Tro yn Llydaw/Dinas ar Fryn

Oddi ar Wicidestun
Gwlad y Beddau Tro yn Llydaw
Corff y llyfr
gan Owen Morgan Edwards

Corff y llyfr
Troi Adre

XIX

DINAS AR FRYN

WELAIS ddau ymadrodd o Saesneg yng ngorsaf Auray—hysbysiad am "steeple—chase oedd i gymeryd lle y Sul canlynol, a genuine toilet soap ar focs llawn o bysgod. Danghosodd Ifor Bowen i mi eneth hawddgar oedd yn rhodio ymysg y bobl,—" Dacw i ti, mae pawb yn edrych arni, 'does dim ond geneth dlos gaiff warogaeth gan bawb ym mhob man." Ymysg yr offeiriaid tewion cnawdol trwynsur yr oedd un gŵr ieuanc llathraidd hardd, — gwridodd pan welodd fi'n sylwi ei fod yntau'n cael mwynhad o syllu ar harddwch yr eneth honno. Ni raid i mi ddweyd mai Llydawes oedd. Y mae'r Llydawesau'n groenlan iawn, ond y mae'r llwch fel pe byddai wedi myned i grwyn y francesau, rhywbeth fel pe bai wedi ei pholsio ydyw Ffrances hardd.

Yr oedd yn hen brynhawn arnom yn cyrraedd Vannes, a hyfryd oedd cysgodion ei heolydd wedi'r gwastadedd poeth. Wedi ymgartrefu yn yr Hotel de Morbihan, troisom i'r eglwys i orffwys. Y tu allan gwelsom res o fwaau prydferth toredig, a theimlasom fod rhywbeth yn fawreddog iawn yn y pentwr adeilad eang a di- drefn. Y mae braidd yn rhy orwych oddimewn, ond, gan fod y ffenestri’n fychain fychain, ymddengys yr hen eglwys yn dawel a phrudd. Yr oedd yno lawer o bobl, yn ddefosiynol iawn. Daeth gŵr goludog i mewn ar ein holau, clywsom fegeriaid yn galw ei sylw wrth y drws, penliniodd, tynnodd gadwen aur o'i boced, ac aeth trwy ei weddiau'n rhigil ddigon. Prin yr oedd wedi codi pan ddaeth haid o offeiriaid o gapel gerllaw, heb eillio ers pedwar diwrnod ac heb olchi eu hwynebau ers pedwar mis, ac aethant allan drwy'r eglwys i gladdu rhywun, druan. Aethom allan cyn iddynt ddod yn ol, i lenwi'r eglwys a'u hoergri.

Y mae hen byrth Vannes eto'n aros, a'r muriau y bu'r saethyddion yn sefyll arnynt. Wedi syllu ar yr hen adeiladau, aethom ar hyd y rhodfeydd sydd y tuallan i'r mur, a gwelsom mor hardd yr ymgyfyd muriau llwydion yr hen ddinas o'r gerddi a'r afon sy'n rhedeg o'u hamgylch. Nid oes, ond odid, ddinas yn y byd ag y bu cymaint o warchae arni a Vannes, o amser Iwl Caisar hyd y chwyldroad, ond y mae ei chaerau cedyrn, erbyn heddyw, wedi eu gwneud yn rhodfeydd lle gwelsom blant yn chware ac yn siarad Llydaweg. Oddiar y rhodfeydd hyn, gwelem y gororau Llydewig tua'r de, "Dyffryn Maelor" Llydaw, talaeth Nantes, a buom yn dyfalu a fedrem weled La Roche Bernard ar y gwastadedd bras, y lle cyntaf ddaeth yn Brotestanaidd dan ddylanwad Coligni.

Gyda'r nos daethom yn ol i'r ddinas, a buom yn syllu ar y medelwyr yn dod adre o'r caeau. Cawsom le cysurus yn yr Hotel de Morbihan,-gŵr ieuanc brith wallt oedd y gŵr a biau'r nenbren, Llydawr caredig. Yr oedd yno rai Ffrancod anfoddog yn aros, ac yn gwawdio'r morwynion Llydewig,-gollyngodd Ifor Bowen ei dafod droeon ar y rhai hyn.

Bore haf tawel eto. Wrth i ni fyned allan trwy'r porth, gwelsom flodau cochion yn crogi oddiar yr hen furiau uchel maluriedig; a'r medelwyr, yn ferched ac yn ddynion, a'u crymanau a'u ffustiau ar eu hysgwyddau, yn disgwyl am i rai ddod i'w cyflogi am y dydd. Yr oedd eu gwisgoedd Llydewig, yn enwedig gwisg un hen ŵr hirwallt, yn brydferth iawn. Yr oedd pobl yn dylifo i'r dre, — rhai yn cario dysglau llawn o laeth, rhai'n cario caws fel cerrig melinau, merched yn cario torthau cyhyd a maen hir ar eu pennau. Yr oedd lle iawn wrth y porth i weled gwisg y Llydawiaid elent i mewn i'r farchnad, — yr het felfed gron a'i chynffon hir, y clos pen glin llac, y wasgod addurnedig, y got lâs a gwaith aur arni, yr esgidiau coed fel gên uchaf crocodeil. Nid oedd gennym ond diwrnod i fyned ar hyd gororau Llydaw o Vannes i St. Malo, y lle y cychwynasom ohono. Ac felly, yn y tren y buom y rhan fwyaf o ddydd hir-ddydd haf. Yr oeddym erbyn hyn a'n hwynebau tuag adref, ac yr oedd Ifor Bowen yn bloeddio canu, pryd bynnag y byddai'n effro, -

"Y mynydd, y mynydd i mi,"

neu

"Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionnydd.”

Bryniau; meysydd oddiamgylch amaethdai bychain; genethod yn gwylio gwartheg a geifr; gwlad garegog eto, tywarchen deneu ar y cerrig, fel croen wedi ei dynnu'n dyn dros benglog; Questenberg, a ffordd dros y gwastadedd tua Phlwy Ermel ; geneth a throell, a gwastadedd eang distaw y tu ol iddi; Malansac, a gwynt ystorm yn ei choed; St. Jacut, gwastadedd, a bryniau'n ymylon pell iddo, a melinau gwynt arnynt; coed a thai uchel fel hesg ar y gwastadedd digysgod unig; cors eang ; Rennes fawr boblog ; daear frasach, gwlad gyfoethocach; tatws, gwenith, grawnwin, coed, dyna welwn trwy ffenestr y tren cyn hepian a chysgu ar y dydd hir, a chlywed gwaeddi Dôl, a deall ein bod o'r diwedd wedi cyrraedd Dôl yn Llydaw.

Cawsom aros teirawr yn Nôl. Aethom trwy'r stryd hir a'r farchnad foch i'r hen eglwys, a meddyliwn, wrth edrych ar ei mawredd syml, fod tri cyfnod wedi bod yn hanes meddwl Cymru,

1. Cyfnod ymhyfrydu mewn mawredd adeiladau, cyfnod adeiladu'r bwâu a'r ffenestri sydd eto yn deffro ein hedmygedd wrth weled hen furddynod fel Tintern.
2. Cyfnod ymhyfrydu ym mawredd a thlysni natur; y goedwig ydyw teml Dafydd ap Gwilym, a'r ehedydd ydyw ei gennad at Dduw.
3. Cyfnod ymhyfrydu mewn meddyliau,- gweled yr ysbrydol, ac anghofio'r allanol. Lle tlawd ydyw Dôl, er ei hened. Papur brith a

llyfrau gweddi welais yn siop y llyfrwerthwr. Y mae pob yn ail dŷ'n dafarn,-gwelais un ystafell fawr, a bwrdd derw wedi ei ysgwrio a'i loywi, a thân siriol yn goleuo'r tŷ a'r llestri gloywon; mewn tŷ tafarn arall gwelais werthu sebon mewn un gornel, a thrwsio esgidiau mewn un arall, a photio yn y lall; mewn trydedd, gwelais ddyn unfraich yn canu am ei damaid i ddwy ddynes ; gwelais ferched cadarn yn ymdyrru, a'u crymanau ar eu hysgwyddau, i botio osai a chwrw. Er hynny, pobl gryfion ac ysgafndroed ydyw trigolion dinas Samson Sant.

O Ddôl penderfynasom mai nid yn ol i St. Malo yr aem, ond i Ranville, er mwyn gweled cwr o Normandi cyn troi i'r môr ac adre. Ymysg ein cyd-deithwyr, — milwyr meddwon ac offeiriaid diog, — yr oedd boneddwr yn trafaelio yn ei slipas. Dywedai Ifor Bowen ar ei wir iddo weled pregethwr yn Sir Ddinbych unwaith yn codi tatws yn ei slipas. Daliais sylw ar seremoni gymer le pan fo un Ffrancwr yn cymeryd tân oddiar getyn un arall, a dyma hi, —

1. Nod.
2. Moes ymgrymiad.
3. Cymeryd tân.
4. Nod.
5. Ysgwyd llaw.
6. Moes ymgrymiad.

Ac wedi hynny byddant yn ddieithriaid fel o'r blaen.

Gyda'r nos, yr oeddym yn pasio Pontorson, ac yn croesi o Lydaw i Normandi. Wrth weled y coedwigoedd meddyliasom am William y Gorchfygwr, un fu'n ymladd cymaint ar y terfynau Llydewig cyn dod yn frenin Lloegr, yr heliwr cadarn oedd yn caru'r ceirw tal fel pe bai dad iddynt.' Yr oedd yn hwyr pan gyrhaeddasom yr Hotel Bonneau, y gwesty bach cysurus sydd wrth droed y bryn uchel y saif Avranches arno. Nos Sadwrn oedd, ac yma yr oeddym i dreulio ein Sul olaf ar y Cyfandir, wrth ben Llydaw a'r môr.