Tro yn Llydaw/Y Ddinas Foddwyd

Oddi ar Wicidestun
Yr Eglwys Gam Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Gwlad y Beddau

XVII.

Y DDINAS FODDWYD.

UN bore gwelid Ifor Bowen a minnau'n cyrchu tua thŷ'r cenhadwr, yr oedd wedi addaw dod gyda ni i Ddouarnenez. Pan oeddym yn pasio dan gysgod yr eglwys ar y ffordd i'r orsaf, gwelem hen ŵr hirwallt barfwyn yn prysuro adre heibio'r gornel. Luzel oedd, ond ni feddem amser i gael ymgom âg ef, rhag colli'r tren. Efe, Renan, a'r Vicomte de la Villemarqué sydd wedi gwneud mwyaf, o bawb sy'n fyw, dros lenyddiaeth Llydaw. Yr oeddym wedi meddwl cael ysgwrs â'r tri, ond ni wenodd Ffawd arnom.

Yn yr orsaf gwelsom lawer o Swissiaid Protestanaidd Quimper, yr oeddynt hwythau'n mynd i dreulio diwrnod ar lan y môr yn Nouarnenez. Yr oedd mab un ohonynt, ysgol feistr, newydd gyrraedd adre o Ffrainc, a dywedodd lawer wrthym am deimlad llywodraeth Ffrainc tuag at Lydaw. Yr un ydyw ag oedd teimlad Lloegr at Gymru ryw ychydig flynyddoedd yn ol, awydd dinistrio bywyd Cymru, a gwneud yr holl Gymry'n Saeson. Ni oddefir i un athraw esbonio gair yn Llydaweg i blant yn yr ysgol, rhaid dysgu plentyn uniaith Llydewig trwy gyfrwng y Ffrancaeg. Dan y drefn felltigedig hon yr addysgwyd finnau, lawer blwyddyn yn ol, mewn ysgol wledig yng Nghymru. Cymerir gofal, fe'm hysbyswyd, am anfon pob ysgolfeistr Llydewig i rannau arall o'r wlad; a dygir brodorion Ffrainc neu Wasgwyn yn eu lle i Lydaw. Ffranceiddio pob man ydyw amcan llywodraeth Ffrainc, trwy osod syniadau pechadurus am wag ogoniant Ffrengig ym meddyliau pawb. Edrychais o'm cwmpas, a gwelais ar gapiau'r plant enwau brwydrau gwaedlyd anghyfiawn Napoleon,—Marengo, Austerlitz, Jena. Ond ni welais Drafalgar na Waterloo na Sedan ar gap neb.

Yr oeddym yn teithio'n araf drwy wlad fryniog eithaf ffwythlon heibio Wengat a Iuch, yn y man croesasom bont dros afon oedd ar ymarllwys i'r môr, a dywedwyd fod Douarnenez yn ymyl.

O'r orsaf aethom drwy ystryd hir, gan ddal sylw ar y man bethau wna fywyd y pentrefydd Llydewig yn anhebig i fywyd pentrefydd Cymru, — yr esgidiau pren (bwtw coad); drym y criwr, yn lle cloch; y dull o bedoli ceffylau yn yr efail, lle gwelsom wyth o bobl a'u holl egni yn pedoli un ceffyl. Cyfeiriasom tua thŷ'r pregethwr Calfinaidd Le Groignec, a theimlem yn gartrefol iawn wrth feddwl am ymweled â phregethwr Methodist o Lydawr. Mewn lle dieithr, i dŷ'r pregethwr yr eir yn aml am gyfarwyddyd, ac y mae hyn yn beth i'w synnu ato pan gofiom nad oes undyn mwy prysur nag ef. Ond clywsom nad oedd gartref, a throisom i dŷ'r is lys-genhadwr Norwegaidd, hen ŵr tal urddasol, sy'n preswylio yn Nouarnenez i achub cam y Norwegiaid Lutheraidd sy'n dod yma i werthu tar a rhaffau i'r pysgotwyr. Oddi yno aethom trwy'r pentref tua'r môr. Eglwys newydd ydyw'r eglwys, dynwarediad gwael a di-enaid o eglwys Quimper; a phentref tlawd hyll ydyw'r pentref, — tai budron wedi eu hadeiladu yn dyn yn ei gilydd. Ond am y môr, ni welais ef mor ogoneddus yn unlle erioed. Prysurasom heibio'r adeiladau lle pecir sardines, gan gau ein ffroenau rhag y drewiant gyfyd o'r miloedd pennau pysgod oedd yn pydru ym mhob agen, esgynasom fryncyn gwyrdd, gwelsom y môr o'n blaenau, a daeth awel iach oddiarno i'n cyfarfod. Yr oeddym wedi clywed nad ydyw Bau Douarnenez yn ail ond i Fau Naples yn unig mewn prydferthwch. Nid ydyw awyr Llydaw mor glir ag awyr yr Eidal, na'r lliwiau mor dyner a gogoneddus, ond y mae Bau Douarnenez yn hyfrydwch i bob llygad a'i gwel. Y mae wedi ei gau i mewn ar bob ochr ond un gan fynyddoedd. Oddiar y bryn y safem arno gwelem holl gylch ei draethell. —llethrau grugog a Ilanerchi bychain o dywod melyn disglair yn agosaf atom, a rhimin o fynyddoedd gleision yn y pellter, yn ymestyn i'r môr ar lun pen ysgyfarnog. Yr oedd yn amser i'r cychod fynd allan i bysgota, ac yr oedd ugeiniau ohonynt yn cyfeirio tua phen y llwybr i'r môr agored heibio godrau'r mynydd sy'n sefyll yn y môr. Goblygai eu hwyliau bychain duon i'r un cyfeiriad, yr oedd y cychod yn dduon, fel pebyll Cedar, ar y dwfr glas, ac yn hawddgar iawn. Ymddanghosai'r bau'n dlysach na'r tir, yn fwy heddychlon na'r môr, yr oedd y cychod bach yn berffaith ddiogel wrth ddawnsio'n ddistaw ar ei dennau mân, a meddyliwn fod pob Llydaw- iad oedd ar y bau wedi gweddio gweddi'r pysgotwr, — "O Dduw cadw fi, mae dy fôr di mor fawr, a'm cwch innau mor fach."

Bu'r bau tonnog hwn yn ddol werdd unwaith, medd hen hanes. Yn y bumed ganrif teyrnasai Gradlon Mawr ar Gaer Is, y ddinas ar y gwastadedd oedd yn is na'r môr pan fyddai'r llanw i mewn. Dyma oedd "Cantre'r Gwaelod" yn Llydaw, a Gradlon Mawr, fel Seithenyn Feddw, oedd yn cadw allweddau'r môrddrysau. Yr oedd sant yn Llydaw'r adeg honno, o'r enw Gwenole, ac yr oedd hwn wedi hen rybuddio Gradlon fod perigl mewn gwleddoedd a gwin. Yr oedd gan Radlon ferch brydferth, hefyd, o'r enw Dahut, ac yr oedd ganddo elyn. Gwelodd Dahut y gelyn hwn, a hoffodd ei bryd a'i wedd. Cyn hir, cymerodd ei darbwyllo ganddo i ladrata'r allweddau oddiar y gadwen oedd am wddf ei thad, a'u rhoddi iddo ef. Agorodd yntau'r drysau pan oedd pawb yn cysgu yn nyfnder y nos, ac erbyn y bore ni welid ond môr lle buasai Caer Is. Clywodd rhywun sŵn y dyfroedd yn dod, a medrwyd cyfrwyo march Gradlon mewn pryd iddo ddianc. Rhoddodd Ddahut ei ferch wrth ei sgîl, ond, dan bwysau'r ddau, yr oedd y môr yn prysur ennill ar y ceffyl. Pan oedd y tonnau wrth sodlau'r march, daeth marchog arall a charlamodd yn ochr y brenin, a gwaeddodd arno'n llidus am daflu Dahut i lawr. Gwelodd Gradlon mai ysbryd Gwenole oedd yn siarad âg ef, a thaflodd ei ferch i lawr mewn ufudd- dod iddo. "Pwll Dahut? y gelwir y lle y boddodd merch y brenin hyd heddyw. Wedi ei boddi hi, peidiodd llid Gwenole a chynddeiriogrwydd y môr. Y mae cerdd Lydewig yn y Barzaz Breiz am foddi gwastadedd Is.

I.

A glywaist ti eiriau gŵr Duw,
Wrth Radlon Mawr, hen frenin Is?
Gwylia, gwin a chariad yw
Dinistr byd. Rhaid talu'r pris."

II.

Ebe Gradlon,"Hoff gyd wleddwyr, cysgwch heno gyda mi,"
"Pell y cerddodd y nos weithian, cysgwn gyda thi."
A daeth llais o'r mwynaf glywyd i glust merch y brenin ffol,
"Dahut anwyl, dwg im allwedd Dinas Is, ti a'i cei yn ol."

III.

Cysgai’r brenin yn ei harddwch, harddwch henaint teg,
Syrthia'i wallt fel cawod eira ar ei fantell borffor cain,
Ar ei wddf 'roedd cadwen emog, ac arni agoriadau ddeg,
Gwelid allwedd caerau'r moroedd, allwedd fawr, ymysg y rhain.

IV.

Daeth geneth wen ysgafndroed
Yn ddistaw, ddistaw,
I'r frenhinol 'stafell gwsg,
Gan wrandaw, gwrandaw.
Anadliad cwsg ei thad,
Yn unig glywai,
Ond su alaethus y môr
ar bell ororau.
O faen yr hen ŵr oedd yn huno penliniodd,
Y gadwen a'r allwedd yn ddistaw gymerodd.

V.

Mae'r brenin yn cysgu. Ond daw gwaedd o'r iselder,—
"Mae'r drysau yn agored, mae'r môr yn rhuthro i mewn,
"Fy mrenin ! O cwyd! Dy farch buanaf gyfrwyir,—
"Mae'r tonnau brigwynion cynddeiriog yn dyfod !
"Ho! Ffowch am eich bywyd, drigolion y gwaelod !
"Mae'r môr ar ein gwarthaf, pwy agorodd y drysau?
"Pa adyn melltigedig a'n bradychodd i Angeu?"

Mae buanfarch y brenin ar ucheldir Pen Afroedd,
A Chaer Is yn eigion y dyfroedd.

VI.

"Goediwr, dywed imi, a welaist fuanfarch
Hen frenin Is yn dianc rhag y môr?"
"Ni welais ddim, ond aml yn nyfnder nos
Mi glywais sŵn traed ceffyl yn dianc rhag y môr,
Trip, trep, trip,
Trep, trip, trep,
A'r môr yn dod i mewn.
Bysgotwr, dywed imi, a welaist forwyn fôr
Yn cribo ei gwallt melynaur ar y lan?"
Do, llawer gwaith y gwelais forwyn wen y môr,
A'i chân, fel llais y tonnau, 'n gwynfannus wan."

Prynhawn dedwydd dreuliasom gyda'r cenhadwr ar ochr y bryn, y môr a Dinas Is odditanom, a chymylau uwchben yn lleddfu'r gwres. Ond rhaid oedd rhoddi terfyn ar yr ymgom, gan fod bysedd clociau'n mynd o hyd. Troisom tua thŷ'r pregethwr Le Groignec. Y mae'n byw mewn rhan isel yn y pentref, — a pha le sydd futrach na phentref pysgotwyr. Esgynasom risiau. yr oeddynt yn fudron a lleidiog iawn. Wrth fynd i fyny, gwelem du fewn llawer ystafell, ac yr oeddynt oll yn fudron ffiaidd. Cyn hir cyrhaeddasom yr ystafelloedd uchaf ar y fflat, ac yr oedd tynnu i fyny iddynt o'r lleill fel myned o'r ddaear i'r nefoedd, — llenni gwynion, dodrefn cyn laned a'r aur, plant bach tlws, iechyd, a chân. Dyma deimlir, bob amser wrth fyned o dŷ Pabydd i dŷ Protestant. Beth bynnag arall y mae Protestaniaeth yn wneud, y mae'n dysgu pobl i olchi eu hwynebau ac i lanhau eu tai, ac y mae hyn yn sicr o fod yn rhan bwysig o grefydd Iesu Grist. Y mae Le Groignec yr un ffunud a phregethwr Methodist Cymreig, ac y mae ei wraig yr un fath yn union a gwraig pregethwr Methodist, — yn llawen, yn hardd, yn groesawgar. Y tu allan i Gymru, nid oes yn y byd gystal merched a merched Llydaw. Cawsom ginio cysurus, ar liain cyn wynned a'r eira, cofiodd Madame Le Groignec mai Prydeiniaid oeddym, a chawsom de fel bys. Yr oeddym oll yn teimlo ein bod yn un teulu, caneuon a chrefydd a theimladau Cymru oedd ein caneuon a'n crefydd a'n teimladau ni y prynhawn hwnnw. Llydaweg oedd yr iaith, ond nid oeddym yn cofio nad Cymraeg oedd. Yr oedd un o ferched bach Le Groignec yn chware'r piano,—hyhi sy'n chware yn y capel, — a'r lleill yn canu. Yr oedd un emyn prydferth yn dechre,

"Iesu, rwy'n hiraethu am danat."

Ond y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd clywed y Delyn Aur,—

"Ne fo ffin da gana ha meuli
Iesus Crist da firicen,
Tent hog eled gano assambles
He fadeles da bep den,
Ne fo bicen
Ffin da son am delen aour."

Aethom i weled yr ystafell genhadol. Rhan o dŷ coed ydyw, ystafell isel, dywell, mewn lle budr. Ar noswaith cyfarfod, medr y gelynion wneud gwrando'n beth amhosibl, ac y mae'r arogl ymgyfyd o'r tomennau gerllaw yn anioddefol bob amser. Perigl parhaus oedd syrthio ar draws plant, creaduriad bach budron hanner noethion oedd yn chware yn y llwch a'r tomen— ydd. Yr oedd un peth yn anwylo'r bodau bach hyn i ni ar unwaith, clywem bwy'n gwaeddi mam,' y gair cyntaf ddysgasom ninnau erioed. Os hoffech gryfhau'ch sel dros y genhadaeth yn Llydaw, ewch yno a gwrandewch ar y plant yn chware; cewch deimlo, mewn graddau anfeidrol lai, deimladau Tad Nefol wrth glywed pechaduriaid, ym mangre pechod a dioddef, eto'n siarad rhywbeth tebig i hen iaith y wlad well.


Aethom trwy'r ystrydoedd i'r pen arall i'r pentre i weled yr ystafell genhadol newydd. Gŵr canolig o ran taldra ydyw Le Groignec, gyda llais treiddgar heb fod yn ddwfn, a wyneb yr un bictiwr a Henry Jones, Capel Garmon gynt. Dywedodd wrthyf mai mynach oedd unwaith, yn ei gell gwelodd dwyll Pabyddiaeth, darllennodd ei Feibl, gwelodd oleu, daeth yn Brotestant, a phriododd. Wrth gerdded ymlaen, gwelem fod braidd bob Llydawr yn rhoddi ei fys ar gantel ei het i'r ddau genhadwr, tra na welem neb yn moes gyfarch yr offeiriaid Pabaidd. Mae'n amlwg fod y Llydawiaid yn parchu'r bugeiliaid Calfinaidd, tra nad oes ond ofn yn eu cadw wrth y lleill.

Erbyn i ni edrych yr ystafell newydd, yr oedd yn dechre nosi, ac yr oedd amser y tren yn agoshau. Rhwyfasom dros yr afon, yr oedd y llanw'n codi'n gyflym, ac aethom i'r orsaf hyd ffordd agosach na'r un y daethom ar hyd—ddi. Siaradai'r cenhadwr Lydaweg a'r cychwyr, er braw iddynt,—"O, 'roeddem ni'n meddwl mai Ffrancod oeddych chwi." Yr oedd y lleuad i'w gweled yn nofio ar y tonnau sydd uwchben y wlad a foddwyd, gwelem hwyliau duon y cychod rhyngom a'r goleu gwyn, noswaith aeddfed yn yr haf oedd honno, ac y mae'n sicr gennyf na fu Douarnenez erioed yn brydferthach.

Yr oedd y cwmni Protestanaidd yn yr orsaf o'n blaenau, a chawsom ymgom am ddemocratiaeth Cymru ar hyd y ffordd adre. Wedi cyrraedd y dref, yr oeddym yn gorfod ffarwelio â'r cenhadwr, gan ein bod yn cychwyn yn blygeiniol drannoeth tua'r de. Buasai'n dda gennym gael myned i Bont l'Abbé, ond cofiasom fod miloedd o fysedd clociau yn symud ymlaen yn ddibaid. Ac yma y gadawsom W. Jenkin Jones a'i obaith am Lydaw, a'i gred fod pethau mawr ar ddigwydd.