Tro yn Llydaw/Gwesty Llydewig
← Taith ar Draed | Tro yn Llydaw Corff y llyfr gan Owen Morgan Edwards Corff y llyfr |
Ioan y Gyrrwr → |
VI.
GWESTY LLYDEWIG.
YMHEN ychydig cynefinodd ein llygaid â thywyllwch y gegin, a gwelem beth oedd o'n cwmpas. Yr oedd hen wraig a golwg batriarchaidd arni, — brenhines ar dylwyth lliosog, — yn malu siwgwr yn brysur; yr oedd hen ŵr hirwallt yn bwyta potes yr ochr arall i'r ystafell, ac yr oedd dwy neu dair o enethod yn gwibio'n ol ac ymlaen dros y llawr pridd i gyflawni gorchwylion y tŷ. Y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd lle'r tân. Yr oedd mantell y simdde'n ddigon mawr i gysgodi dwsin o bobl, ac yr oedd yn y tu mewn iddi gadwyni wedi eu gwisgo a huddugl canrifoedd. Ar lawr yr oedd y tân, a chrochanau o bob math yn rhesi bob ochr iddo. Yr oedd Ifor Bowen a minnau wedi gosod ein hunain dan y simdde, pawb ar ei bentan, oherwydd mai dyna'r lle mwyaf cyfforddus yn y tŷ, a'r lle hawddaf gweled popeth o hono. Yr oeddym yn flinedig iawn, a gorffwysasom mewn distawrwydd, a'n llygaid yn agored. Cyn hir daeth un o'r genethod at y tân, — nid oedd fawr o hono, dim ond ychydig farwor. Gydag un llaw daliai badell ffrio, ac â'r llall rhoddai ddefnydd ar y tân, ac yr oedd hwnnw yn ufuddhau iddi, weithiau'n swatio dan y badell, a thro arall yn ymsaethu i fyny'n fflam oleugoch, fel pe'n sefyll ar faenau ei draed i weled pwy oedd yn y tŷ. Pan godai'r fflam, gwelem ninnau'r tŷ — gwely mawr wedi ei orchuddio gan lenni trymion, cypyrddau llawn o lestri disglair, trawstiau'n camu dan bwysau cig hallt à llin, cŵn 0 bob lliw'n gwylio dan y cypyrddau, bwrdd hir a rhes o wynebau y tu hwnt iddo'n edrych tua'r bobl ddieithr a'r crochan. Toc, daeth rhywun i mewn, a gorchymynnodd oleu canwyll mewn tôn awdurdodol. Gŵr unfraich oedd, wedi colli'r fraich arall wrth ddilyn Chanzy ar un o feysydd gwaedlyd rhyfel yr Almaen. Yr oedd ganddo lyfr dan ei gesail, llyfr y llywodraeth, a galwodd arnom at y bwrdd i dorri ein henwau, ac i ddweyd tipyn o'n hanes, — ein hoed, lle ein genedigaeth, ein preswylfan, o ble y daethem, i ble yr aem, beth oedd ein neges, pa lywodraeth a'n noddai. Yr oedd wedi drwgdybio mai Ellmyn oeddym, ond gwenodd pan welodd enw Cymru, a gofynnodd a oeddym yn medru deall Llydaweg. Yr oeddym yn uchel yng ngolwg pawb wedi i ddyn y llywodraeth wenu arnom. Nid oedd iar yng nghefn y tŷ a'i gwddf yn ddiberigl, nid oedd dim yn y tý nag yn y farchnad na chaem ef, yr oedd y genethod a'r crochanau a'r tân yn barod. Wedi cydymgynghori, gofynasom am goffi a llaeth. Prin yr oedd y gair o'n genau cyn fod un o'r gweision yn dal dwy sospan uwchben y tân, — coffi yn un, a llaeth yn y llall. Bum yn synnu droeon pam y mae gwin yn destun i'r beirdd, tra mae eu hawen yn ddistaw am goffi a thê. Mae llawer cân gynhyrfus am win coch y Rhein, —
“ |
"There is nothing that cheers a heart like mine, |
” |
ond ni chlywais fod yr un bardd erioed wedi canu i goffi du Arabia na thế gwyrdd Ceylon. Yr oedd y coffi gawsom ni yn werth gwneud pryddest iddo. Yr oedd yn aroglus, yn flasus, dadluddedodd a deffrodd ni. Gadawyd y ganwyll hir yn oleu er anrhydedd i ni, ac yr oedd yno gynulleidfa o bobl yn barod i siarad a chwerthin. Gofynnais a oedd ganddynt lyfr yn y tŷ. Nac oedd, yr un. Gofynnais i'r bobl a fedrent ddarllen, ac a oedd ganddynt lyfrau. Nid oedd yno neb yn medru darllen, ond yr oedd un hogyn pengrych yn meddu llyfr. Rhedodd i'w geisio, a rhoddodd ef yn fy llaw. Holiedydd Pabyddol oedd, a gwrandawai pawb arnaf fi'n holi, a'r Llydawr bach yn ateb, —
- "Pet person so en Doue? »
- "Tri, an Tad, a'r Map, hac ar Speret — Santel."
- "Pet sort ele (angylion) so?"
- "Daou sort, drwg ele hac ele mâd."
- "Pelech e mân Iesus Christ?"
- "Efel Doue e mân dre oll; e fel Doue a den assambles (ynghyd), e mân er Barados hac en sacrament."
- "Fet poan a swffras en he gorff ar groes?"
- "Pemp. Ar chenta, e chwesas an dwr hac ar goad.
An eil, e oe fflagellet. An trede, e oe curunet a spern. Ar befare, e twgas he groes. Pempet, e oe crucifiet.'
- "Pet sort peden (gweddi) so?"
- "Daou sort, ar beden a galon, ac ar beden a cheno."
- "Levet ar befare gwrechemen."
- "Da dad, da fam a enori, efit pell amser a fefi."
Yr oedd llawer o athrawiaeth gau yn yr holiedydd, am Fair, am Burdan, am haeddiannau iawnol gweddiau'r saint, am y Pab, ond yr oedd ynddo lawer testun ardderchog i bregethu i'r Llydawiaid oedd o'n cwmpas. Clogyrnog oedd ein Ffrancaeg ar y goreu, ac am Lydaweg, ni fedrem ddim. Nid oeddym wedi gweled adnod yn Llydaweg erioed, onide nyni a'i dywedasem y noson honno. Os cyfarfyddaf un o'r Llydawiaid hyn yn y farn ddiweddaf, gallaf ddadleu dadl Moses nad oeddwn ŵr ymadroddus, eithr safndrwm a thafotrwm oeddwn. Medrwn wneud fy hun yn ddealledig i bobl ddysgedig, Ond yr oedd yn amhosibl i mi ddweyd fy meddwl am eu crefydd wrth y bobl hyn fel y deallent fi. Teimlwn eu bod yn barod i wrando, gwyn fyd na fedrwn siarad.
Daeth gŵr tew trwsiadus i mewn, a gofynnodd i'r hen wraig a gaem fyned i'r parlwr i ysgwrsio. Esboniodd jni mai swyddog cyllid y llywodraeth oedd. Gwelem oddiwrth ei lygaid mawrion duon nad Llydawr oedd, a dywedodd toc mai o ddeheudir Ffrainc y daeth, a'i fod wedi graddio yn athrofa Toulouse. Nid oedd y parlwr mor ddiddorol a'r gegin, ystafell fechan, bwrdd crwn ar ei chanol, a darluniau lliwedig o frwydrau'r Ffrancod. Ni fu Pierre Amand yn hir heb wneud ei hun yn gysurus uwchben ei dybaco a'i win. Gwleidyddiaeth oedd pwnc cyntaf ein hysgwrs, a dywedasom ein bod yn synnu nad oedd cyfarfod cyhoeddus yn unlle, a hithau'n amser etholiad cyffredinol. Cyn iddo ateb, daeth un arall i mewn, meddyg y dref. Gŵr bychan a wyneb hir oedd hwn, nid Llydawr, ond Picard o'r enw Louis des Cognets. Gofynnais a lwyddai Boulanger. Os gwnai, byddai chwyldroad yn Ffrainc. "A ydych chwi drosto?" Cododd y ddau ar eu traed, a gwaeddasant "Na," nes oedd yr ystafell yn diaspedain.
- " Ond y mae'n gas gennych yr Almaen a Bismarc?"
- "Ydyw, ond gwaeth nag ofer fyddai i ni ymladd yn awr."
- "A gewch chwi Alsace a Lorraine yn ol? "
- "Cawn, ond rhaid i ni gael help.
- "Help pwy? Lloegr? Yr Eidal?"
- "Nage, mae'r Saeson yn rhy ymffrostgar a hunanol i wneud dim dros neb, ac mae'r Eidal yn troi yn ein herbyn, er mai ni a'i rhyddhaodd. Rwsia fydd ein cymorth ni."
- ""A oes tipyn o gryfder yn y teimlad gwladgarol yn Ffrainc?"
- "O oes, y mae Ffrainc yn un, bydd Ffrainc yn barod cyn bo hir."
Cododd y ddau ar eu traed, a dechreuasant ganu'r Marsellaise ar uchaf eu llais, gan gadw amser gyda'i dwylaw i'w gilydd. Yr oeddynt ar ganol un arall, y Chant du Depart, pan glywyd cnoc ar y drws. Daeth gŵr ieuanc arall i mewn, wyneb gwelw, weithiau'n brudd, a'r funud nesaf yn wên i gyd. Llydawr oedd Owen Tresaint, a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Yr oeddym oll yn siarad gyda'n gilydd, myfi'n holi, a hwythau'n ateb.
- "Beth ydyw credo boliticaidd Llydaw?"
- "Mae'r trefi'n werinol, ond y mae y rhannau gwledig yn frenhinol iawn."
- "Beth ydych chwi eich tri?"
- "Gwerinwyr i'r carn !"
A gorfod i mi aros heb holi ychwaneg nes oedd y tri wedi codi ar eu traed a chanu'r Marsellaise drwyddi.
- "Pam y mae Llydaw'n fwy Ceidwadol na Ffrainc? "
- "Dylanwad y boneddigion, — ei hen deuluoedd, — a'r offeiriaid."
- "Beth ydyw credo'r offeiriaid?"
- "Y maent yn Geidwadwyr ac yn Frenhinwyr bob un. Ac y mae eu dylanwad ar y bobl yn fawr iawn."
- "A ydyw'r bobl yn eu parchu?"
- "Nag ydynt, ond y mae arnynt eu hofn, hwy fydd yn eu cyffesu ac yn eu claddu."
- "Yr ydych chwithau'n Babyddion? "
- "Ydym, Ffrainc ydyw'r lle mwyaf Pabyddol yn y byd. Ond nid ydyw crefydd yn ddim ond enw i ni. Mae llawer o'r Llydawiaid yn ddefosiynol, yn enwedig y merched, ond y mae pawb yn dechre chwerthin am ben crefydd. Nid ydyw'n Pabyddiaeth ni ond esgus dros fod heb yr un grefydd. Y mae Ffrainc yn medru gwneud heb yr un yn iawn."
- "A fyddwch chwi'n mynd i'r eglwys weithiau?"
- "Na fyddwn, byth."
- "A fuo un o honoch yn cyffesu?"
- "Ha, ha, naddo erioed."
- "Fydd yr offeiriaid yn dweyd beth gyffesir?"
- "Na fyddant, byth. Y mae hynny o dda ynddynt, medrant gadw cyfrinion yn iawn. Ac y mae'r gyfraith yn cefnogi hynny, fedr neb wneud iddynt ddweyd ar lw."
- "A ydyw buchedd yr offeiriaid yn foesol?"
"H — m — m!" meddent, gan droi ochr eu pennau, i ni weled yr amheuaeth oedd yn eu llygaid. Yr oedd y Llydawr yn anesmwyth ers tro, ac yn llawn awydd am gael ein holi.
- "Ai nid Pabyddion ydych chwi?"
- "Nage, Calfiniaid."
- "Y nefoedd fawr ! a ydych yn credu credo Calfin i gyd?"
- "Ydym, i gyd."
- "Dyna'r gredo fwyaf ofnadwy fu erioed. Yr wyf yn sicr nad ydych yn ei byw."
- "Ydynt yn sicr, Owen Tresaint, edrychwch arnynt, nid ydynt yn ysmygu nac yn yfed, y maent yn meddu holl ragoriaethau'r Saeson. A dyma ninnau'n meddu holl wendidau'r Ffrancod, — yn ysmygu ac yn yfed, yn siarad a gwaeddi. Hwre !"
- "A ydych yn meddwl fod y Saeson wedi'r cwbl yn well pobl na'r Ffrancod?"
- "Ydym, o lawer. Y maent yn ddistaw a gonest ac amyneddgar. Ac y mae'r Ffrancod yn ysgeifn, yn anwadal, yn hoff o bleser, yn gwawdio popeth crefyddol a dwys. Nid ydym ni'n Ffrancod nac yn Saeson, ac y mae gennym hawl i farnu."
- "Ddim yn Saeson? Beth ydych ynte?"
- "Cymry. Owen y gelwir fi gartref, a Mam' a Tad' oedd y geiriau cyntaf fedrwn."
- "Ddyn! yr ydym ni'n frodyr. Owen ydyw f’enw innau, a Mam' a Tad' oedd y geiriau cyntaf a fedrwn."
- "Yr un bobl ydyw'r Llydawiaid a'r Cymry. Glywsoch chwi ddim am frwydr Sant Cast, lle trechodd y Ffrancod y Saeson. Wel, yr oedd y Saeson wedi glanio ar lan y môr, y mae'r lle i'w weled oddiyma ar ddiwrnod clir. Yr oedd llawer o Gymry gyda'r Saeson, a llawer ohonom ninnau gyda'r Ffrancod. Ac wrth gerdded ymlaen i ymosod, yr oedd y Llydawiaid yn canu cerdd Lydewig ar eu hen alaw rhyfel, Gwarchae Gwengamp y gelwir hi; ac wrth eu clywed, meddyliodd y Cymry fod byddin o Gymry'n ymosod arnynt. Meddyliasant fod bradwriaeth yn eu gwersyll, taflasant eu harfau, a dyna pam y gorchfygwyd y Saeson.'"
Nis gwn a ydyw ystori Owen Tresaint yn wir, ond gwn ei bod yn draddodiad gredir trwy Lydaw. Y mae cerdd ym Marzaz Breiz yn dweyd yr hanes. Y mae'r hen alaw bruddglwyfus yn union fel rhai o'r hen donau Cymreig, ond prin hwyrach y buasai Cymro'n deall y geiriau canlynol wrth i filwyr Llydewig eu canu, er y buasai'n credu, feallai, mai Cymraeg a genid, —
E Gwidel e oent discennet,
E Gwidel e douar Gwenned.
E Gwidel int bet douaret,
Efel ma oent e Camaret.
"E bro Leon, rag Enes Chlas,
Gwechell, e oent discennet choas;
Cemend a wad deffant loscet
Cen a oa ar mor glas ruiet.
"N'eus, e Breis, na boder na bren
E - lech na gafer ho escern;
Cwm a brin och ho sashat,
Glaw ac afel och ho channat."
Rhydd y gerdd hon flwyddyn brwydr St. Cast 1758,
er fod traddodiadau eraill yn dweyd i'r peth gymeryd
lle'n llawer cynarach.
Er bloafes ma mil ha seis cant,
Hag eis ouspenn hag hanercant,
D'am eil lun o fis Gwengolo,
Oa trechet ar Saoson er fro.
Cyn diwedd y noson, yr oedd y deheuwr a'r Picard wedi tewi, ond yr oedd Owen Tresaint yn holi'n ddibaid. Yr oedd y peth lleiaf am Gymru'n ddiddorol iddo, a dywedodd pobl y tŷ na welsant ef erioed yn aros mor hwyr. Nes penelin na garddwrn; er fod Cymru a Llydaw wedi ymuno â chenhedloedd gwahanol, nid ydynt wedi colli eu diddordeb yn ei gilydd. Pe bai Ffrancwr a Sais, Cymro a Llydawr mewn cwmni, y Cymro a'r Llydawr dynnent at ei gilydd gyntaf. Ac er nad ydyw eu crefydd yr un, y mae ganddynt yr un teimlad crefyddol. Y mae eu hen grefydd yn prysur golli ei dylanwad ar y Llydawiaid, syrth eu bechgyn ieuainc meddylgar i anffyddiaeth Ffrainc, am na wyddant am grefydd Cymru. Yn y cyfwng hwn, ni ŵyr neb beth sydd ar ddod. Hwyrach y gadewir i Lydaw suddo i'r anffyddiaeth sy'n dilyn ofergoeledd. A hwyrach y clywir sŵn ym mrig y morwydd, y disgyn Ysbryd yr Arglwydd ar Lydaw fel y disgynnodd ar Gymru, ac y gelwir ar Fynyddoedd Arez i foeddio canu, "Canys gwaredodd yr Arglwydd Lydaw, ac yng Nghymru yr ymogonedda efe." Yr oeddym yn rhy gysglyd i ddal sylw ar holl neilltuolion "llofft oreu'r" gwesty y noson honno. Yr oeddwn i wedi blino gormod i gysgu'n dawel, a mynnai'r darluniau oedd ar y mur ganu i mi. Nid un dôn a glywn, ond casgliad o ddarnau cerddi glywn, llinellau heb berthynas i'w gilydd yn ymgysylltu yn null digyswllt breuddwyd, —
"Three merry brown hares came leaping,
Over the empty keys."