Trwy India'r Gorllewin/Ar y Môr
← Gadael Cartref | Trwy India'r Gorllewin gan David Cunllo Davies |
Barbados → |
II. AR Y MOR
"Dy anthem yw y storom,
A'r tonnau hyf dy gôr.
A dull ni feddi di.
—ISLWYN.
HYD yn hyn ni chawsom un ysgydwad. Ond a Chastell Hurst ar un llaw a'r Nodwyddau—rhes o greigiau tal, miniog,—ar y llaw arall, a thonnau y sianel yn rhuthro i'n cyfarfod codai a gostyngai yr Atrato, ac ymgripiai rhyw deimlad dieithr o wadn y droed i fyny. Ceisiem gerdded a methem; a chymerodd prif beiriannydd y llestr—gŵr siriol caredig o'r Ysgotland, drugaredd arnom. "Rhaid i chwi wrth bar o goesau'r môr," ebe fe, ac yn ei fraich y bum am tuag awr yn ceisio eu hennill, gan gerdded o gwmpas y dec yn frysiog.
Ciliai Lloegr o'r golwg yn gyflym. Yr oeddem yn gadael pob cysgod o'n hol yn brysur. Chwareuai tonnau bychain o'n cwmpas, a chyffelybem hwynt i waith hen
ffermwr a adwaenem yn gosod ei ordd yn esmwyth ar y post i gael bod yn sicr o'i ergyd cyn taro â holl nerth ei fraich. Yn y man clywsom sain udgorn yn ein galw i giniaw; a chan i mi feddwl fod rhai eisoes yn gwybod oddiwrth ein cerddediad mai morwr amhrofiadol oeddwn, es i barotoi ar ei chyfer gyda phob gwroldeb, er nad oedd arnom eisiau dim. Eisteddasom, a gosodwyd danteithion hyfryd iawn ger ein bron, ond yr oeddem yn y gwely, ddegau o honom, cyn naw o'r gloch, yn sal iawn, yng nghrafangau clefyd y môr, yn cysgu ac yn effro bob yn ail. Tua chanol nos codais ar fy mhenelin ac edrychais trwy y ffenestr fach gron ar gyfer y gwely. Yr oedd golwg ffyrnig ar y dyfroedd, a'r lloer yn gosod rhyw lwybr o oleuni drostynt. Ymdroent ac ymsymudent fel meddwon, a'u holl ddoethineb a ballodd. Wedi i'r llestr droi ychydig ar ei hochr, daeth gwyneb y lloer i'r golwg, ac yno y buom ynghanol ein salwch yn ceisio ei hanerch. "Os meddi di dafod, ac os wyt ti yn, gweled Morgannwg yn awr, paid a dweyd wrth neb fy mod i fan yma mewn poen, a bod hiraeth arnaf am wely mwy esmwyth na hwn." Rhedodd cwmwl drosti fel i awgrymu nad oedd dydd i adrodd yr hyn a welodd ar dir a môr wedi gwawrio eto. Bore drannoeth 'doedd dim ond y môr mawr llydan yn y golwg; ac yr oedd ei donn yn frigwyn a'i wyneb yn grych. Ciliodd ein salwch, a gallem fwynhau yr eangder ag enaid iach heb gorff sal yn bwysau wrth ei godreu.
Codi wnaeth y gwynt am ddyddiau. Nos Sadwrn a'r Sabboth yr oedd yn chwythu storom enbyd, a rholiai y llong yn drwm o ochr i ochr. Rhedai ein heiddo ar draws y cabin fel pe buasai ysbryd y corwynt wedi eu meddiannu. Codai y môr yn fynyddoedd, a chreai ddyffrynoedd wedyn ynddo ei hun. Lluniai y gwyntoedd fryniau fel pe buasai rhyw bwerau anhywaeth, ynfyd, wedi eu gollwng yn rhydd ar y môr mawr; a chwelid hwynt yn llwch gan anadliad arall. Tua chanol dydd ymddisgleiriai yr haul, a gwisgai y donn enfys bychan yn addurn ar ei phen cyn disgyn yn ol i'w gwely.
Sabboth o ymborthi ar ryfeddodau y Crewr mawr ar lwybrau dieithr i mi oedd hwn. Yr oedd yr hin yn rhy arw i ni gael gwasanaeth crefyddol gyda'n gilydd. Cefais dipyn o gymdeithas y saint er hynny. Buom yn ymddiddan yn hir a pherson Eglwys Loegr am fywyd y morwr, a dywedodd wrthym nad oedd un Sabboth yn myned heibio nad oedd yn cofio yn ei weddi am y rhai oedd yn gwneyd eu gorchwyl yn y dyfroedd mawrion. Meddyliasom am yr estyll ar ffrynt orielau capelau min y môr yn fy ngwlad a'r apel dyner arnynt "Cofiwch y morwyr." Darllenasom glasuron yr Ysgrythyr ar y môr; a chanwyd pennill Pantycelyn,—
"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo fyth i'r lan";
ac eiddo David Williams, Llandilo Fach,
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,"
gyda chymaint o hwyl ag a allem godi.
Wrth chwilio llyfr emynau ein cyfundeb, ni chawsom bennawd cymwys i forwyr, a rhaid oedd troi i gyfrol Dyfed am emynnau i rai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr. Dyma hwy. Buont yn foddion gras ar y Sul cyntaf i mi ar For y
Werydd,—"Nid oes ddaear yn y golwg,
Ond mae'r nef o hyd yn glir;
A chysuron gras mor amlwg
Ar y môr ag ar y tir,
Nid oes yma
Ond y Nef yn dal yr un.
"Nid oes imi waredigaeth
Ond o honot Ti, fy Iôr;
Ynnot gwelaf iachawdwriaeth
Dyfnach, lletach, fyth na'r môr;
Gad i'm nofio
Anherfynol foroedd gras."
Bore Llun pasiwyd ynysoedd yr Azores; ac yr oedd llwybr y llong ar y tu deheuol iddynt. Yr oeddynt mor bell fel mai prin y gwelwyd copẩu eu mynyddoedd trwy y gwydrau. Ar y moroedd hyn ymladdwyd llawer o frwydrau gwaedlyd rhwng y Spaniaid a'r Saeson yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yma ar lestr ei elyn y bu farw Syr Richard Greville yn 1581, wedi ymladd yn wrol â nerthoedd dwy waith cryfach nag ef ei hun. Dyma lwybr Drake, Cavendish, Frobisher, a Raleigh—glowion y dyddiau gynt; gwroniaid yr erys eu henwau yn ymffrost cenedl nes y bydd y waewffon olaf wedi ei throi yn bladur, a'r nifer olaf o gleddyfau wedi eu troi yn sychau i aredig yr anialwch er ei droi yn ardd i'r Arglwydd.
Ar brydnawn Mawrth, Rhagfyr 15, a ni ddwy fil o filldiroedd o gyrraedd pen ein taith, teghaodd yr hin a llonyddodd y môr. Dydd Iau yr oedd yr hinsawdd fel Mehefin Cymru. Y bore hwn dychrynwyd ni tuag unarddeg o'r gloch. Chwibanodd yr hwter yn sydyn; a rhuthrai y morwyr a nifer o'r swyddogion at y badau; ond deallasom mai ymarfer yr oeddent ar gyfer perygl trwy dân neu ddrylliad. Gwyddai pob un y fan yr oedd i fod pe bai galwad am i ni adael y llong ar fyrr rybudd; ac nis gallasem lai na bod yn ddiolchgar am ddarpariaeth o'r fath. Eithr ar yr un pryd gobeithiem na fyddai y gwaith hwn yn myned ddim pellach nag ymarferiad byth ar y llong hon.
Gwelsom bysg hedegog y prydnawn hwn, a disgynnodd un o honynt ar y dec. O'n hol am oriau y dyddiau hyn dilynid ni gan haid anferth o for foch. Llament o donn i donn, ac ymddanghosent fel am gyrraedd yr hafan o'n blaen.
Yr oedd ein hail Sabboth ar y Werydd yn ddydd braf, a phenderfynasom ei dreulio ar ochr yr adgyfodiad i fedd Gwaredwr byd. Gadawsom ein gwely yn blygeiniol, yr oedd ynnom awydd am fod mewn agwedd adolgar ar yr adeg y byddai saint Cymru yn esgyn mynydd Duw. Er mwyn cydymgrymu a hwynt yn eu hodfa ddeg o'r gloch, rhaid oedd i ni fod yn effro am chwarter wedi chwech; oherwydd yr oedd ein cloc, gan ddilyn gyrfa yr haul, dair awr a thri chwarter ar ol amser ein gwlad ni y Sul hwnnw. Bore bendigedig oedd hwn. Gorweddai y môr lonydded a phalmant; adlewyrchai lun pob cwmwl gwyn, a chwareuai y pysgod o'n cwmpas. Am hanner awr wedi deg dyma'r gloch yn ein galw i'r gwasanaeth crefyddol. Cynhelid ef yn yr ystafell fwyaf ar yr Atrato. Ar ben y bwrdd safai y capten, ac o'i flaen y prif swyddogion.
Yr oedd pob un o honnt yn ei wisg briodol i'w swydd. Y tu ol safai nifer o'r morwyr cyffredin, a ninnau y teithwyr a eisteddem i gyfeiriad dwy ystlys y llestr. Canwyd i ddechreu yr emyn a gyfieithiwyd mor fendigedig gan Dafydd Jones o Gaio,—
"Mae gwlad o wynfyd pur heb haint,
Byth yno y teyrnasa'r saint."
Darllennodd y capten amryw Psalmau a gweddiau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin gyda llawer o eneiniad. Y pedwerydd Sul yn Adfent yn ol calendar yr eglwys oedd hwn, a swn dyfodiad yr Arglwydd oedd yn y geiriau. Hyder cryf a geisiem i gredu ein bod eisoes yn ei adnabod, fel pan ddelai ni fyddai dim yn ddieithr ynddo i ni. Wedi canu,-
"Holy Father, in Thy mercy
Hear our anxious prayer,
Keep our loved ones, now far absent,
"Neath Thy care,"
diweddodd y gwasanaeth, ac aeth pawb ati i dreulio y dydd fel y gwelai yn dda. Ar ganol y Werydd croesir caeau mawr o wymon, neu wyg y môr. Pan ddaeth Christopher Columbus a'i longau i'w cymydogaeth cododd gwrthryfel enbyd, gan y credai y morwyr fod yno greigiau cuddiedig. Ni welsant wymon erioed ond ar lan neu ar graig, a dyma yr unig fan ar y moroedd y ceir y llysiau hyn yn tyfu ar wyneb dyfroedd, a rhai milltiroedd o ddyfnder iddynt. Gorweddant yno yn y Sargossa Sea rhwng rhediadau dwfr yr Atlantic; a phleser mawr a gawsom wrth daflu bach i bysgota peth o hono. Y mae gan y morwr draddodiad prydferth iawn am y gwymon hyn. Oesoedd yn ol safai cyfandir ar y rhan yma o'r moroedd. Suddodd i lawr o dan ryw gynhyrfiad, ac erys y llysiau bach oedd yn tyfu ar ei lan i ddangos man ei fedd yn y dyfnder. Prydferth iawn! Arhosant fel i ddisgwyl am ei ddyfodiad yn ol eto.
Nid oes llythyrgludydd yn cyrraedd o unman ar y weilgi eang. Ar lan y môr, ac yn y ffynhonnau, yn ystod gwyliau yr haf, dyfodiad hwnnw a chyrhaeddiad y newyddiadur ydyw rhai o raniadau pwysicaf amser. Edrychir ymlaen at ganol dydd gyda dyddordeb dwfn ar bob llong. Cymerir y mesuriadau am ddeuddeg o'r gloch, a gosodir i fyny nifer y milldiroedd a redwyd yn ystod pedair awr ar hugain. Ar fap y fordaith, peth cyffrous oedd sylwi ar y seren fach a ddynodai y llong yn symud yn nes nes bob dydd i ben y daith.
Yr oedd y cwmni yn ddifyr. Tarawem ar rywun newydd o hyd. Cawsom oriau gyda'r peirianwyr ym mherfeddion y llestr; a cheisiasom fyned i mewn i gyfrinion y peiriannau. I ni o wlad y glo nid anyddorol clywed fod y liner hon yn llosgi triugain a deg o dunelli o lo bob dydd, a bod owns o lo yn gallu cario tunell am bellder o filltir ar y dŵr. Elai rhai allan i chwilio am orchids; ac wedi oriau o ymddiddan ar hoff flodau Mr. Chamberlain teimlem ein bod mewn byd newydd. Ar brydiau byddem yng nghanol dadl ar gaeth fasnach a gwareiddiad; a phrydiau ereill yn hela creaduriaid ysglyfaethus yng nghanolbarth Affrig. Rhaid oedd darllen pob llyfr a ddaethai i'n llaw ar y wlad yr oedd ein gwyneb arni, a hedai yr amser heibio fel chwedl. Yn ein mysg yr oedd nifer o Ddaniaid ar eu ffordd yng ngwasanaeth llywodraeth Denmark i ynys Santa Cruz. Wedi ymddiddan llawer â hwynt, digwyddasom ofyn iddynt ryw ddiwrnod eu barn am Lundain. Dywedasant am yr hyn a welsant. Buont o flaen y Senedd-dai, yn Westminster Abbey, ar bont Twr Llundain, ac yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. "Gwelsom," meddai un o honynt, "golofn Nelson yn Trafalgar Square, ac arni yr enw Copenhagen." Cofiais am Nelson yn gosod y gwydr wrth ei lygad dall ac yn tanio o'i lynges ar y dref honno yn Denmark; a chredwn fod y Daniaid gwladgarol yn teimlo rhyw gymaint wrth weled coffad am y frwydr ymysg dewrion actau Nelson ar y golofn.
Ond cofiais beth arall, ac ebwn wrthynt,-"Y mae y tro yna ymhell iawn yn ol; chwi roisoch frenhines i ni wedi hynny, ac y mae yn un o oreuon byd." Mewn tarawiad tynasant eu hetiau, ac yr oedd eu gwen siriol yn dangos fod i'r frenhines Alexandra le cynnes yn y wlad a'i magodd yn ogystal a'r wlad a fabwysiadodd.
Elai cryn lawer o chwareuon diniwed yn y blaen; a thrwy bob peth rhed yr amser heibio gyda chyflymder syn ar fwrdd llong.
Ar foreu Llun, Rhag. 21, tua chwech o'r gloch gwelsom oleuadau Barbados am y tro cyntaf; ac am ugain munud wedi chwech bwriwyd yr angor. Arhosodd y peiriannau; ac wele ni yn ngolwg tir ar ol taith o 3,690 o filltiroedd. Y mae rhywbeth yn urddasol mewn llong yn myned i mewn i hafan. Rhaid i'r capten ei hun fod ar y bont yr adeg honno, ac y mae pob swyddog yn ei le; a dieithr iawn yw y teimlad feddiana ddyn pan y mae y llong wedi aros. Cyrhaeddasom yn ddiogel, a phawb oedd yn cychwyn wedi cyrraedd yn fyw. O'n cwmpas yr oedd llu o fadau a badwyr, am yr uchaf yn cynnyg eu gwasanaeth i ni. Dynion duon oeddynt bob un, a rhwng eu hapeliadau atom bwytaent gorsen siwgr. Yma a thraw mewn math o fad eisteddai nifer o fechgyn melyn groen; a cheisient ein perswadio i daflu pres i'r môr. Cawsant lawer.
Neidient ar eu pennau, a deuent a'r darn arian i fyny rhwng eu dannedd. Dywedid wrthym fod y môr yn llawn o forgwn; ac er yn ddiau fod yno lawer un o honynt yn edrych o gwmpas am damaid blasus i frecwast, daeth pob bachgen a phob ceiniog a aeth i'r dyfnder yn ol i'r bad.
Golwg ddieithr oedd ar Barbados. Yn lle derw, mahogany a'r balmwydden. welem; ac yn lle caeau o yd melyn, caeau o gorsenau siwgr, o gacao a bananas, a welem yn rhedeg i lawr i ymyl y dŵr. Nid oedd mynydd uchel yn y golwg, ac nid llwydion fel creigiau Eryri oedd y creigiau, eithr gwyn fel eira oherwydd coral oeddent.
Yn y bau safai ugeiniau o longau wrth angor; ac yr oedd yr olygfa yn un brysur anarferol. Eithr rhaid tewi. Y mae bad yn ein disgwyl, a ffwrdd a ni yn llawn. diolchgarwch i'r nefoedd a'r ddaear am roddi i ni ddyddiau mor hapus, a chwmni mor ddiddan, ar ein taith gyntaf yn groes i'r Werydd.