Tro yn Llydaw/Troi Adre
← Dinas ar Fryn | Tro yn Llydaw Corff y llyfr gan Owen Morgan Edwards Corff y llyfr |
Geirfa |
XX.
TROI ADRE.
BORE Sul dringasom y bryn serth i fyny i'r ddinas, trwy ddanadl, a bysedd cochion, a mieri, — a'r olygfa yn ymeangu o hyd. Gwelem ddyffryn y Seez,— mwd tywodlyd, llanerchi o welltglas gwyrdd, a'r afon yn ymddolennu hyd y gwastadedd; gwelem fryniau pell Llydaw, a thawelwch y Saboth yn gorffwys arnynt.
Cyrhaeddasom ben y bryn, a chawsom olygfa nad o fewn y byd ei hardderchocach. Odditanom gwelem Mont St. Michel ar graig sy'n ymgodi o'r tywod ym Mau Cancale, a gwelem Normandi goediog fel bwrdd odditanom, a'r ffyrdd yn rhedeg fel saeth hyd ei gwastadeddau. Draw gwelem Lydaw, fel y gwelir bryniau Cymru oddiar furiau Caer. Cofiasom mai duc Normanaidd Avranches, Huw Flaidd, oedd duc Caer hefyd; a bod ei lygad chwannog wedi bod yn edrych ar Gymru o Gaerlleon Gawr fel y bu yn edrych ar Lydaw oddiar y bryn uchel hwn.
Ond i'r eglwys yr oeddym yn cyrchu. Bu eglwys ar ben y bryn yr ydym yn sefyll arno, ond nid oes ond ychydig o gerrig nadd yn aros ohoni, y garreg y bu Harri'r Ail yn penlinio arni mewn edifeirwch yn eu mysg. Dacw'r bobl yn dylifo i'r eglwys newydd, fel cacwn geifr i'w nyth, ymhell cyn yr amser. Pan darawodd y cloc ddeg, daeth dyn mewn gwisg las ac ymyl wen gau'r drws. Gyda'r Normaniaid, ac nid gyda'r Llydawiaid, yr ydym yn addoli heddyw,— y mae eu llygaid yn las, nid oes neb yn cymeryd sylw ohonom, 'does neb yn dweyd “ Dowch i'n sệt ni,”– tebig i'r Saeson, ac nid i'r Cymry, ydyw'r rhain. Ar y wal o frics cochion sy'n dalcen i'r eglwys fawr yr oedd darlun o enedigaeth Crist, ac ar yr allor odditanodd gwelsom yr addoliad Pabyddol,— miloedd o ganhwyllau dime, offeiriaid laweroedd mewn dillad gwyn, yn hanner dawnsio'n ol ac ymlaen, ac esgob a'i gap fel dwy glust o chwith. Gwelsom yr arddodiad dwylaw a gorymdaith yr esgob, — ac ni welsom grefydd yn cael ei darostwng gymaint yn unlle erioed. Ni ddywedodd yr esgob air am iachawdwriaeth, ond cerddodd ymlaen trwy'r eglwys mewn dillad gorwych, a'i fugeilffon emog ar ei ysgwydd, a gemau'n disgleirio ar ei fysedd merchetaidd gan fowio a mwmian. Aeth yn ol i'r allor, a thra'r oedd y côr yn canu peth na ddeallai'r bobl, ymbinciai yntau yn ei sêt fel merch falch Hafod yr Aur. Meddyliais am ein hen weinidog gwledig, ac am ei wisg ef, nid sidan gorwych a gemau disglair, ond gwregys gwirionedd, dwyfronneg cyfiawnder, esgidiau paratoad efengyl tangnefedd, tarian y ffydd, helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw.
O'r eglwys aethom i'r gerddi, lle gwelsom bobl yn dawnsio dan lwyni ardderchog o goed, llwyni fel bwâu eglwys gadeiriol, a holl eangder y wlad i'w weled odditanynt. Gorfod i ni aros yn hir yma, oherwydd daeth yn wlaw mawr. Nid glaw gyrru ystormus fel glaw Cymru, ond cawod o wlithlaw yn disgyn fel gorchudd dros y wlad fawr. Buom yno'n disgwyl iddo beidio am oriau, — un siwt oedd gennym. Weithiau gwelem Font St. Michel yn llwyd drwy glog lâs y glaw, dro arall ymgollai drachefn mewn cawod newydd. O'r diwedd, cawsom hanner awr o sychin i redeg i lawr i'r Hotel Bonneau, lle buom yn darllen papurau cymundeb y plant ac yn eu hannog i ddarllen y Beibl.
Bore dydd Llun, teithiasom tua Granville trwy Folligny, lle y mae gorsaf mor fawr fel y tybiem ei bod yn ddiwrnod sasiwn trenau. Cawsom gwch Ffrengig i Jersey, a buom yn mwynhau'r olygfa o weled dandi Ffrengig dan saldra'r môr, gyda'i ddillad goleu, ei drowsus tyn, ei gansen felen, ei gyff a botymau fel lleuad, ei rosyn o faint ambarelo, ei gadach poced enfawr, ei het wellt ddarluniedig, ei fwstas troellog, ei gol haidd o wallt.
Cawsom brynhawn a noswaith hapus yn Jersey, yr oedd y lleuad lawn uwchben ei thraeth o dywod melyn a chreigiau duon. Yr oedd llong newydd y Great Western yn mynd adre i Weymouth drannoeth, a chawsom le ynddi. Yn cyd-deithio â ni yr oedd ugeiniau o brentisiaid siopwyr o Saeson, a'u cariadau gyda hwy. Daeth yn ystorm erchyll cyn i ni gyrraedd Guernsey, ac yr oedd y prentisiaid bach yn sal i gyd. Ond gofalent am y genethod trwy'r cwbl, ac y mae gwir ddynoliaeth mewn unrhyw un gofia am rywun arall dan saldra'r môr.
Cyrhaeddasom Frystyw erbyn nos Fawrth. Teimlem fod Lloegr yn wahanol iawn i Lydaw, — golwg oerach ar y wlad, pobl dawel ddistaw, awyr ysgafnach, golwg gweithio ar bob dyn, ac nid golwg diogi. Cerddasom dros bont Clifton, gwelem lun y lleuad danom yn y dyfnder, a dywedodd Ifor Bowen na welodd ar y Cyfandir yn unlle gystal golygfa a hon.
Bore dydd Mercher, yr oedd y tren yn ysgubo drwy dynel yr Hafren, — y mae trenau'r Cyfandir mor araf a chladdedigaeth o'u cymharu â hwn. Yr oedd yr ŷd newydd ei gynhaeafa oddiar feysydd Gwent, yr oedd haul y bore ar Gasnewydd, teimlem ein bod yn Llydaw'n ol pan welsom wynebau Cymreig Pontypŵl, — na, y mae mwy o feddwl yn y rhai'n. Gwelsom ddwfr rhedegog, "a diolch am drugareddau gloywon," fel y clywais Ifor Bowen unwaith yn gofyn bendith uwch ben te Sian Grintach.
Wrth ysgwyd dwylaw, diolchai Ifor Bowen a minnau am ddemocratiaeth Cymru, am Brotestaniaeth Cymru, am wladgarwch Cymru. Y mae gwaseidd-dra, offeiriadaeth, anwybodaeth, a meddwdod ein cefndryd Llydewig yn prysur ddiflannu, trwy rym efengyl Duw, o'n gwlad anwyl ni.