Tro yn Llydaw/Gwlad y Beddau

Oddi ar Wicidestun
Y Ddinas Foddwyd Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Dinas ar Fryn

XVIII

GWLAD Y BEDDAU

YMGYNGHORASOM ddiwedd ein diwrnod olaf yng Nghuimper, a gwelsom nad oeddym eto wedi teithio ond prin hanner cylch Llydaw, tra'r oedd ein mis gwyliau bron ar ben. Rhaid i ni oedd teithio'n gyflymach o lawer trwy'r ail ran o'n tro, a rhaid i minnau gwtogi f'ystori.

Cododd y Bychan ni'n fore, ac wrth deimlo hyfrydwch tawel y bore hwnnw, gwnes hen benderfyniad mai aderyn bore fyddwn o hyd. Teithiasom tua'r de ddwyrain, tua Vannes, trwy wlad fynyddig, i fyny dyffryn afon fechan, gan adael Bau Marwolaeth a Phen March o'n holau, a chan ddilyn traethell Bau Biscay ar ein de. Gwelsom fod deheudir Llydaw yn llawer tlotach na'r gogledd,—oherwydd fod y tir yn fwy diffrwyth, ac oherwydd fod marchnadoedd Lloegr ymhellach. Nid ydyw'r tywod a'r diffeithleoedd wedi eu gwneud yn erddi fel yn y gogledd, y mae pob plentyn wedi ei eni'n gardotyn, ac y mae'r offeiriaid Pabaidd i'w gweled yn heidiau duon fel brain.

O Guimper i Rosporden cawsom gwmni hen offeiriad, budr ei grys, budr ei lyfr. Ni welsom neb yn gwneud yr arwydd leiaf o barch iddo yng Nghuimper nac yn Rosporden. Ac eto yr oedd ganddo ef a'i debig ddigon o ddylanwad ar ofnau'r bobl i wneud Rosporden yn lle anghysurus iawn i genhadwr Protestanaidd.

Dywed Villemarqué fod Rosporden yn hynod yn yr hen amseroedd am y dawnsfeydd a elwir carnaval, pan ymwisgai dynion mewn mygydau a chrwyn anifeiliaid i wneud eu diffeithwaith. Llawer ystori ddywedwyd i ddiddyfnu'r Llydawiaid oddiwrth y dawnsfeydd hyn. Unwaith, yn eglwys fawreddog Quimper, a dim ond llusern fechan yr allor yn oleu, clywid llais dwfn offeiriad o Rosporden yn canu'r hanes hwn,—

GWLEDD Y MARW.
Bu digwyddiad yn Rosporden
Lawer blwyddyn faith yn ol,
Sobrodd lawer un gwyllt-nwyfus,
Ac yn gall wnaeth lawer ffol.

Gwelid tri o lanciau ieuainc,
Mewn tafarndy'n yfed gwin,
Poethai' gwaed wrth fynych godi'r
Cwpan at eu min.

Yn eu meddw nwyf ymdeithient,
Gan wneud drygau'n ewn,
Hyd nes cyrraedd porth y fynwent,—
Aeth y gwaetha i mewn !

Ar y llawr 'roedd esgyrn pennau,
Meiddiodd godi un,
Ac a'i dododd, feiddgarwch !
Ar ei ben ei hun.

Yn lle'r llygaid, dyllau gweigion,
Rhodd ddwy ganwyll wen,
Ffoai pawb o fewn y pentre,
Rhag yr erchyll ben.

Danghosodd Duw ei anfoddlonrwydd,
Rhuodd taran ddofn
Dros holl wyneb du y nefoedd, —
Llewygodd rhai gan ofn.

Wrth roi'r benglog yn y fynwent,
Ebe'r llencyn hy,—
"Hen frawd marw, nos yfory
Tyr'd i swper ataf fi."

Aeth y nos a daeth y bore,
Fel bu lawer gwaith;
'Roedd y llencyn fel arferol;
Canai gyda'i waith.

Daeth nos drannoeth. Amser swper
Clywid cnoc ! cnoc ! cnoc !
Ebe'r bachgen gwyllt di feddwl,
"Dof i agor toc."

Daeth y Marw hwnnw i mewn,
A dwedodd, "Dyma fi,
Onid ydwyt yn fy nisgwyl
I swpera gyda thi?"

"Nid yw'th swper di yn barod,
Parod yw f'un i,
Yn fy meddrod oer mae'r arlwy,
Dyfod raid i ti.

Clywid gwaedd angeuol,
Yn welw wyw aeth gwedd
Y llanc wahoddwyd yno
I wledda yn y bedd.


Dywedir am un arall ei fod wedi gwisgo penglog ar ei ben ei hun, a'i fod yn methu'n lân a'i dynnu i ffwrdd oddiar ei ben; ac am un arall wedyn iddo wisgo crwyn anifeiliaid, ac i Dduw ei droi yn anifail ynddynt. Ar yr olwg gyntaf, y mae gwyrthiau fel hyn yn anhygoel, ond gwn fod Duw wedi gwneud pethau cyffelyb. Gwn am ragrithiwr fu'n gwisgo ei fwgwd yn hir, erbyn heddyw ni all ymddiosg, rhaid iddo droi ymysg dynion a'i fwgwd erchyll ar ei wyneb. Gwn am un fu'n rhoi croen y bwystfil am dano weithiau,—dim ond ar ambell i dro, i feddwi a phechu, — heddyw ni all ymddiosg, y mae wedi troi'n fwystfil yn ei groen bwystfil benthyg.

Gwelsom dŵr eglwys Rosporden, eglwys ar lan afon, a theithiasom trwy wlad o wartheg brithion ac eirin duon i Fanalec. Oddiyno daethom i Quimperlé, lle cynhelir " Pardwn yr Adar," un o'r lleoedd tlysaf yn Llydaw. "Cymer" y galwesid y lle yng Nghymru, oherwydd saif rhwng yr Izol a'r Ellé, lle mae eu dyfroedd yn uno, "fel coron o ddail a blodau ar y dwfr." Gwel— som dŵr ysgwar yn codi o goed Quimperlé wrth deithio ymlaen tua Lorient. Lle mawr Ffrengig, porthladd rhyfel pwysig ydyw hwn, ac nid oedd a fynno ni ag ef. Gwell fuasai gennym aros yn un o'r pentrefydd Llydewig gerllaw — ym Mhleumeur (Plwy Mawr), lle'r ymwisga'r L!ydawesau mewn gwyn ar "Ddydd Bendith y Pysgod," pan fo'r cychod sardines yn cychwyn i'r môr; neu yn Locminé, lle mae sant weddia dros bobl feddwon.


Gwelsom gastell adfeiliedig Hennebont, ac adroddasom i'n gilydd y digwyddiadau cyffrous gymerodd le yn y rhan hon o dalaeth Morbihan. Wedi cyrraedd Auray, gadawsom y tren, i roi tro trwy wlad y beddau. Y mae'n anhebig iawn i'r wlad ydym newydd ei gadael; yn lle gwlad fryniog, a choedwigoedd mwsoglyd fel cestyll, cawn ddarn o wlad wastad, weddol anial, yn rhedeg i'r môr. Cloddiau isel o gerrig mân a thywyrch, ffyrdd union digysgod, gwastadedd tlawd gwyntog, — dyna ydyw gwlad y beddau. Yr oeddwn wedi gweled Stonehenge, a rhaid i mi gyfaddef nad ydyw Carnac yn ddim wrthi : siomedig iawn y teimlem wedi gweled y cerrig anferth sy'n sefyll neu orwedd ar y llannerch eang wastad hon ar lan Bau Biscay. Rhyfeddem beth oeddynt, — ai pyrth temlau, ai beddau, ai beth. Gwyddem yn sicr eu bod yn rhan o ryw hen grefydd baganaidd, dderwyddol hwyrach, sydd wedi diflannu o flaen Cristionogaeth. Gwelsom groes haearn wedi ei gosod ar un o'r cerrig mwyaf, ac yr oedd yr hen garreg fawr baganaidd fel pe’n gwargrymu'n anfoddog dan y groes. Wrth weled y cerrig, dros ddwy fil o honynt, yn sefyll ar y gwastadedd, ac yn gwyro oll yr un ffordd, bron na chredem fod yr hen chwedl yn wir, sef mai tyrfa o baganiaid oeddynt, fu'n erlid ar ol sant, wedi eu troi'n gerrig, fel gwraig Lot gynt, pan ar roddi eu dwylaw ar y Cristion ffoai o'u blaen. Ar y gwastadedd dieithr hwn y mae'r plant bach tlysaf welais erioed. Dilynasant ni rhwng y rhesi hirion o gerrig, yn droednoeth goesnoeth, gan ddisgwyl dimeuau. Pan symudem, trotiai tyrfa fach ar ein hol, a'u llygaid goleu prydferth yn llawn gobaith, trwy'r eithin a'r grug. Wedi deall ein bod wedi rhoddi pob dime, ni adawsant ni; daethom yn ffrindiau mawr, hwy'n siarad Llydaweg, a ninnau'n siarad Cymraeg.

Yn y cwmni difyr hwn, cyrhaeddasom bentref Carnac. Yn yr eglwys gwelsom enw perchennog un o'r seti, — "Me. Dieu me garde de Kervegan", (Caerfechan), a gwnaeth hyn i ni feddwl am Praise God Barebones, ac am ei frawd But-for-the-grace-of-God That-would- have-been damned Barebones. Y mae yma hefyd sant sy'n gwella pob afiechyd ar wartheg; gwelais ddau hen ffarmwr ar eu gliniau o'i flaen.

Un o'r pethau dieithriaf welais i erioed ydyw mynwent Carnac. Y mae'n erchyll o ryfedd ac ni allaf ei anghofio, er gwneud fy ngoreu. Pan fo'r corff wedi pydru yn y bedd, codir ef i fyny, a rhoddir ef mewn arch ar lun tŷ. Gwelais lawer o'r rhai hyn, a'r enwau arnynt,—Marie Ann Guillevic de Kercloir a'r gwallt melyn hir eto'n aros ar y benglog, a llawer eraill yr oedd pobl y lle yn eu hadnabod yn dda. Wedi iddynt aros ychydig ar y beddau, teflir yr esgyrn i adeilad mawr gerllaw. Gwelsom hwy yno, tyrfa o bobl feirw, a rhedyn Mair yn ceisio ymgripio dros gwr o'r pentwr erchyll. Pan dery'r cloc hanner nos, dywedir y cyfyd yr esgyrn hyn, ac y gwelir hwy'n myned yn orymdaith i'r eglwys gerllaw. Sicrhaodd saer maen fi ei fod wedi gweled ffenestri'r eglwys yn oleu yn nyfnder y nos; aeth yno, a thrwy'r ffenestri gwelai'r gynulleidfa o esgyrn, ac Angeu mewn gwenwisg yn y pulpud yn pregethu iddynt.

Y mae llawer lle diddorol ar wastadedd Carnac, Quiberon, lle bu brwydr chwerw rhwng y ffoedigion Llydawaidd a'r Chwyldroadwyr, a lle llawer bedd, dolmen, a maen hir, — ond ni fynnai amser aros wrthym, a gorfod i ni redeg ar hyd y ffordd hir lychlyd, drwy'r gwres, rhag colli'r tren. Yn yr orsaf gwelsom ddwy Saesnes baciog, wedi gorfod rhedeg fel ninnau, ac yn dweyd dear wrth ei gilydd mewn dull na fai Llydawr uniaith byth yn deall gwir ystyr y gair. Disgwyliem gyrraedd Vannes cyn i'r nos gerdded ymhell iawn.