Neidio i'r cynnwys

Tro yn Llydaw/Dinas Malo

Oddi ar Wicidestun
Ynysoedd Dedwydd Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Craig y Bedd

III.

DINAS MALO.

“We have had enough of action, and of motion we, Rolled to larboard, rolled to starboard, while the furrow followed free."
TENNYSON.–The Lotus Eaters.

TRA'R oeddwn yn meddwl am ddyfodol Cymru, teimlwn law Ifor Bowen ar f’ysgwydd, yr oedd newydd ddod i fyny o'r caban, ac wedi darganfod fod y llong yn agos iawn i'r porthladd. Gadawsom St. Aubin a'i bau bach tlws, ac ymhen ychydig, aethom i mewn i borthladd St. Helier. Yr oedd arnaf fi awydd am gael syllu ennyd ar y porthladd a'r gaer sydd yn ei wylio, ond yr oedd ar Ifor Bowen awydd am gael ei draed ar y ddaear, a gwybod i ba westy yr aem. "Deuwch gyda ni," ebai'r hen ŵr o Guernsey, "chwi hoffwch y lle'n fawr." Dilynasom ef a'i gwmni o'r llong, cerddasom ar hyd y cei hir a thrwy heol gul i ganol y dref, — lle'r banciau, a'r siopau, a'r llyfrgelloedd,— a chawsom ein hunain yng nghyntedd y Birmingham Hotel, dan gysgod gwinwydd gleision. Rhoddodd Mrs. Rondel groeso cynnes i ni, a gwahoddodd ni at y bwrdd, gan fod y cinio'n barod. Rhoddwyd ni'n dau i eistedd ar law dde'r westywraig, a'n cym- deithion ar yr aswy. Yr oedd pedwar ohonynt, — yr hen ŵr cam; ei wraig, un wedi ei gwneud at drin y byd, yn gwybod i'r chwarter ffyrling faint oedd pris pob peth; ei ferch, geneth welw o bryd du, rhyw bump ar hugain oed, un fedrai bario tatws wrth fodd ei mam, a chanu'r piano er anystwythed ei bysedd; a chyfaill iddynt, hen fachgen mawr trwchus, a gwallt cyrliog, cyn hyned agos ag Wmffre Gam ei hun. Ein tyb oedd ei fod wedi priodi'r eneth, a dywedodd Mrs. Rondel wrthym yn ddistaw bach mai felly'r oedd. Deallasom hefyd fod rhyw Wil Hopcyn yn y chware, a'i fod wedi gorfod canu erbyn hyn, —

“Ym Mhen y Bont ar ddydd y farchnad
Cwrdd a 'nghariad wnes i ’n brudd,
'Roedd hi'n prynnu'r wisg briodas,
A'r diferyn ar ei grudd.”

Un golwg ar wyneb Sian O'Falus oedd yn ddigon i ddangos nad oedd siawns i Wil am yr eneth yn erbyn Ionfawr Bwrs. Pobl dawel foneddigaidd oedd y pedwar hyn, a'u hymddygiad yn wylaidd a charedig. Yr oedd saith neu wyth o Saeson wrth y bwrdd hefyd, ac nid oedd y rhai hyn yn dawel nac yn foneddigaidd. Yr oedd yno ŵr ieuanc heb ddim talcen, ond yn meddu gwddf fel gwddf tarw, yn siarad yn ynfyd ac yn chwerthin yn ynfytach. Yr oedd yno un ddynes yn eu mysg, yn cadw cymaint o sŵn a phymtheg o wragedd pysgota. Yr oedd Sian y Llais wedi cael addysg dda, ond synnai'r eneth arall ati, er nad oedd hi ond geneth bario tatws. Y mae rhyw wylder na fedr yr addysg uchaf ei roi, ac na fedr y diffyg addysg mwyaf ei guddio. Gofynnodd Sian Lais i Ivor Bowen ysgrifennu pennill yn ei llyfr, a daeth ag ef ataf fi i ofyn beth oedd, —

"Bum edifar fil o weithiau,
O waith siarad gormod geiriau;
Ond ni'm blinodd gofid creulon,
O waith siarad llai na digon."

Yn y prynhawn buom yn cerdded trwy dref St. Helier, ac anaml iawn y gwelsom le tlysach a glanach. Y mae ynddi rhyw wyth mil ar hugain o drigolion, heblaw'r lliaws dieithriaid, ac y mae ei hystrydoedd a'i siopau yn batrwm i ddinasoedd y byd. Y mae ei thrigolion mor foesgar a'r Ffrancod, ac mor onest a'r Saeson. Dringasom Fryn y Crogbren, — yr oedd yr haul ar y môr, a'r ynys a'i thref yn ddarlun o ddedwyddwch a golud odditanom. Eisteddasom ar y glaswellt tan welsom yr haul yn colli dros orwel y môr. Daeth awel ysgafn i suo trwy'r coed odditanom, ac yr oedd seindorf filwrol yn chware alawon pruddglwyfus adwaenem mewn parc cyfagos wrth i ni droi i'n gwesty i orffwys.

Yr wyf yn credu fy mod i wedi dysgu y rhan fwyaf o'r ychydig a wn mewn gwestai wrth deithio. Bydd gennyf awr neu ddwy "rhwng min nos a phryd swper," bydd rhyw lyfr yn sicr o fod yn fy nghyrraedd, a chaf rywbeth ynddo dyf yn fy meddwl. Yn y Birmingham Hotel bum yn darllen hanes rhyfel yr Amerig mewn cyfrol o hen bapurau newyddion, ac yn edrych drwy lyfr y gwesty, lle'r oedd gwesteion blynyddoedd wedi torri eu henwau. Pobl ddinod oedd yr ysgrifenwyr i gyd, ond nid oedd eu sylwadau’n hollol aniddorol. Hyd bresych Jersey oedd wedi dal ar feddwl un, rhadlonrwydd tybaco ar feddwl un arall. Yr oedd un wedi cael gorffwystra meddwl, ac un arall wedi cael pys gleision wrth ei fodd. Yr oedd rhyw weddw o Ffrainc yn gweld Jersey cyn dlysed a Pharis, ac yr oedd rhyw Ffilistiad o Sais yn datgan ei lawenydd ei fod yn myned ymaith. Yr oedd Gwyddel wedi canmol cyfreithiau Jersey, Albanwr wedi talu teyrnged i'w hamaethyddiaeth, a geneth Ffrengig wedi dweyd am lygaid gleision ei merched. Hawdd ydyw adnabod yr ysgolfeistr, y prentis siopwr, y penteulu, y morwr, yn y llyfr hwn.*


*Dyma bigion o'r llyfr :

Name. Residence Going to Events, Adventures, Remarks
N. A. Graves Putney Mrs. N. A. Graves O, had I the wings of a dove!
W. Fair London London Interesting scenery, wore a top hat, got it smashed.
Evan Carp Wellington Guernsey Got married at Troglodyte ; wish I hadn't.
J. P. Probert Llanelly Home, sweet home
Mme. Torquet Le Mans Carteret Pour moi, Jersey est un petit Paris
Louise Dulac Avignon Granville Les Anglaises ont de beaux yeux bleus.
R. Roberts Cardiff S. Malo Immense!
Joseph Andrews Manchester Guernsey They grow the cabbage ten feet high.
Walter Bull London Southampton Very glad I am going away.
E. F. Curl Bedford St. Pierre I came, I saw, I was conquered.
Sarah Dew Derby Home I saw everything, and everybody saw me.
W. Dickson Liverpool Weymouth Good feeding at a moderate cost.
M. E. Bligh Grimsby Die, if I remain here. Good place for umbrella and mackintosh trade.
J. Cicero Wall Balham London A fraud of an island, highly over-rated.
Adieu, sempiterna saecula.
Sydney Blake Plymouth Plymouth Jolly place, sorry pears weren't ripe.
J. Poole Ludlow Weymouth A. 1
Ifor Bowen Meirion Llydaw Gwyn fyd na chai Cymru fanteision Jersey.

Bore drannoeth yr oeddym yn gorfod ail gychwyn i'r môr, — aros yn Jersey fuasem yn hoffi. Yr oedd y môr yn dawel, a symudiadau'r llong yn esmwyth. Ciliodd Jersey'n ol tua Lloegr, gwelem greigiau perigl ynysoedd Chausey ar ein haswy rhyngom ag arfordir Normandi, ac ymhen rhyw ddwy awr a hanner gwelem Lydaw'n ymestyn ymhell i'r gorllewin. Nid oedd ond chwe Phrydeiniwr ar y llong, — nyni'n dau, a phedair Saesnes. Bu'r pedair hyn yn cyd-deithio tipyn â ni, ond ni ddaethom yn rhyw gyfeillgar iawn. Mam a thair merch oeddynt, y fam yn credu mewn gwario cyn lleied ag a fedrid, a'r merched yn ofni fod hynny'n arwydd o ddiffyg "dygiad i fyny." Wrth y tŷ coed lle codir tocynau ar gei Jersey y cyfarfyddasom gyntaf. Wrth i mi wasgu ymlaen i gael tocyn, dywedodd y fam yn awdurdodol mai eu tro hwy oedd y nesaf, a gosododd ei harswyd arnaf. Sefais yn y pen pellaf i'r llong oddiwrthi, gydag Ifor Bowen a rhyw Lydawiad. Yr oedd y Llydawiad yn troi adre ac yn canu nes oedd y creigiau'n diaspedain wrth i ni neshau at ddinas Malo Sant.

Dyma'r lle cyntaf welsom yn Llydaw. Saif ar graig red allan i'r môr, a gwelsom fod mur uchel cadarn yn amgylchu'r ddinas. Glaniasom yn olaf rai. Daeth dau filwr i chwilio'n hysgrepan a'n pocedi, a gwelsom dyrfa ohonynt yn agor cistiau’r merched Seisnig, mawr fraw iddynt. Gwrthodasom gymeryd ein harwain i'r un gwesty, ond cerddasom yn hamddenol trwy borth enfawr i'r dre, a dechreuasom ddringo y stryd. Pan oeddym ar ei chanol, aeth cerbyd y Grand Hotel Franklin heibio, a'r pedair Saesnes ar ei ben. Edrychasom ar gerdyn y gwesty hwn, roddasid inni gan ryw hogyn,-

GRAND HOTEL FRANKLIN. Mae'r tŷ'n adnabyddus am ei gysur. Ystafell ardderchog i giniawa. Pris pymtheg swllt y dydd, heb gyfri gwin a gwasanaeth. Cerbyd wrth bob tren Siaredir Saesneg."

Lleoedd i'w gochel fel rheol ydyw gwestai y siaredir Saesneg ynddynt, os meddylir am weld y wlad, ac yn enwedig os cynilir. Wedi cyrraedd yr eglwys, — y mae'r tai goreu braidd bob amser yn ymyl yr eglwys a'r siopau llyfrau, — troisom ar y dde hyd Stryd y Gemau, ac yna i lawr hyd stryd gul uchel, hyd nes y daethom at westy a'i wyneb wedi ei guddio gan flodau. Dau arwydd sydd gen i fod gwesty'n gysurus a'r bobl yn onest, — gweled llyfrau a gweled blodau, — ac ni siomwyd fi erioed. Aethom i'r Hotel du Centre, a daeth Llydawes i'n croesawu. Eisteddasom mewn ystafell lawn o ddodrefn derw du, wedi eu cerfio'n gelfydd, a thynasom ysgwrs. a dwy Ffrances oedd wedi dod o Le Mans i'r môr. Ni wyddent fawr am Lydaw, ond edmygent y dodrefn Llydewig yn fawr. Holent lawer am Loegr, a gofynasant inni ai gwir yr hyn a ofnent, — nad oeddym ni'n dau'n coleddu'r wir ffydd Gatholig. Cyn i ni orffen esbonio Calfiniaeth iddynt, canodd y gloch ginio. Arweiniwyd ni i ystafell eang drymaidd, y mae gorchudd- lenni gwyn ar holl ffenestri Llydaw, — a chawsom gyfle i sylwi ar wisg y Llydawesau, eu capiau gwyn, eu hwynebau tywyll prydferth pruddglwyfus. Ni siaredir Llydaweg yn y dref, meddent, ond ceir ef yn y wlad oddiamgylch. Ceisiwyd un o weision bach y gwesty, bachgen o'r wlad, a sicrhai ef y cwmni ei fod yn ein deall yn siarad Cymraeg. Rhowd terfyn ar ei Lydaweg gan ddau ddaeth i chware rhywbeth tebig i Godiad yr Ehedydd ar y delyn a'r crwth. Pan ddistawodd y delyn, aethom allan i grwydro drwy'r ystrydoedd. Synnem at uchter y tai, pob un yn bedwar neu bum uchter llofft, ond cofiasom nad oes ond ychydig o le ar y graig gadarn hon, a bod yn rhaid gwneud y goreu o hono. Cul iawn ydyw'r ystrydoedd a budr; teifl pawb yr hyn nad oes arno ei eisiau i'r heol, ac erys hwnnw yno, i wasgar ei ddrygsawr, hyd nes y daw'r glaw'n genllif hyd yr ystrydoedd serth i'w olchi ymaith. Cyn belled ag y mae a fynno carthffosydd â gwareiddiad, y mae Llydaw gan mlynedd ar ôl.

Cyrhaeddasom yr eglwys gadeiriol — y mae St. Malo'n un o saith esgobaeth Llydaw, ac aethom i mewn Y mae pob eglwys Babyddol yn agored bob amser, gellir myned iddi i addoli neu i orffwys. Am eglwysi a chapelau ein gwlad ni, gellid meddwl mai at y Sul yn unig yr adeiladwyd hwy, ac na ddylid addoli ond ar y dydd hwnnw. Os mynnir gweled eglwys neu gapel, rhaid holi a chwilio am yr allwedd ar led gwlad. Pam na adewir hwy yn agored, fel y medrir dianc o dwrf y byd iddynt, i fyfyrio neu i ddarllen? Yr oedd canghellau bwaog yr eglwys hon yn llawn o blant a gwragedd a merched yn eu capiau gwyn, a'u basgedi ar lawr yr eglwys wrth eu hochr. Yr oedd yno lawer o ofergoeledd, a defosiwn, a phrydferthwch. Yr oedd difrifwch addoliad ar yr holl wynebau tlysion, — gwelsai Dafydd ap Gwilym lawer Morfudd yma. Yr oedd mawredd y colofnau a goleuni tyner y ffenestri lliw'n dylanwadu arnom ninnau er ein gwaethaf, a theimlem rywbeth tebig i awydd addoli'n dod drosom. Ond, wedi mynd allan, teimlem mai dylanwad arwynebol oedd dylanwad yr eglwys; gwanhau ein meddyliau a wnai, gwneud i'n heneidiau suddo i ddiogi, a thybied fod y diogi’n addoliad. Deffro’r meddwl ddylai addoliad iawn wneud, a'i yrru i chwilio am wirionedd, i ymhyfrydu mewn hiraeth am Dduw. Wedi gadael yr eglwys teimlem ein meddyliau'n wannach a gwacach, a'n heneidiau'n fwy llesg — ac arfer gair sathredig, teimlem fod y colofnau a'r goleu wedi ein gwneud. Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn. Ni cheir yma y nerth enaid rydd yr efengyl, ni cheir yma y dwfr bywiol sydd yn gwneud yr enaid unigol yn breswylfa Duw. O bell y mae Pabyddiaeth yn dlws a swynol, ond ni wna ond twyllo'r enaid â dwfr na fedr ddisychedu. Pe gwelai'r Llydawiad yr Iesu, ei weddi yn ei eglwys fyddai, — "Arglwydd, dyro i mi y dwfr bywiol, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr."

Yr oedd yn dechre nosi pan adawsom yr eglwys, ac yr oedd yr heolydd yn edrych yn gulach a duach yng ngoleuni egwan yr ychydig lampau wrth i ni droelli drwy'r farchnad bysgod a ffordd rhyw santes i'r Place Chateaubriand, y lle agored sydd dan gysgod y castell anferth saif ar yr unig wddf o dir sy'n cysylltu St. Malo a'r lan. Yr oedd seindorf y milwyr yn chware yno, a hanner pobl y dref yn eistedd dan y coed i wrando ar y canu ac i yfed gwin rhudd. Gwan a chelfyddydol a dienaid oedd y miwsig, — miwsig Ffrainc, nid miwsig Llydaw. Yr oedd yr awyr yn drom, yr oedd y gwres yn gwneud i arogl anioddefol godi o fudreddi'r ystrydoedd, yr oedd sŵn y seindorf yn fyddarol, — gadawsom y lle chwyslyd llychlyd poeth, ac esgynasom i ben y mur. Daeth awel oer, a meddyginiaeth ar ei hadenydd, o'r môr i anadlu ar ein talcennau. Yr oedd arogl iach hesg ac ewyn arni, a dygodd furmur y môr yn lle twrw anuwiol yr utgyrn pres. Cerddasom am oriau yn ol ac ymlaen ar hyd y mur, gwelem yr ynysoedd duon caregog yn britho'r môr, a goleudy draw ymhell rhyngom a chartre. Gwyddem fod y graig lle naddwyd bedd i Chateaubriand ynddi yn y tywyllwch yn rhywle o'n blaen. Bu fyw yn y dref odditanom; er tywylled oedd, gwelem ei dŷ, tŷ sy'n westy i ddieithriaid yn awr. A dengys trigolion Dinas Malo yr ynysig lle'r huna. Bu ganddynt lawer arwr mewn rhyfel, llawer môrleidr enwog, ond yn Chateaubriand yr ymogoneddant. Dyweder am dano, yng ngeiriau Tadur Aled,—

" Y gwr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn,"

Cyn i ni ymadael yr oedd y ddinas yn dawel, a'i thyrau a'i muriau duon yn edrych yn dduach yn y nos, fel mynwent yn y môr.

"Y gwylanod o'r glennydd, — tua'r môr
Troi maent eu hadenydd ;
A'r holl ednain a'u sain sydd
Yn cludo tua'u clwydydd."