Tro yn Llydaw/Ioan y Gyrrwr
← Gwesty Llydewig | Tro yn Llydaw Corff y llyfr gan Owen Morgan Edwards Corff y llyfr |
Lannion |
VII.
IOAN Y GYRRWR.
“ | "I fairly, therefore, divided my half — guinea, one half of which went to be added to his thirty thousand pounds, and with the other half I resolved to go to the next tavern, to be there more happy than he." — OLIVER GOLDSMITH. | ” |
TUA saith deffroisom, ac yr oedd yn ben ddiwrnod ar y Llydawiaid boreuol. Clywem swn hollti coed a malu coffi, a dwrdio cŵn a ffrio golwythion cig; gwelem y farchnad yn llawn o hen wragedd yn eistedd uwchben brethyn a llysiau, ffrwythau a chrymanau a melysion.
Yr oedd degau o bobl yn ffarwelio â ni pan adawsom Blw' Ha, a synnent ein bod yn meddwl cerdded yr holl ffordd i Ben Pwl. Yr oedd ein ffordd yn drom ac eithaf anifyr am y teirawr cyntaf, gwelem hi'n rhedeg fel saeth dros yr ucheldir gwastad am filltiroedd o'n blaenau. Draw ar ben y bryn byddai rhyw dref, — mae pob tref yn Llydaw naill ai ar ben bryn neu wrth enau afon, ac araf iawn y gwelem ein hunain yn agoshau ati. Ar ochrau llychlyd y ffordd hir gwelem lawer hen gyfaill yn gwenu, — botwm y gŵr drwg, glaswenwyn, dor y fagl, llin y mynydd, eithin. Weithiau arosem i dynnu sgwrs â'r genethod bochgoch oedd yn medi gwenith â'u crymanau anghelfydd. Weithiau pasiem bedair neu bump o ferched, a breichiau fel cewri, yn torri cerrig ar y ffordd. Tybiem fod bron bob gwaith caled yn cael ei wneud gan ferched, yr oedd y dynion oll gyda'r ceffylau, neu yn y fyddin, neu ar y môr. Erbyn cyrraedd Plw' Esec, yr oeddym yn ddigon sychedig i hiraethu am rai o aberoedd mynyddig Cymru. Troisom i mewn i Westy Ffrainc, a gofynasom yn Gymraeg am ddŵr. Daeth gwraig, — darlun o lanweithdra a chynildeb, — a glasiaid inni. Yr oedd y dŵr yn glaear, fel pe bai newydd ei godi o lyn chwid. Yr oedd yno ddigon o ddiodydd, ond yr oeddynt yn feddwol i gyd. Nid oedd yno de, a phan ofynasom am dano, deallasant yn union mai Prydeinwyr oeddym.
Y mae Llydaw'n wlad sychedig iawn, gwlad lawn o lwch, gwlad nad oes ynddi ond ychydig o ddwfr rhedegog. Dylid cofio hyn wrth glywed fod y Llydawiaid yn bobl feddwon. Yr oedd hen grefyddwr yn byw yn Llanuwchllyn flynyddoedd yn ol o'r enw Rhobet Rhobet, ac yr oedd syched yn llinell bur eglur yn ei gymeriad. "Ie, Ie," ebai'n gwynfannus, pan glywai y disgyblid ef yn y seiat, yr hen stori ydi hi o hyd, pawb yn sôn fod Rhobet Rhobet wedi meddwi, a neb yn sôn am y syched mawr oedd ar Rhobet Rhobet."
Fel yr oeddym yn myned yn bellach i Lydaw, yr oedd y croesau'n amlhau. Gwelem fod llawer o honynt yn newydd, ac enwau y rhai a'u codasant danynt, rhyw Julie Madoc neu Mari Tregwiel. Yr oeddynt yn mynd yn fwy arddunol hefyd. Croesau plaen welsom gyntaf; yna corsen a gwaewffon arnynt; yna darlun o gorff yr Iesu; yna'r Iesu a'r ddau leidr; ac ar oror môr y gorllewin, ceir mynydd Calfaria dan y groes, ac Iddewon a Rhufeiniaid arno. Yr oedd yr offeiriaid yn amlhau hefyd, a'r begeriaid. Henaint, dallineb, cloffni, llaw wywedig, craith, — y mae hyn oll yn esgus dros sefyll ar ochr y ffordd, a gwaeddi ar y teithiwr am elusen, a mawr dda fo iddo.
O ben bryn Ceriti gwelsom y môr. Buom yn eistedd yn hir ar fur y pentref hwn, — gyda'i hen ysgol lwyd, a'i groes, a'i gaeau gwenith, — i edrych ar yr ynysoedd a'r creigiau frithent y lan. Oddiyma dringasom trwy ddyffryn coediog i fynachlog Beauport. Nid oes leoedd mwy rhamantus yn y byd na'r mannau ddewisodd y myneich i gyfaneddu ynddynt, priodol y gelwir y ile hwn yn "Hafan Dlos." Y mae muriau eglwys y mynachty'n aros eto, a choed yn tyfu y tu mewn, ac yn estyn eu pennau allan drwy y ffenestri bwaog. Ond y mae rhyw Ffilistiad wedi prynnu'r lle; ac os â rhywun, yng ngrym ei gariad at yr hen amseroedd, i grwydro drwy'r colofnau a'r coed, dianga'n ol am ei fywyd, ac anferth gorgi nerthol, llwyd, yn ymysgwyd o'i ol.
Y mae Pen Pwl yn ymdrochle bach prydferth, a gwelsom lawer o longau Prydeinig wedi dod iddo 'i gael llwyth o datws. "Disgynfa'r Gwerinwyr" oedd enw'r gwesty cyntaf welsom, a G. Penanhoat oedd yn ei gadw. Y mae G. Penanhoat yn ŵr call yn ei genhedlaeth, ar ystyllen yr oedd y gair "gwerinwyr," oherwydd cred ef, fel llawer Llydawr arall, y gellir tynnu'r ystyllen cyn hir, fel yr ymddanghoso'r hen air "brenhinwyr" drachefn. Yr oedd Ifor Bowen yn canu, —
" And whatsoever king shall reign,
I will be Vicar of Bray, sir,"
wrth i ni grwydro drwy'r ystrydoedd i chwilio am le cyfaddas i orffwys. Yr oedd yn ddau o'r gloch y prynhawn pan oeddem yn cael pob croeso yn ystafell fawr lân y Llew Coch, lle fel amgueddfa, yn llawn o gregin a blodau, a hen ddodrefn a darluniau.
Wrth fyned allan dywedasom "Amser braf" wrth un a safai ar y rhiniog. Tynnodd ei wyneb ein sylw ar unwaith. Gŵr byr o gorff ydoedd, ond cydnerth cadarn, gydag ysgwyddau llydain a wyneb yn ddarlun garw o garedigrwydd. Yr oedd ei wallt yn ddu a'i wyneb yn goch, lliw, cynnes a gafodd wrth wenu ac yfed gwin rhudd. Esgidiau pren oedd am ei draed, het wellt goryn isel gantel mawr a ruban am dani oedd am ei ben, a thros ei grys gwlanen yr oedd hugan gotwm lâs yn cyrraedd at ei liniau. Yr oedd chwip cyhyd a genwar yn ei law; ond nid oedd blentyn yn myned heibio na wenai arno, oherwydd wyneb Ioan y Gyrrwr oedd fwyaf nodweddiadol, nid ei chwip. Ni holodd ein hanes, ond yr oedd ei wyneb yn ein gwahodd i'w ddweyd. Pan glywodd ein bod yn myned i Lannion y noson honno os medrem, dywedodd ei fod yntau'n myned hefyd, a bod ganddo'r ddau geffyl goreu yn Llydaw. Efe oedd gyrrwr car y post, ac yr oedd yn cario teithwyr gyda'r llythyrau. Cyn pen yr hanner awr, yr oedd Ifor Bowen a minnau'n eistedd ar fainc flaenaf car y post gydag Ioan y Gyrrwr, a'r tu ol i ni yr oedd chwech neu saith o Lydawiaid yn mynd i Dreguier neu Lannion. Weithiau siaradent Lydaweg, dro arall Ffrancaeg, a synnem at sydynrwydd eu troiadau o'r naill iaith i'r llall. Yr oeddynt yn bobl ddeallgar, — yr oedd un wedi darllen Renan, un arall wedi bod yn Aber Tawe, a'r cwbl yn awyddus iawn am wybod ein hanes.
Yr oedd ddau geffyl gwyn yn mynd yn brydferth hyd y ffordd wastad, a'u mwng yn yr awel. Cyn dod i Lèzardrieux, croesasom bont sy'n crogi dros gan troedfedd uwchben dwfr yr afon Prieux, ac yr oedd y bont yn ysgwyd fel siglen wrth i'r cerbyd groesi. Yr oedd golwg brydferth ddigymar ar yr ochrau coediog odditanom, a'r muriau tan eu heiddew, a'r afon lydan, a'i thywod wedi ei guddio gan lanw'r môr. Yr oedd clychau Guezennec yn canu cnul, a llawenydd priodas yn Nhredarzec, wrth i geffylau Ioan garlamu trwyddynt. Arafasom wrth fynd i lawr dyffryn afon Guindy, a dywedodd Ioan, wrth ein gweled yn mwynhau'r olwg arni, y croesem hi lawer gwaith.
Dringasom ystryd serth o hen dai, ac yr oeddym dan gysgod eglwys Tre Guier. Nid oedd amser i fyned iddi, ond edmygem ei thŵr ysgafn uchel, a'i lliaws ffenestri crynion. Yn Nhre Guier yr oedd teithwyr Ioan yn talu am eu cludo. Yr oedd y teithwyr o Ben Pwl i Lannion yn talu yn y Llythyrdy, ond i Ioan y talai pawb godid ar y ffordd. Gwrthod cymeryd dim y gwelais Ioan bob tro, dyna un rheswm pam yr oedd pawb yn gwenu wrth iddo fyned heibio, oherwydd yr oedd yn amlwg na fu creadur caredicach na dedwyddach yn rhodio'r ddaear. Ond yn y Llythyrdy yr oedd ganddynt hen arfer o godi dwbl ar bobl ddieithr. Clywais Ioan yn dadleu a hwy, ni wyddwn y pryd hwnnw mai dadleu drosom ni yr oedd. Y mae'n dda gennyf feddwl am y wraig wyneb y glem a'm hyspeiliodd mai Ffrances, ac nid Llydawes, oedd. Ond hwyrach na ddylwn gwyno, bum yn talu swllt yn lle naw ceiniog i gerbydwr yn Sir Gaernarfon, am fy mod wedi siarad Saesneg ag ef, pan oeddwn yn dechre dysgu'r iaith honno; a bum yn talu dau swllt yn lle deunaw yn Sir Feirionnydd i logwr ceffylau haearn, am yr un amryfusedd.
Yr oedd golwg ar wyneb gonest Ioan yn ddigon i wneud i ddyn anghofio chwerwder cael "ei wneud." Yr oedd yn gwneud rhyw ddireidi o hyd, — bloeddio ar ferched yn cario llestri ar eu pennau, er mwyn i ni weled pa mor sicr y safent; dychrynnu plant a'i chwip hir, i ni gael clywed eu hesgidiau pren yn clecian wrth ddianc; cymeryd arno nad oedd wedi dal llythyrau deflid iddo ar y ffordd. Ond yr oedd yn dyner wrth ei geffylau, a rhoddodd gyngor i ni, os byth yr elem yn yrwyr ceffylau, beidio chwipio, gan na wna hynny ddim da yn y diwedd. Cyflymasom drwy La Roche Derrien a Llangoed a Chaer Anhal, a dechreuodd Ioan ofni y caem ein hyspeilio wedyn yn Lannion. Dywedodd y gwyddai ef am westy cysurus, gedwid gan bobl onest, yng nghanol y dre. Medrai roddi ei air yr hoffem ef, oherwydd yno yr oedd ef yn rhoi i fyny ei hun. Ni fedrai ysgrifennu, ond rhoddodd bapur a phensel i fachgen oedd yn y cerbyd, a dywedodd wrtho am ysgrifennu fel hyn, — "M. Pouhaër, dyma ddau ŵr dieithr, yr wyf yn erfyn arnoch fod yn garedig wrthynt, Ioan y Gyrrwr." Rhyw dair milltir cyn cyrraedd Lannion, gofynnodd Ioan a hoffem weld mynd, a chyda'r gair yr oedd y ddau geffyl gwyn ar garlam gwyllt. Yr oedd y cerbyd yn crynnu drwyddo, ac weithiau'n neidio fel peth byw, nid oedd arnaf lai nag ofn iddo fynd yn yfflon, fel na wyddai neb pa ran o bentwr diffurf fuasai Ioan y Gyrrwr ac Ifor Bowen a minnau a'r ddau geffyl gwyn.
Yr oedd gweled Llythyrdy Lannion fel diangfa rhag
marwolaeth inni. Ac fel yr oedd y peth yn bod, yr oedd
M. Pouhaër yno. Hen ŵr corffol, yn gwenu beunydd,
oedd. Dilynasom ef i'w Hotel de l'Univers, enw digon
anhyfryd inni, ond cawsom ef yn lle wrth ein bodd.
Yr oedd yno ddau Sais ieuanc ar ymadael, a dywedent
ar ginio na chawsant hwy le mor gysurus yn Llydaw i gyd.
Cyfarfyddasom y ddau hyn droeon wedyn, — ym mhrysurdeb gorsaf Landernau ac yn nhawelwch gwastadedd Carnac, ac yr oedd yn dda gennym eu gweled bob amser. Nid oes fôd ar y ddaear mor anioddefol a'r Sais uniaith, un ddirmyga'r Cymro ac a gasha'r Gwyddel, oherwydd nad ydyw erioed wedi ceisio deall neb, na meddwl am neb ond fel y gwasanaethont ef. Ond mae'r Sais fo wedi trafaelio gwledydd ac wedi dysgu cydymdeimlo â chenhedloedd eraill, yn greadur newydd. Medd foneddigeiddrwydd gonest tawel, ac y mae yn hoffus iawn. Er gwaetha'r Trioedd, y mae'n bosibl "dadfileiniaw Sais." Nid ydyw ei "fileindod" ond peth arwynebol, y mae pethau gwell yn nyfnder ei natur. Pan lysgir ef i ddeall ac i brisio ynni'r Albanwr a chrefydd y Cymro a dawn y Gwyddel, bydd yn fraint ac yn bleser cael bod yn gyd-ddinesydd iddo.
Erbyn i ni ddod i'r gegin, yr oedd Ioan wedi cyrraedd yno, wedi yfed ei lymaid arferol, ac wedi cysgu'n dawel, heb feddwl am yr holl dda a charedigrwydd oedd yn ei wneud o ddydd i ddydd. Y mae miloedd o ladron cyfoethog drwy Ffrainc yn byw ar lafur Ioan a'i debig, ond ni feder eu cyfoeth i gyd roddi iddynt y cwsg fwynhai'r gyrrwr wedi'r daith trwy wynt yr haf.