Tro yn Llydaw/Ynysoedd Dedwydd
← Mynd i'r Môr | Tro yn Llydaw Corff y llyfr gan Owen Morgan Edwards Corff y llyfr |
Dinas Malo |
II.
YNYSOEDD DEDWYDD.
“Efe a wareda ynys y diniwed,
A thrwy lendid dy ddwylaw y gwaredir hi.”
JOB.
MEWN ffordd gŵyr teithwyr yn dda am dani, enillasom barch serch hen stiward patriarchaidd y llong. Cawsom y gwelyau goreu, a daeth yr hen frawd i esmwythau ein pulw ac i ddweyd nos da. Cysgais i, wedi rhoi cadach coch am fy mhen a dweyd fy mhader. Tybiwn glywed sŵn y môr yn ymgryfhau, ond ni wyddwn pa un ai'r llong oedd yn cychwyn trwy'r tonnau, ynte ai myfi oedd yn crwydro ar hynt freuddwydiol. Yr oedd y bore wedi torri pan ddeffroais, a chlywn ru'r dyfroedd wrth i'r llong ymdreiglo fel peth meddw drwyddynt. Neidiais oddiar fy silff, ac wedi syrthio ar draws pob celf oedd ar fy llwybr, cyrhaeddais y dec. Taflodd ton gwr gwyn ei mantell ar draws fy nannedd wrth fynd heibio, a gwnaeth fi'n effro iawn. Edrychais yn ol tua Lloegr, nid oedd ond tonnau brigwyn, fel mynyddoedd dan eira, yn y cyfeiriad hwnnw. Gofynnais i forwr lle'r oedd y Caskets, gan fod arnaf eisiau gweled y môr yn trochionni o'u cwmpas. Yr oeddym wedi eu pasio ar y cyfddydd, ac yr oedd ynys Guernsey'n dechre dod i'r golwg. Eis i lawr i ddweyd bore da wrth Ifor Bowen. Ni fedraf ddarlunio saldra'r môr, yr oedd yno lawer yn llawenychu wrth fy nghlywed yn dweyd fod Guernsey yn ymyl, ac ni chlywais neb yn canu, —
"Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd."
Rhwng y Caskets a Guernsey, y mae môr na fydd byth yn llonydd; pan fo'r tonnau'n gorffwys ymhobman arall, byddant yn ymladd ac yn ymwylltio yma. O noswaith yn yr haf, yr oeddym wedi cael mordaith ystormus; ac er fod y bore'n dawel, yr oedd y llong yn dal i godi a syrthio ym maes brwydr y tonnau aflonydd hyn. A thra'r oedd y llong yn ymlwybro rhwng y creigiau perigl sydd ar draethell Guernsey, yr oedd nifer o wynebau gwelwon, wynebau rhai na fynnent sôn am frecwest, yn edrych yn hiraethlawn tua'r lan. Cyn hir, angorasom yn hafan dawel Pedr Sant. Yr oedd y cei'n llawn o bobl yn disgwyl am danom, a thra'r oeddym yn cerdded hyd y bwrdd i edrych ar y dref orchuddiai'r hanner cylch o fryniau sy'n cysgodi'r porthladd, yr oedd rhywun beunydd yn cynnig i ni bapur newydd, neu'n dangos basged lawn o rawnwin gwyn a choch.
Prin yr oedd yr haul wedi cynhesu, — nid oes neb mor ddiolchgar am gynhesrwydd yr haul a'r rhai fu'n sal ar y môr,— pan welwyd merched y ffrwythau'n prysuro i'r lan, a gwelsom y bobl ar y cei yn mynd bellach bellach oddiwrthym. Moriasom gyda glan yr ynys, cyn troi i'r môr agored. Gwelsom fod Guernsey wedi ei hamgylchynnu gan fur o greigiau uchel. Wrth odre y rhai hyn y mae digonedd o fôr lysywod, ac yn y tyllau sydd yn eu bronnau duon, ymnytha miloedd o wylanod. Tra'r oeddwn yn syllu ar y creigiau, ac ar y llanerchi tatws welwn dros rai ohonynt, clywn lais yn gofyn a welais Guernsey o'r blaen. Hen ŵr oedd yno, wedi dod i'r llong yn Guernsey, hen ŵr cam, wedi plannu llawer o datws, ac wedi gwneud llawer o arian. Rhyw un mil ar bymtheg o aceri ydyw'r ynys, meddai, ac mae dau ddyn ar bob acer ar gyfar- taledd, ac y mae pob acer yn werth deg punt o rent. Porir rhyw un ran o dair o'r ynys, gorchuddir dros ei hanner gan datws. Cludir y rhai hyn i Lunden ar hyd y môr; ac er cymaint y pellter, gellir cystadlu à lleoedd yn ymyl y ddinas, gan na thelir rhent na threth ar y môr, —
Heb rent nac un gofynion
Yn y môr,
Ni thelir treth tylodion
Yn y môr.
Yr oedd yr hen ŵr yn meddwl y byd o'i ynys. Siaradai am ei senedd, am y cyfreithiau wneir gan yr ynyswyr eu hunain, am gyfoeth a diwydrwydd y bobl, am yr awyr dymherus, am y caeau blodeuog, heb dwrch na llyffant na dim gwenwynig. Synnai nad oeddwn wedi clywed am lili'r ynys. 'Does dim arogl arni, meddai, ond y mae'n un o flodau prydferthaf y byd. Mewn dull rhyfedd y daeth i Guernsey, brodor o Japan yw. Aeth llong oedd yn dychwelyd o Japan yn ddrylliau ar y creigiau hyn ryw ddau can mlynedd yn ol. Ni achubwyd neb, ond cludodd y tonnau lili i'r lan, a gwreiddiodd hithau yn agen y graig. Bu yno am flynyddoedd heb i neb syllu ar ei thlysni, ond gwelodd rhyw bendefig hi, a daeth y lili yn wrthrych edmygedd y byd. Ac hyd heddyw, ni fyn flodeuo mor brydferth yn unlle ag yn yr ynys lle'r achubwyd hi.
Wedi i'r llong adael cysgod creigiau Guernsey, ail ddechreuodd y tonnau ei lluchio, a thorrai'r môr yn genllif ewynog drosti weithiau. Canlynid ni gan rai o'r gwylanod, ac wrth deimlo ysgytiadau ein llong afrosgo feddw ni, eiddigeddwn wrth eu mordaith dawel hwy uwch ein pennau, yr oedd y gwynt mewn heddwch a hwy, prin y cyffyrddai â'r un o’u plu eiraog. Pan fyddai'r llong ar frig y don, gwelwn yr ynysoedd eraill. Yr agosaf atom oedd Jethou fechan, gyda'i deugain acer a'i phedwar preswyliwr. Y tuhwnt iddi gwelem Herm, lle mae glaswellt ar y ffyrdd ac ugain o bobl. Y mae Sark, y bellaf welem, yn fwy, ac y mae arni chwe chant o bobl. Ymgodai fel mynydd grugog o'r môr aflonydd lle collwyd cynifer o fywydau. Cyn hir. gwelwn Jersey, y fwyaf a'r bwysicaf o'r ynysoedd Buom awr yn morio gyda'i glan i St. Helier, ei phrif ddinas. Y mae hithau mewn rhwymyn o greigiau gwenithfaen, dorrir gan ambell i fau, gyda thywod melyn a chaeau tatws, fel pe bai llawnder yr ynys yn rhedeg drosodd.
Er fod yr ynysoedd hyn yn perthyn i'r goron Brydeinig y mae pob un o honynt mewn gwirionedd yn weriniaeth. Perthyn i Normandi yr oeddynt, a hwy'n unig sy'n aros o feddiannau Ffrengig brenhinoedd Normanaidd Lloegr. Penodir prif swyddog yr ynysoedd, — y beili, — gan y frenhines, a gellir apelio ati o'r llysoedd cyfraith. Gyda hyn o eithriad, rheola'r ynyswyr eu hunain. Ymgyfarfyddant yn eu senedd, gwnant gyfreithiau, codant eu cyllid fel y mynnont, rheolant eu haddysg a'u masnach yn ol eu hewyllys. Sieryd pawb Saesneg a Ffrancaeg yn rhigil, er mai Ffrancaeg yn unig siаredir yn y seneddau, oherwydd mai hi yw hen iaith yr ynys. Y mae pobl ddwyieithog yn ddeallgar ac yn dda allan bob amser; nid oes gwell addysg at fasnach yn bod na dysgu dwy iaith. Y mae ynyswyr y Sianel yn feddylgar, yn gynnil, yn meddu eiddo eu hunain. Yn aml, hwy bia eu ffermydd bychain; a phan nad ydynt ond tenantiaid, ni fedrir eu troi ymaith tra bônt yn talu'r rhent arferol. Ar farwolaeth y perchennog, rhennir y tyddyn rhwng ei ferched a'i feibion, fel y gwneir yn Ffrainc; ni roddir braint i'r mab hynaf, fel y gwneir yn Lloegr. Y mae y dull hwn yn fwy rhesymol, ond y mae iddo ei anfanteision. Yn Ffrainc, y mae'r ffermydd wedi eu rhannu mor fân fel y gellwch neidio o glawdd i glawdd dros y wlad. Ond yn Jersey, ni ellir rhannu pan elo'r ffarm yn rhyw dair acer. Nid yw'r ddaear yn naturiol ffrwythlawn, ond trwy ynni'r ynyswyr a'u medr amaethyddol, codir gwerth can punt oddiar un acer mewn un flwyddyn. Gwyddant pa ddefnydd i wneud o'u tir, gwyddant pa wrtaith y mae yn ofyn, a gwyddant ym mha farchnad i werthu eu cynnyrch. Y mae gan Gymru ei dwy iaith, fel Jersey, er na siaredir ei Chymraeg yn ei hysgolion na'i llysoedd cyfraith na'i chynghorau. Pe ceid hynny, a phe cai amaethwyr Cymru fanteision amaethwyr Jersey, sicrwydd am eu tyddynod, rhent deg, ac addysg amaethyddol, — byddent mor ddiwyd a chyfoethog a'r ynyswyr dedwydd hyn.