Tro yn Llydaw/Taith ar Draed

Oddi ar Wicidestun
Craig y Bedd Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Gwesty Llydewig

V.

TAITH AR DRAED.

"Hawdd yw dwedyd 'Dacw'r Wyddfa',
Nid ei drosti ond yn ara'."

YR oedd yn ddigon goleu i ni weled yr orsaf gyntaf wedi gadael Dinan, — Corseul enw un o chwe llwyth Llydaw, y Curiosolites. Wedi hyn ni welem ddim. Yr oedd y tren yn mynd mor araf a phe bai angladd, ac nid oes dim mor flinedig i deithiwr Prydeinig ag arafwch tren y cyfandir. Meddyliem weithiau ein bod yn myned trwy goedwigoedd, dro arall y gwelem rosdiroedd eang dan y goleu aneglur. Arhosem amser direswm ym mhob gorsaf wledig lle na welem ond pigyn du rhyw eglwys rhyngom a'r awyr, lle prysurai pawb adre oddiwrth y tren olaf.

Erbyn cyrraedd Lamballe, cawsom fod gennym awr i aros hyd nes y deuai tren Paris trwodd i St. Brieuc. Dywedir fod Lamballe yn werth ei gweled, liw dydd. Buom ninnau trwy ei holl ystrydoedd, gwelsom ei heglwys ar ben bryn, a thybiasom weled colofnau cerfiedig a ffenestri meinion hirion. Ond yr unig beth wyddom i sicrwydd am Lamballe ydyw, ei bod yn eithaf tawel yno rhwng un ar ddeg a hanner nos.

Pan ddaethom yn ol, cawsom ein cyd-deithwyr milwrol meddwon yn oer ganu, tan dorrodd chwibaniad tren Paris ar eu sŵn. Treiasom gysgu ar y meinciau caledion, ac ni fuasai rhu olwynion y tren yn rhwystr i ni, oni bai am ysgrechfeydd y milwyr yr oedd gwin wedi llawenychu eu calonnau ac agor eu cegau. Ni chyrhaeddasom St. Brieuc cyn penderfynu na theithiem yn hir wedyn gyda'r tren, ac na theithiem byth wedi nos.


Yr oeddym wedi gwneud rheol na ddewisem ein gwesty cyn ei weled, hynny ydyw, na fynnem gerbyd yn unlle i'n cludo o'r orsaf i'r dre. Nid y gwesty goreu fedd y cerbyd hardda'n aml, na'r llythrennau mwyaf arno. Nid am westai mawrion, lle na welem ond clarcod diamynedd a gweision lifre anwybodus yr oeddym yn chwilio, ond am rai cysurus, lle mae popeth dan lygad y pen-teulu, lle caem groeso gwledig a hanes ddigon. Y mae digon o'r gwestai hyn yn Llydaw, ond nid mewn cerbyd yr eir iddynt bob amser.

Pan welsom gerbyd olaf St. Brieuc yn diflannu i'r ystrydoedd tywyllion, ofnasom ein bod wedi gwneud camgymeriad am dro. Buom yn cerdded milltiroedd debygem, — ni ŵyr neb faint fydd yn gerdded pan mewn ofn a phryder, — yr oedd yr ystrydoedd yn mynd yn gulach, yn dlotach, ac ni welem na goleu llusern lety na neb a'n cyfarwyddai at y cyfryw. O'r diwedd daethom ar draws bôd yn ymsymud yn afrosgo trwy'r ystrydoedd gweigion, gan sefyll ennyd weithiau i ymsefydlu ar ei draed ac i synnu at ansefydlogrwydd y ffordd, un yn dychwelyd adre oddiwrth gymdeithion iddo. Ond i ni ei ddilyn ef, sicrhai ni y caem y gwesty mwyaf cysurus yn St. Brieuc. Ond toc eisteddodd ar risiau eglwys, a chyfaddefodd, er ei fod wedi ei eni a'i fagu yn y dref, na wyddai ar y ddaear fawr ym mha le yr oedd. Gadawsom ef yno, a phrysurasom ymlaen. Gwelsom oleuni llusern yr Hôtel de l'Univers, er llawenydd nid bychan i ni. Gofynwyd a oedd arnom eisiau swper, mewn llais ddanghosai'n eglur na chaem ddim ond o anfodd, ac arweiniwyd ni trwy lawer cyntedd i ystafelloedd eithaf cysurus. Yr oedd yr haul yn uchel ddigon pan ymddanghosasom bore drannoeth, ac ychydig o'r gwesteion oedd yn aros, — tair Ffrances yn cwyno'n enbyd am hyd eu bil, a gwraig weddw mewn galarwisg, gwisg laes yn ei gorchuddio i gyd, ond fel y gellid gweled holl ffurf ei chorff, ei mynwes berth ei thro. Mae llawer telyn ar yr helyg, ond heb ei thorri er hynny.


Dywedir fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim. Yn lle teithio gyda'r tren araf dros wastadedd Plouagat a Guengamp a Threglamus, lle na welsem ond meysydd o wenith a meillion a llin, penderfynasom gerdded tua'r gorllewin gyda glan y môr. Ni chymerasom ond cipolwg ar heolydd budron St. Brieuc esgobol cyn cychwyn tua'r wlad. Cawsom well syniad am y bobl mewn hanner awr nag a gawsem yn y tren mewn wythnos. Gwelem y bobl gyda'u gorchwylion, cylch o ferched yn golchi dillad o amgylch pwll; geneth ieuanc yn gyrru trol hir i'r farchnad, a wyneb tlws iach, a chap gwyn Llydewig; gŵr a gwraig yn golchi llin eu tyddyn bychan yn yr afon, llin wneid yn lliain cartref pan ddoi nosweithiau hirion y gaeaf; hen offeiriad tew, darlun o erlidiwr, yn gwgu arnom ac yn chwipio'i geffyl i lawr y goriwaered wrth ein pasio. Sylwem fod tai da ymhobman, wedi eu hadeiladu'n gryfion a chysurus. Gallesid meddwl fod Llydaw ymhell ar y blaen i Gymru wrth edrych ar dai ffermydd y ddwy. Yn Llydaw Babyddol, pobl dlodion a diog, — rhai heb law na phen na chalon, — a hwy'n unig, sy'n gorfod byw mewn tai fel tai amaethwyr cynnil deallgar Cymru. Estronodd y Diwygiad werin Cymru oddiwrth ei harglwyddi, — oddiar hynny, nid edrych y landlordiaid ar y bobl fel rhai i'w deall ac i gydymdeimlo â hwynt, ond yn unig fel rhai i'w gorfodi i roddi gwasanaeth trwy rym cyfraith. Ac eto, y Diwygiad wnaeth y Cymry'n foddlon i ufuddhau i bob iod a phob tipyn o'r gyfraith sydd wedi gwasgu mor drom arnynt, y Diwygiad ddysgodd y Cymro nwydwyllt gynnig y gern arall i'r hwn a'i tarawo, ac i beidio gwahardd ei bais i'r hwn a ddygo ymaith ei gochl. Diwygiad crefyddol yng Nghymru, Chwyldroad yn Ffrainc, — y mae'r Cymro eto'n talu rhent uchel am ffermdy adfeiliedig, ac y mae'r Llydawr yn ei dŷ eang dan ardreth deg. Llawer hanesydd sydd wedi cyferbynnu cyfraith Lloegr âg anghyfraith Ffrainc, sefydlogrwydd y naill ag anwadalwch y llall. Yr oedd yn Llydaw werin wedi ei gwneud yn fwystfilaidd gan orthrwm, yn ddigon bwystfilaidd i droi at yr arglwyddi oedd yn gwasgu eu cyfraith ddidrugaredd arni, ac i ddarostwng y rhai hynny i'w dialedd erchyll a'i chyfraith ei hun. Y mae yng Nghymru werin wedi ei gwneud yn ddeallgar a hir ei hamynedd gan ddysgawdwyr gododd Duw o fysg y bobl, ac y mae'n dioddef ac yn dioddef tra mae'r gyfraith yn araf gydnabod ei cham. Ni welir capel yn unman yn nyffrynnoedd ac ar fryniau Llydaw, ac ni welir yno hen amaethwr penwyn yn byw mewn beudy, oherwydd gwrthod ymddangos yng ngwasanaeth dienaid y Llan, neu wrthod dweyd fod rhyw filwriad o Sais yn deilwng gynrychiolydd ei sir Gymreig yn y Senedd.

Cyn hir, wedi cerdded ar i fyny am awr a hanner, daethom i ben y tir, a dechreuasom gerdded ffordd wastad drwy gaeau gwenith eang. Yr oedd blodau adnabyddus hyd glawdd pridd y ffordd, — y ben galed a chwilys yr eithin, caem ambell i air â phobl yn gweithio,— "bon jour," neu "amser braw," — a mynych y deuem at groes a rhai'n penlinio o'i blaen. Cyn dod i Bordic, gwelem groes garreg o gerfiad tlws ryfeddol, a darllennem ar ei gwaelod mai iddi hi y rhoddwyd y wobr yn St. Brieuc. Nid ydyw'r Llydawiaid, mwy na'r Cymry, yn gystal cerfwyr ar bren na charreg a'u tadau, ond gwneir pob ymdrech yn Llydaw i ail ddysgu cerfio pren marw'n flodau, a gwneud i garreg ddelwi cynhesrwydd bywyd. Cwynir yng Nghymru nad oes gennym gelfau cain, ond anaml yr ymgyfyd cyfarfod llenyddol yn uwch na rhoi gwobr am ffon neu olwyn berfa; cwynir fod gennym ormodedd o feirdd, ac eto rhoddir y gwynt a'r cread a'r haul a'r nos yn destynau gwobrwyedig i'r bodau hyn draethu eu bychanedd arnynt.

Gwlad anodd cerdded ynddi ydyw Llydaw, y mae'r awyr yn drom ac yn llethol, y mae'r golygfeydd yn undonog, ac nid ydyw'r ffyrdd yn cuddio'u hyd trwy droelli rhwng bryniau. Ond cyn i ni ddechre cwyno, gwelsom y môr. Rhyfedd y gorffwys rydd golwg ar ei bellter glâs. Ystwythodd ein coesau wrth ei weled, a chyflymasom i lawr tua Binic, ymdrochle bychan, cyrchle llawer o Ffrancod. Aethom i'r Hotel de Bretagne, a dywedodd hen ŵr llawen fod y cinio ar y bwrdd. Yr oedd yno gwmni mawr, a chedwid hwy'n ddifyr gan Ffrancwr anferth o gorff, a adroddai droeon trwstan Llydawiaid syml. Yr oeddym ni'n dau yn newynog ac yn sychedig, ac yfasom ddiod felen oedd ar y bwrdd, gan ddrwgdybio mai osai oedd. Nid oedd y dwfr yn yfadwy, ac yr oedd yn rhaid i ni yfed rhywbeth, neu dagu.

Wedi cinio, dringasom y bryn yr ymnytha Binic dano. Yr oedd yr haul yn boeth orlethol, ond ar ben y bryn yr oedd awel oer hyfryd, a golwg ar y môr a'r traeth. Eisteddasom yno ar fin y ffordd mewn glaswellt peraroglus, i wylio edyn melin wynt safai gerllaw. Gwelem weddoedd hirion y Llydawiaid yn dod i'r felin, — pedwar pen o geffylau, gyda choleri gwellt a mynciod pren am danynt, a chrwyn defaid wedi eu lliwio'n lâs ar gyrn y mynciod. Treiwn gofio cerdd Lydewig glywais unwaith, — melinydd yn gofyn lle'r oedd ei gariad, a melinydd arall yn ateb i sŵn ei felin fod y Barwn Hefin, gŵr mawr y felin ddŵr, wedi mynd a hi,

"Melfed du sy am dani'n dyn,
A bordor braf o arian gwyn ;
Cap fel eira sydd gan hon,
A rhosyn coch sydd ar ei bron.
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."
" Yn y llyn fe wel ei llun,
Yno saif i addoli ei hun.
Cân yn llon 'Myfi bia'r felin,
A myfi bia'r Barwn Hefin.'
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."


Gadawsom y felin, ni chlywsom ei "diga — diga — di" mwy, ond gwelem hi o bob pen bryn gyrhaeddem. Yr oedd pawb gyfarfyddem yn awyddus am ysgwrs, gofynnent gwestiynau fel y gofynna torrwr cerrig ar y ffordd yng Nghymru, "O ba wlad y deuwch ? " Ai prynnu tatws yr ydych ?" Cwynent mai ychydig iawn o longau ddaeth i chwilio am datws eleni, ac yr oeddynt yn siomedig pan ddeallasent nad oedd arnom ni eisiau taro bargen. Ond pan ddeallent mai Cymry oeddym, ail enynnai eu diddordeb, a dywedent yn llawen ein bod ni yr un bobl. Gofynnent i ni gyfrif neu ddweyd dyddiau'r wythnos yn Gymraeg, ac yna edrychent ar ei gilydd mewn syndod a dywedent, — Llydaweg bur ydyw hynyna." Dros fryniau ffrwythlawn a thrwy ddyffrynnoedd coediog, gydag ambell gipolwg ar y môr, daethom i St. Quay a Phortrieux, dau ymdrochle bychan tlws, llawn o dai newydd, a chabanod ymdrochi, a Ffrancod. Dringasom riw hir a blinedig, ac arhosem yn aml i siarad â'r Llydawiaid caredig siaradus. Oni bai am drymder yr awyr, gallem feddwl mai yng Nghymru yr oeddym. Na, y mae un gwahaniaeth mawr arall, nid oes yma ddwfr rhedegog. Ceir ambell i bwll golchi ar ochr y ffordd, dwfr glaw wedi sefyll, a throchion sebon fel ewyn arno. Gwyddem am ŵr yfodd drochion sebon unwaith mewn camgymeriad am laeth enwyn. Troisom i mewn at hen wraig i ofyn a roi hi gwpanaid o ddwfr oer i ddisgybl, a chawsom ddwfr peraidd o waelod pydew oer. Yr oedd yr hen wraig yn dlawd iawn, stoc ei siop oedd corn o freth yn ac ychydig lysiau ; ond ni fynnai ddim gan bobl ddieithr am lymaid o ddwfr oer.

Erbyn cyrraedd Tref Eneuc, yr oedd yn dechre oeri at y nos, a ninnau wedi blino. Ond hen le tlawd, pentre o dai to gwellt yng nghanol coed duon, heb westy o lun yn y byd, ydyw Tref Eneuc. Hysbyswyd ni y caem lety ym Mhlw' Ha, pum milltir ymlaen. Dilynwyd ni o'r pentre gan dyrfa o blant. Os oeddym ni mor ddigrifol iddynt hwy ag oeddynt hwy i ni, cafodd y plant bach hynny wledd. Yr oedd gan y bechgyn rwymyn — lledr am eu canol, a het wellt fawr ei chantal, a ruban melfed du am dani, am eu pen. Yr oedd gwallt y merched mewn rhwyd, fel y gwelwn wallt ein neiniau mewn darluniau, a chap gwyn ar eu coryn. Yr oedd pawb yn ei esgidiau pren; a chan eu bod yn gorfod rhedeg i'n canlyn, yr oedd sŵn eu traed fel cawod o wlaw taranau ar ddail crin. Yr oeddynt yn ofnus iawn, a chilient yn ol pan ddechreuem siarad â hwy. Ai Llydawiaid ydych?" Nage." Ai Ffrancod?" "Ie." "Sodlwch hi ynte," ebai Ifor Bowen, gyda threm hyllig, ac yr oedd yno dwrw llu o esgidiau pren yn clecian ar y ffordd galed.

Yr oedd yn noson hafaidd, gwelem y merched a'u crymanau'n dod o'r caeau gwenith, a chaem aml olwg bell brydferth ar y môr. Gwelem y dynion yn bwyta eu swper, — llaeth a bara du, — o gwpanau pren, ar drothwy eu tai, a chlywem sŵn y droell y tu mewn. Yr oedd yr haul wedi colli ers meityn y tu hwnt i Ynys Brehat pan gyrhaeddasom Blw' Ha, ar ben bryn. Cylch o dai o amgylch eglwys fawr ydyw, trigle rhyw bum mil o bobl. Cerddasom o amgylch yr eglwys, i weled holl gylch y pentre. Yr oedd yr holl drigolion yn y drysau'n edrych arnom, a thybiem nad oedd ond nyni'n dau a'n wynebau'n lîn ym Mhlw' Ha y prynhawn hwnnw. Pan fyddai tor yn y cylch tai, gwelem wlad eang o fryniau'n dwyshau at y nos.

Aethom at ddrws y gwesty glanaf welem, yr Hotel dela Poste, a dechreuasom siarad geiriau Cymraeg, er syndod a difyrrwch nid ychydig i'r yfwyr oedd yn llercian o gwmpas y drws.

"Nos fad."
"Nos fad."
"Bara, 'menyn, cig dafad?"
"Ia, ia."
"Dau wely dros y nos? "
"Ia, ia."

Chwarddasant yn galonnog, a gwahoddasant ni i mewn i gegin fawr dywell.