Tro yn Llydaw/Craig y Bedd

Oddi ar Wicidestun
Dinas Malo Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Taith ar Draed

IV.

CRAIG Y BEDD.

“D'ou je voyais au loin frémir le bleu de l'onde, Comme un tissu d'azur sur un sein palpitant.'

AR ein codiad drannoeth, ail gychwynasom trwy'r ystrydoedd. Sylwem fyrred ac eiddiled oedd y dynion, — y mae'r aberth roddwyd i ryfeloedd yn dechre effeithio ar Ffrainc, — a hardded a chryfed oedd y merched. Yn y farchnad lysiau gwelsom nifer o wragedd, — rhianedd a gwrachod, — yn gwylio llysiau celyd a blodau geirwon, fel pe baent oll wedi tyfu ar lan y môr. Y mae'r ystrydoedd oll yn debig i'w gilydd, — yn uchel, yn gulion, yn ddrygsawrus. Fel Pabyddiaeth, o bell y mae St. Malo dlysaf. Esgynasom i'r mur. Nid yw y môr yn brydferthach yn unlle. Ac o'r mur, y mae'r dref yn meddu harddwch hefyd, ymgyfyd fel caer wedi ei chodi'n gyfanwaith gan yr un cynllunydd, a'r eglwys yn dŵr uchaf iddi. Y mae amryw ynysoedd creigiog ar draethell St. Malo, ac ar drai gellir cerdded yn droedsych i ambell un o honynt. Yn y Grand Bey, un o'r rhai agosaf atom, y mae bedd Chateaubriand, yn y graig. Yr oedd y môr yn mynd allan, disgynasom oddiar y mur, a cherddasom o borth Mair dros dywod a cherrig at droed yr ynys. Y mae grisiau wedi eu naddu ynddi, esgynasom hwy, a chawsom ein hunain mewn hen amddiffynfa adfeiliedig. Ar ei lloriau ac o'i hamgylch tyf glaswellt garw, ac eithin, blodau'r gŵr drwg, a llysiau gwaedlyd. Gwelir hefyd ambell i feillionen a llygad y dydd, rhai geirwon, fel drwgweithredwyr wedi eu halltudio o gwmni eu cydflodau i'r ynysig unig hon. Ar ochr y môr y mae craig yn sefyll uwchben y dyfnder, ac ynddi y mae bedd. Ar y bedd y mae croes o farmor garw, heb enw yn y byd. Yma y gorwedd Chateaubriand, ar ymyl craig uwch ben y môr. Y mae'r ynys yn eiddo iddo ef a'r gwylanod a'r blodau geirwon. Ar rai o'r ynysoedd y mae palasau heirdd, y mae amddiffynfeydd ar rai eraill, ond ar hon nid oes ond adfeilion, a blodau, a bedd.

Mae meddwl Llydaw'n debig iawn i feddwl Cymru,— yr un hoffter o dlysni, yr un cariad at yr ysbrydol, yr un pruddglwyf, yr un ymdeimlad o ddieithrwch tragwyddoldeb, yr un naws grefyddol. Y mae'r Llydawiaid wedi eu gadael yng nghornel eu hen wlad i ddysgu gwirioneddau'r ysbryd i'r Ffrancod arwynebol, gwamal; fel y gadawyd y Cymry i ddysgu'r Sais oer digydymdeimlad. Yn hyn o beth, y mae Chateaubriand wedi gwneud gwaith y Llydawr i'r dim, dysgodd y Ffrancod i ymhyfrydu mewn tlysni arddull, a dysgodd rai o'r giwed ddiffydd i weled cyrrion y byd ysbrydol sy'n cilio mor gyflym o'u golwg yn ein dyddiau ni. Llais crefydd Llydaw ydyw llais Chateaubriand i'w glywed ymysg lleisiau gwawdlyd anffyddwyr Ffrainc. Yn St. Malo y ganwyd ef, ac efe ei hun ddewisodd le ei fedd. Anodd fuasai cael lle mwy tawel. Er fod yr ynys yn nannedd y gwynt, y mae lle tawel ar y bedd dan gysgod y groes, pan fo'r gwynt a'r tonnau'n curo ar y graig. Y tu cefn i'r ynysig y mae bywyd prysur, ond ynddi hi ceir tawelwch agos y bedd a thawelwch pell y môr. Tybed fod ysbryd Llydaw wedi gorffwys ym medd Chateaubriand? Nid oes yno wladgarwch, mae'r Ffrancaeg ac anffyddiaeth yn prysur ennill tir, ac y mae bedd Chateaubriand yn edrych, nid tua'i wlad ond tua'r môr.

Yr oedd y llanw'n prysur guddio'r tywod pan adawsom yr ynys, ond ymysg y llennyrch tawel fyn le arhosol yn ein meddwl, y mae Craig y Bedd. Gwelsom oror Llydaw, — penrhyn y tu ol i benrhyn yn ymestyn i'r môr,— ac atgofiodd hyn ni nad oeddym eto ond ar gyrrau'r wlad. Aethom i'r Llythyrdy i ysgrifennu adre,— adeilad coed, llawr pridd, lle treiodd clarc bach bysedd budron a llais gwan roi rhy fach o newid inni. Rhedasom i ffarwelio â phobl y gwesty, a daeth y llanc siaradai Lydaweg i ddangos y llong ager oedd ar gychwyn i fyny'r afon i Ddinan.

Prin yr oeddym wedi gosod ein hunain yn gyfforddus ar fwrdd y Bretagne, pan ddaeth y cadben atom i ddweyd fod pedair Saesnes mewn trybini mawr. Eis atynt, ein hen gyfeillion, a chlywais hanes tywydd garw. Nid oedd neb yn y gwesty fedrai siarad Saesneg wedi'r cwbl, a doedd dim i'w wneud ond gadael iddynt gymeryd faint a fynnent am bopeth. Yr oedd y tair merch wedi bod mewn ysgol yn dysgu Ffrancaeg am dair blynedd, — y fam oedd yn dweyd yr hanes,— a dyma hwy heb fedru siarad yr un gair. A mwy na'r cwbl, yr oedd y llong ar gychwyn, a'u celfi hwythau heb ddod, er eu bod wedi talu am eu cludo. Anfonwyd ein Llydawr bach i chwilio am y pethau, a chafwyd hwy'n ddiogel i'r llong cyn iddi gychwyn. Cawsom fordaith hyfryd i fyny'r afon Rans. Yr unig ddolur llygad i ni ar y bwrdd oedd dau Ffrancwr a dillad newydd danlli, yn ceisio denu sylw rhyw eneth brydweddol oedd ym mhen arall y llong. Pan adawodd y llong gysgod y cei, daeth awel a chipiodd hetiau gwellt y ddau ymaith, gan eu troelli a'u chwyrlio hyd wyneb y dŵr cyn gadael iddynt suddo. Ffasiwn Ffrainc o wneud gwallt ar hyn o bryd ydyw ei dorri yn y gnec ; yr oedd conion gwallt y ddau hyn fel brws scwrio neu gol haidd. Eisteddasom ym mhen blaen y llong wrth iddi forio i fyny'r afon, a theimlem wrth weled y fforestydd a'r adfeilion cestyll ein bod yn myned i Lydaw ac yn ol i'r hen amseroedd. Yr oedd yr afon yn llydan a'i dwfr yn hallt tan gyrhaeddasom Chatelier. Yma y mae dyfrddor, a thra'r oeddid yn codi'r llong yn hwnnw yr oedd amryw gardotwyr yn dweyd wrthym am eu cyni ar y lan. Yr oedd un dyn mawr unfraich hagr yn cadw sŵn erchyll, a hen ŵr bychan yn gwneud dim ond dal ei het yn ddistaw. Daeth y fam Seisnig ataf i ofyn a daflwn ddernyn arian drosti i het yr hen ŵr bach, gan na fedrai hi anelu. Wedi gadael y begeriaid, yr oedd gwely'r afon yn gulach, ymgodai creigiau uchel ar y naill law, a choedwigoedd ar y llall. Ymledodd yr afon wedyn, moriasom rhwng dwy res o goed poplys, a gwelsom Ddinan yn uchel uchel ar y bryn o'n blaenau. Y mae'r fordaith i fyny'r Rans yn un ddymunol odiaeth, er na cheir golygfeydd mor fawreddog a Loch Lomond, na rhai swynol fel golygfeydd y Rhein.

Synnem at gadernid Dinan, y mae uchter ei bryn yn ddau gant a hanner o droedfeddi, ac y mae mur o ddeg troedfedd ar hugain o uchter fel coron ar ei ben. Y mae'r afon wedi bod ers oesoedd yn gwneud y lle'n gadarnach, trwy ddyfnhau ei gwely wrth droi o gwmpas y dref ar ei ffordd i'r môr. Y mae pont wedi ei thaflu drosti, o Ddinan i Lan Fale, pont o wenithfeini, dros wyth gan troedfedd o hyd, ac agos i gant a hanner o uchter. Pan ddaeth y llong dan gysgod y ddinas, gwelem y bont fel enfys uwch ein pennau.

Wedi rhoi'n pedair Saesnes yng ngherbyd " Gwesty Lloegr," dechreuasom ddringo'r bryn i Ddinan, gan feddwl am y brwydro gwaedlyd fu rhwng y Normaniaid a'r Llydawiaid ar y llethrau serth hyn. Cyrhaeddasom borth Iersual, a dringasom ystryd gul droellog i Ystryd y Gwlan. Yna cawsom ein hunain yn y Stryd Fawr, ac ar ein llaw chwith gwelsom eglwys Falo, fel camel anferth ar ei liniau. Troisom i mewn i orffwys. Y mae ôl dwylaw pobl y bedwaredd ganrif ar ddeg ar lawer peth yn yr eglwys hon; dacw feddrod a chader garreg sy'n perthyn yn sicr i'r cyfnod hwnnw. Yr oedd marchnad yn y dref, a dylifai'r bobl i'r eglwys, gan ymgroesi'n ddefosiynol â dwfr swyn wrth y drws. Gwelsom lawer genethig yn codi'r llen sy'n cuddio'r gyffesgell, ac yn myned i mewn; ond gallem dybio, oddiwrth eu gwên hapus a'u mwmian canu, nad oedd ganddynt bechodau mawr nac edifeirwch.

Hwyrach y dylem ninnau gyffesu ein bod wedi llawenhau pan gododd y gwynt hetiau'r Ffrancod, cyn troi i grwydro am awr trwy'r hen heolydd sy'n ymdroelli i bob cyfeiriad oddiwrth yr eglwys. Y mae y rhai hyn mor uchel a chul fel na wel yr haul byth mo’u gwaelod. Teifl pob llofft allan uwch ben y llall, a phrin y gwelir yr awyr rhwng dau fargoed sydd bron a chyffwrdd ei gilydd. Medd pob tŷ ddrws mawr a ffenestri mawrion yn agor i'r stryd, a gellir gweled cynnwys pob tŷ wrth fyned heibio. Gwelsom dŷ teiliwr, a deg neu ddeuddeg o feibion a merched yn gweithio ynddo, ystafell eang, lle cysgir ac y bwyteir ac y gweithir. Ar ei chyfer yr oedd tŷ crydd, ac yr oedd yntau a'i feibion a'i ferched yn gweithio yn ddygn. Yr oedd pobl y ddau dŷ'n medru siarad â'i gilydd yn hawdd, ac yr oedd pobl y llofftydd uwch ben, hefyd, yn medru cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Rhaid fod pobl yr ystrydoedd hyn yn adnabod ei gilydd yn dda; y mae'n anhygoel iddynt y gellir byw am flynyddoedd mewn tref Seisnig heb adnabod pobl y tŷ nesaf. Yr oedd llawer o'r tai yn hen iawn, yn bedwar can mlynedd a chwaneg, fel y tystiai'r trawstiau derw cerfiedig prydferth.

O gyffiniau'r eglwys cerddasom i orsaf y ffordd haearn, a gwelsom y medrem gael tren hwyr i St. Brieuc, ac yr oedd yn llawenydd inni gael troi'n ol i dreulio teirawr yn ychwaneg yn Ninan. Troisom yn ol heibio'r Hotel d'Angleterre, — gwelsom y pedair Saesnes yn eistedd wrth y ffenestr agored, ein golwg olaf arnynt, a cherddasom ar hyd y mur, gan fwynhau'r olygfa ar y dolydd a'r bryniau, gyda theml Brotestanaidd fechan yn eu mysg, ymestynnent tua'r gorllewin. Ar gornel ddeheuol y mur y mae castell gyda thŵr dros gan troedfedd o uchter. Bu unwaith yn balas, — y mae cader y dduces Ann ynddo eto,— bu Senedd Llydaw'n ymgyfarfod ynddo, bu'n garchar i filwyr Lloegr yn ystod rhyfel Boni, ac yn awr y mae'n llawn o garcharorion Ffrainc. Troisom yn ol i'r Place Duguesclin ac aethom i gafe i gael, — na, does yma ddim tê,— coffi a llaeth a bara ac ymenyn. Gofynnais i ŵr y botymau a fedrai siarad Llydaweg. Na fedrai, ond dywedodd fod pobl yn y farchnad fedrai. Edrychasom i lawr o'r ffenestr ar y Place Duguesclin,— lle mawr agored, gyda dwy res o goed pisgwydd ar hyd-ddo, — a gwelsom ei fod yn llawn o bobl y wlad. Yr oedd eu hwynebau mor Gymreig fel y meddyliasom am ennyd ein bod yn edrych ar ffair y Bala. Gwelem yno yr hen wŷr ceimion a'r hen wragedd siaradus, a'r wynebau ieuainc tlysion, gwylaidd, welir yng Nghymru; ond yr oedd arwydd diod ar rai o'r dynion canol oed. Gwyddem fod llawer golygfa ryfedd wedi cymeryd lle ar y Place Duguesclin hwn, — llawer gorymdaith ardderchog fu'n mynd trwodd ar ryw uchel wyl Babyddol; llawer brenin a brenhines fu'n edrych ar gampau'r dorf; llawer twrnament fu yma rhwng gwŷr llurigog o bob gwlad ; llawer lleng o filwyr Llydewig fu'n canu eu halawon am y tro olaf yma cyn cychwyn i'r rhyfel yn erbyn Lloegr neu'r Almaen. Y mae enw Duguesclin yn un o'r rhai anwylaf yn Llydaw, er fod pum can mlynedd er pan beidiodd a'i derfysg. Hanes Llydaw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ydyw hanes yr ymladd am ei choron rhwng Montfort a Blois. Daeth y Saeson yn gynorthwy i Fontfort, a chymerasant lawer o gestyll Llydaw, gan feddwl cadw meddiant ohonynt fel mynedfeydd i Ffrainc. Arwr y Llydawiaid yn erbyn y Saeson oedd Duguesclin. Ni fedrai ddarllen nac ysgrifennu, ond medrai ymladd ei ffordd trwy fyddin â'i fwyell rhyfel. Yr oedd yn ymladd bob amser, mewn heddwch a rhyfel. Bu gornest rhyngddo a Syr Thomas Canterbury ar y lle hwn, ar geffyl gyda phicellau i ddechre, yna ar droed gyda chleddyfau. A yw'n edifar gennyt garcharu fy mrawd?" ebai Duguesclin, a blaen ei gleddyf ar wddf y Sais gorchfygedig. "Nac ydyw," ebai hwnnw, ond arbedwyd ei fywyd ar daer gais Duc Lancaster. Y mae cerfddelw o'r hen filwr garw yn Ninan, ac y mae ei enw'n byw mewn llawer cerdd Lydewig, cerdd ddywed am dano'n dinistrio cestyll y Saeson, ac yn amddiffyn ei gydwladwyr gorthrymedig.


Cerddasom drwy'r farchnad i le agored arall, a gwelsom eglwys henafol St. Sauveur, gyda'i ffenestri hanner cylch a'i thô uchel, o'n blaen. Aethom i mewn, a gwelsom res hir o ferched yn eistedd, ac offeiriad edifeiriol ei wedd yn eu canol, yn disgwyl yn amyneddgar am eu tro i gyffesu. Synnem beth oedd ar feddwl yr offeiriad. Gwelsom y gist farmor du lle cedwir calon Duguesclin, ond ni welsom neb yn gweddio arno ef, — digon prin y medrir ei gyfri’n sant. Gweddio a gwneud gwyrthiau oedd gwaith y saint, nid gweithio ac achub cam y tlawd. Y mae'r hen fynwent wedi ei gwneud yn ardd ddymunol, cerddasom drwyddi, a chawsom ein hunain ar y mur, yn edrych ar olygfa ogoneddus. Yr oedd yr afon odditanom, yr oeddym yn rhy uchel i weled a oedd ei dwfr yn rhedeg ai peidio, nid oedd ein llong yn fwy nag esgid baban, yr oedd y bobl groesent y bont yn ymddangos i ni cyn lleied a phlant, fel yr ymddanghosai'r bobl ar y gwaelod iddynt hwythau. Ymestynnai gwlad goediog fryniog mer bell ag y gallai'r llygad weled, ac yr oedd yr awel yn cludo arogl miloedd o goed dros yr hen fur. Y mae'r llecyn hwn, fel castell Heidelberg yn yr Almaen, yn denu miloedd yma o bob gwlad, i syllu ar yr olygfa gafwyd trwy wneud y fynwent yn ardd. Yr oedd yn prysur hwyrhau pan oeddym yn gorffen ein tro o gylch muriau a thyrau syrthiedig y lle henafol hwn. Clywem lais melys, fel llais pregethwr yn yr hwyl, yn dadleu rhagoriaethau pysgod werthai dyn y llais, ond mwy effeithiol i ni oedd ysgrech rybudd anaearol ein tren gerllaw.