyd oeddynt, y gwylltfilod y byddis yn breuddwydio am danynt, wedi eu troi'n garreg. Rhwng y cerrig, gwelem feysydd gwenith aeddfed, a llwybrau glaswelltog, a thai crynion dieithr, — magwrle plant bach tlws, rhy swil i fegio, a iechyd tlodi ar eu gruddiau, yn dianc i syllu arnom o ben carreg uchel neu o ddôr fwaog eu cartref. Gwelsom dŷ a'i adeiladau wedi eu codi ar un garreg wastad, ac yr oedd lle ar yr un garreg i fuarth eang a theisi gwair. Yr oedd un garreg fel llew wedi neidio ar gefn yr hydd, ac yn gafael â'i ddannedd yn ei ysgwydd; yr oedd rhai eraill fel chwilod wedi chwyddo i faintioli aruthrol. Ai'r cerrig yn fwy ac yn amlach fel yr elem ymlaen, yr oeddynt fel cawrfilod wedi gorwedd ar ei gilydd yn bentwr.

Gyda i ni gyrraedd glan môr, disgynnodd y niwl gwyn trwchus ar y ddaear drachefn, ac yr oedd rhywbeth ofnadwy yn yr olygfa ar y cerrig mawr drwy'r niwl, a rhu'r môr yn adseinio o honynt. Gadawsom breuddwyd cynhyrfus o greigiau ar ein hol, a theithiasom ar hyd y traeth i Blw' Manach. Y peth cyntaf welsom oedd delw Gwirec Sant, a'i wyneb tua'r môr, oherwydd gweddio dros forwyr yw ei waith. Yr oedd dwy fam yn dysgu i'w plant gerdded o amgylch traed y saint, a dywedent wrthym mai amser sal" oedd at weled y wlad, oherwydd y niwl. Gerllaw yr oedd capel y sant, ac ar hyd ein ffordd gwelem ddarnau o groesau, wedi eu malurio gan yr hin. Aethom drwy bentref Plw' Manach, a daethom at ddwy felin droir gan y môr. Y mae argae wedi ei wneud ar draws genau cwm main, agorir y llif — ddorau pan fo'r môr yn dod i mewn, a cheuir hwy pan fydd yn dechre treio. Gadewir digon o ddwfr i droi'r melinau sydd ar yr argae hyd nes y daw'r llanw i mewn drachefn. Clywsom yr arog] blawd wrth basio'r melinau, a gwelem resi hirion o Lydawiaid yn mynd ar ol ei gilydd, fel gwyddau, a'u beichiau ar eu cefnau tua'r felin. I Blw' Manach y bydd pobl Tregastell a'r wlad o'i hamgylch yn dod "i'r môr." Gwelsom hwy yn eu dillad goreu, yn llewys eu crysau rhag dwyno eu côt, yn edrych ar y pysgotwyr oedd yn brysur ar y traeth. Weithiau cyfarfyddem amaethwr yn gyrru cerbydaid o blant iach, a phrin yr oedd amser i gael gair wrth basio, —

"Ai dyma'r hynt i Dregastell? "
Ia, ia, dena hi."

Dywedir "Ie, Ie" gyda mwy o bwyslais yn Llydaw nag yng Nghymru, fel y bydd dyledus yn dweyd wrth ei ofynnwr pan fo hwnnw'n darlunio ei fawr angen am arian.

Yr oeddym yn troi ein cefnau ar y môr, ac yn cychwyn i Lannion ar hyd ffordd arall. Cyn dod i Drecastell, eisteddasom dan gysgod coed eglwys fechan y Graig Arian, ar ben bryn. Yr oedd amryw bentrefydd mân o dai to brwyn o'n hamgylch, a pherllannau afalau, a chaeau gwair, a gwenith, a thatws, a chloddiau gyda mawn yn sychu ar eu pennau. A thraw yr oedd y traeth tywodlyd fel llawr aur, a'r niwl fel gorchudd o geinwaith arian drosto. Tybiem ein bod yn gweled amlinelliad gwan y Saith Ynys trwy'r niwl, ond hwyrach mai dychmygu yr oeddym. Cofiasom mai yn rhywle ar y traeth niwliog dieithr o'n blaenau y dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno, i iachau ei glwyfau, ac i aros am gyflawnder yr amser i wared ei genedl. Y mae'n debig fod Arthur yn bod fel duw rhyfel y Celtiaid cyn i'r Cymry a'r Llydawiaid ymwahanu pan orfod iddynt ymladd, — y Cymry'n erbyn y Saeson, a'r Llydawiaid yn erbyn y Normaniaid, — daeth y duw rhyfel yn arwr cenedlaethol, yn ymladd yn erbyn ei elynion, ac yn syrthio trwy frad Modred ym Mrwydr Camlan. Y mae gan y Cymry a'r Llydawiaid er hynny Afallon, eu Harthur yn huno, a'u gobaith am atgyfodiad ysbryd eu cenedl. Y mae Arthur wedi deffro yng Nghymru, ond y mae Arthur Llydaw eto’n huno dan y traeth disglair acw.