Tro yn Llydaw/Yr Eglwys Gam
← Gyda'r Cenhadwr | Tro yn Llydaw Corff y llyfr gan Owen Morgan Edwards Corff y llyfr |
Y Ddinas Foddwyd |
XVI.
YR EGLWYS GAM.
MEWN gwesty Llydewig cawsom ein hunain yn gartrefol iawn ymhob man. Ceir yr hen groesaw Cymreig yn ei holl symlrwydd calon— gynnes, — daw'r morwynion i roddi ychwaneg o ymborth ar y ddysgl, rhagofn fod y dyn dieithr yn rhy swil i wneud cyfiawnder âg ef ei hun, ac i holi, o wir awydd am wybodaeth, beth y mae'n wneud. Pan oeddwn yn ysgrifennu emynnau Llydewig o ysgrif-lyfr oedd y cenhadwyr wedi roddi yn fenthyg imi, daeth morwynig o Lydawes ataf, a gofynnodd ai cerdd oedd gennyf, ai cerdd Gymraeg oedd, ac a wnawn ei chanu. Gwyn fyd na fedraswn ganu iddi yr emyn oeddwn yn ysgrifennu —
Hen ho peus gwelet,
Hen ho peus gwelet,
Iesus, fa Ffrener ha Doue?
'Fid eur pecher efel doun
Roas 'so bues dre chouad fa Roue.'
Ond ni fedraf ganu. Mewn cyngherdd o offerynnau nid oes ond un offeryn fedraf fi ddeall, — y drym fawr. Y mae rhywun wedi dweyd, — mae pobl yn dweyd pob peth, — mai'r clyw yw'r mwyaf ysbrydol o'n holl synhwyrau, ac y mae rhywun arall wedi dweyd fod ysbryd canu'n hanner chwaer i ysbryd addoli. Os felly, y mae ar ben arnaf fi.
Ac eto, ni ddylwn ddigalonni, oherwydd bum unwaith yn arweinydd côr. Yn Geneva oedd hynny, pan oeddwn yn gaeth mewn ystafell yno gan afiechyd. Yr oedd gennyf le tân hir hen ffasiwn, a phymtheg o decelli arno'n rhes, yn canu drwy gydol y dydd. Nid oeddynt o'r un faint, ac nid yr un faint o ddwfr fyddwn yn roddi ym mhob un ohonynt. A thrwy eu ffitio fel hyn, a thrwy ddyfal ymarferiadau, a thrwy eu harwain gyda megin, yr oeddwn wedi dysgu'r pymtheg tecell i ganu Gorymdaith Gwŷr Harlech. Ryw ddiwrnod, er dirfawr brofedigaeth imi, taflodd y tenor goreu ei big, ac ni fu lun ar y côr byth ar ol hynny.
Bore'n hail ddiwrnod yng Nghuimper, dechreuasom grwydro drwy ystrydoedd diddorol y dref. Yr oedd y farchnad ar ein ffordd, a throisom iddi i weled y Llydawesau a'u blodau newydd ddod o'r wlad. Yr oedd enwau y trefydd Llydewig a'u pais arfau ar y mur, — Castell Newydd, Lesneven, Port Lauray, Audierne, coron a tharw Car Haix, draig goch Pont l'Abbé, draig wen Pont y Groes, bwyell goch Concarneau, llong Morlaix, hwrdd Quimper, tair pluen Brest, castell Chateaulin, ceiliog coch Quimperle, draig ddu St. Pol de Leon, dwy ddraig Landerneau, llewpard Le Faou, Le Conquet, Douarnenez.
Eglwys Gadeiriol Quimper ydyw adeilad enwocaf y dref. O bell, y mae fel pe ar edyn, oherwydd amlder ei hategion, fel draig a dau gorn hir yn ymbaratoi i esgyn oddiar y ddaear. Wedi myned i mewn, y mae golwg wir fawreddog ar y colofnau a'r gwydr lliw. Wedi sylwi ychydig, gwelsom fod yr eglwys yn gam, fel llwybr a thro ynddo drwy goedwig dewfrig. Gwnaed hi'n gam i fod yr un fath a Iesu Grist ar y groes, pan oedd ei ben wedi gogwydd gan ing.
Ar golofn ar ein cyfer y mae hanes yr eglwys yn gerfiedig, ac enwau ei chymwynaswyr, — y Gradlon ddiangodd pan foddodd y môr Ddinas Is, Owen Cabellic, Alan Rivelen, Bertrand Rhosmadec, Raoul le Moel, Claude de Rohan. Ar y dde, gwelsom gapel y Forwyn Fair, a "Je suis l'immaculee conception" fel coron o amgylch ei phen. Hysbyswyd ni fod yn y capel hen bethau y dylem eu haddoli, sef,
- 1. Blewyn o wallt y dra santaidd Forwyn.
- 2. Blewyn o edafedd ei gorchudd.
- 3. Carreg o fedd y dra santaidd Forwyn.
- 4. Carreg o'r tŷ yn Nazareth.
- 5. Carreg o le'r Ymweliad, hynny yw, o dŷ y santaidd Elisabeth.
Wedi pasio cyffes gelloedd a chapel Calon Santaidd Iesu, daethom at gapel mam y Forwyn, Ann Santes. Darlunnir hi fel "nain Iesu Grist, mam yng nghyfraith Joseff, priod Joachim, gwinwydden ffrwythlawn, llawenydd angylion, merch y patriarchiaid, noddfa pechaduriaid, mam y cleifion." Yn y ffenestr uwchben y mae darlun o Ann yn dysgu yr enethig Mair i ddarllen, ac y mae dyn cloff tlawd yn disgwyl wrthi am ymgeledd gerllaw. Hoff iawn gan y Llydawr adael i'w ddychymyg chware o gwmpas y cartref yn Nazareth. Nid ydyw ei ofergoeledd i'w gondemnio'n gyfangwbl, ymgais ydyw i ddarlunio bywyd y Beibl fel bywyd Llydaw. Teimla'r Llydawr yn sicr fod gan y Forwyn fam fel rhyw hen foneddiges Lydewig, merch llinell o batriarchiaid hirwallt, un dda wrth y tlawd, un ddysgai i'w phlant ddarllen. Onid ydyw dychymyg Cymru wedi gweithio yn yr un modd? Oni ddarluniai Evan Harries y Pharoaid fel rhyw orthrymwr adwaenai'r bobl ar Fro Morgannwg, ac oni ddarluniai Gwilym Hiraethog hen famau Israel fel hen famau Dyffryn Clwyd?
Y mae addoli'r Forwyn Fair yn beth anysgrythyrol, ond nid ydyw yn beth anodd ei esbonio. Yr oedd yn rhaid i'r diwinyddion esbonio pa fodd yr oedd yr Iesu, ac yntau'n ddyn, yn rhydd oddiwrth bechod gwreiddiol. Naturiol oedd iddynt ymhyfrydu mewn disgrifio cymeriad dihalog y Forwyn, a'i gwneud hithau hefyd yn fath o dduwies, — yn ferch santes, ei hun yn ddibechod. Peth arall, yr oedd yn rhaid gwneud crefydd yn hawdd ei deall i bobl o syniadau gweiniaid a daearol, ac y mae person dynol, — yn enwedig gwraig i gydymdeimlo, — yn llawer mwy dealladwy nag egwyddor neu wirionedd noeth.
Yn ol yr hen Biwritaniaid, y mae Duw'n llawn llid
yn erbyn pechod ac yn llawn cydymdeimlad â'r pechadur.
Y mae Pabyddiaeth wedi cymeryd y naill o'r priodoleddau
dwyfol hyn, a Phrotestaniaeth wedi cymeryd
y llall. Cydymdeimlad â'r pechadur yw nodwedd
Pabyddiaeth, crefydd lawn o bob math ar faddeuant
ydyw yn y byd hwn, ac y mae wedi rhoddi'r Purdan
rhwng yr enaid coll a'r 'uffern ddiobaith. Casineb
at bechod ydyw nodwedd Protestaniaeth, iddi hi y
mae muriau uffern yn ddiadlam byth. Crefydd i'r
Celt, — un sy'n pechu ac yn edifarhau o hyd, ym mhwysau
ei natur nwydus, — ydyw Pabyddiaeth. Crefydd i'r
Teuton, un na wna ddim ond o hir fwriad, ydyw Protestaniaeth.
Person sydd fwyaf dealladwy i'r Celt.
sefydliad i'r Teuton, – Mair sy'n llenwi meddwl
y naill, yr Eglwys sy'n llenwi meddwl y llall. Paham y mae'r
Cymry'n Brotestaniaid ynte? Y mae Ann Griffiths
wedi gwneud yr Eglwys, priodasferch yr Oen, mor
hawdd ei deali i Gymro ag ydyw Mair y Forwyn i
Lydawr.
Y mae yn yr Eglwys Gam lawer o gapelydd a chreiriau eraill, capel Joseff, ond nid oes cymaint yn penlinio o'i flaen ef ag o flaen ei fam yng nghyfraith; capel Ioan, ac asgwrn ei ben; bedd rhyw Lydawr o Gynan, ‘yn disgwyl atgyfodiad; Mair y Gobaith, gyda darlun o wyneb swynol, a llawer o flodau offrwm; darlun o'r tad Mannoir yn dysgu'r Brythonwyr yn eu hiaith eu hunain trwy wyrth; capel braich Corentin, nawdd sant yr eglwys, ceir gollyngdod oddiwrth bechodau tri chan niwrnod ond ymweled â'r bedd hwn, estynnir yr un fraint i'r eneidiau sydd yn y Purdan, sut bynnag y medrant adael y lle hwnnw er mwyn cymeryd daith. Ond hwyrach y gall rhyw gâr wneud y siwrne drostynt. Gwelsom allor freintiedig," a cherſlun o hen esgob tew yn gorwedd yn gysurus ynddo; a chapel y Tri Diferyn; a chreiriau llawer sant, — Ronan, Goulven, Padarn, Malo, Melain, Armel. Gwenole, Gildas, Meen, Petvan.
Y mae'r Llydawiaid wedi cadw mwy o'u hen enwau priodol na'r Cymry. Oddigerth rhyw ychydig,—megis Llwyd, Anwyl, Gwyn—y mae enwau'r Cymry yn enwau dieithr. Jones, Williams, Evans, Roberts, Hughes, dyna ymron yr oll a feddwn. Gellir esbonio pam y mae'r enwau Cymreig wedi diflannu. Pan ddaeth y Normaniaid i Gymru, dechreuodd trigolion y wlad, yn ol eu hen arfer wasaidd, gymeryd enwau'r Saeson, a galwodd pawb ei hun yn John neu'n William neu'n Hugh. Erbyn y bymthegfed ganrif, byddai enw Cymro yn rhywbeth fel hyn, John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd. Ond tyngodd yr esgob oedd yn Arglwydd Lywydd y Gororau tua 1540 na fedrai ef byth gofio mwy na dau enw ar yr un dyn, a gwnaeth gyfraith nad oedd yr un Cymro i fynd yn ol ymhellach na'i dad wrth ddweyd neu ysgrifennu ei enw. Ac felly cwtogwyd John ap John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd nes oedd yn John Jones. Gadawyd ambell lecyn, megis Mawddwy, dan ei hen gyfreithiau, ac arhosodd yr enwau achyddol megis cynt. Clywodd gŵr o Lan— uwchllyn lais mawr, pan yn ei wely, o gors gerllaw ei dû. Deallodd oddiwrth y sŵn mai dyn o Fawddwy oedd wedi myned i'r gors ar ei ffordd adre, ac efe weithian wedi ymgyfnerthu â diod gadarn i wynebu ofnau Bwlch y Groes. Pwy sydd yna, druan? Dowch yma'n union i helpu William Sion William ap Sion Llywelyn ap Rhydderch mab yr hen Lywelyn Sion o'r gors." Helpwch eich hunain, y fileiniaid, y mae yna ddigon o honoch i lenwi'r gors, feddyliwn i."
Ond cadwodd y Llydawiaid eu henwau. Ar siopau Quimper yn unig gwelais y rhai hyn,—Castel, Morvan, Guezenec, Cardod, Madoc, Mancec, Guiomar, Rivoalen, Kergoat, Le Coz, Guiader, Le Gof, Troadec, Le Bras (Y Mawr, gwlaw bras), Le Balch, Le Hir, Le Bihan, Squannec (y dyn a'r clustiau hirion, cf. 'sgwarnog, yr anifail hirglust), Troeder, Keribin, Le Berre (Y Byr), Le Goig, Le Bris (Y Brith), Canet, Caralec. Chwarddasom wrth weled un enw,—"Le Moel, Peruquier," Y Moel, trwsiwr gwallt.
Crwydrasom drwy'r ystrydoedd Llydewig sy'n dringo ochr y bryn,—" Ystryd y Gwyr Bonheddig a'i cherfiadau; Ystryd Pichéry, lle mae "Tafarn y Bobl Seilion," — y mae llawer o fynych wendid yn Llydaw hefyd; a llawer hen ystryd dawel arall. Llydaweg glywem yn yr ystrydoedd hyn, ac ar lan yr afon loyw, a than y coed, ond yr oedd yr hysbyslenni i gyd yn Ffrancaeg. Yr unig hysbyslenni Llydewig welsom oedd rhai bydwragedd a meddygon anifeiliaid. Rhyw— beth yn debig ydyw yng Nghymru, clywais Gymraeg ddigonedd ar heolydd Caerfyrddin, ond yr unig Gymraeg welais yn ffenestri ei siopau oedd hysbyslenni am bregethau ac am furum sych.
Gwelsom Guimper ar fin nos, pan oedd y lleuad newydd yn dod i'r golwg dros ysgwydd goediog y bryn. Gwelsom y goleu'n crynnu ar yr hen furiau, ar ddau bigyn yr eglwys gam, ar y coed oblygent uwchben yr afon, — ac ni welsom ddim prydferthach erioed.