Trwy India'r Gorllewin/Barbados

Oddi ar Wicidestun
Ar y Môr Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Ynysoedd y Gogledd

III. BARBADOS.

"O dan balmwydden, brodor tywyll-rudd
Gysgoda rhag pelydrau canol dydd,
Ag anian iddo'n hael o'i ffrwythau ir
A dyfant yma fel mewn Eden wir."
—SARNICOL.

DYMA ben ein llwybr bellach ar ein teithiau. Oddiyma y cychwynnwn ar dair siwrne—i Puerto Rico trwy ynysoedd y Gogledd; i La Guayra yn Venezuela trwy ynysoedd y De; ac i Jamaica trwy'r Mor Caribbean. Saif yr ynys fel angel gwarcheidiol wrth borth India'r Gorllewin. Hi ydyw yr agosaf atom, a hi ydyw yr unig ynys yn y wlad sydd wedi aros yn eiddo parhaus i ni o'r dydd y daeth o dan faner Prydain.

Y mae yr angorfa y tu allan i dref Bridgetown—tref o ran ymddangosiad wahanol i ddim a welsom erioed. I'r mwyafrif o'r tai yr oedd penty agored (verandah), ac yr oedd nen llawer o honynt yn wastad.

Ar ol gweled ein heiddo ar yr agerlong Esk, yr hon oedd i fod yn gartref i ni am y pythefnos nesaf, aethom i dir. Ar y cei lle glaniasom yr oedd torf o negroaid a golwg hapus, hunanfoddus neillduol arnynt; ac yn gorchymyn iddynt i wneyd ffordd i ni yr oedd dau heddgeidwaid croenddu. Aethom i fyny drwy heol gul nes cyrraedd Trafalgar Square, ac yno y gwelsom golofn goffa yr Arglwydd Nelson. Nid oedd dim i awgrymu mai yn Llundain mewn lle o'r un enw yr oeddem; oherwydd dynion duon troednoeth oedd yn myned heibio, a phasiodd llwyth cert o gorsenau siwgr ni pan oeddym yn darllen argraff y golofn.

Y mae yr ynys yn un boblog iawn. Ei hyd yw un filltir ar hugain, a'i lled yn bedair milltir ar ddeg. Y mae ei phoblogaeth tua 200,000 o'r rhai y mae 15,000 yn wyn eu croen; 50,000 yn wineuddu neu liw copr; 135,000 yn negroaid duon. Hanna yr hanner can mil o'r Carib-Indiaid y wlad a'r Indiaid a werthwyd i'r ynys fel caethion; ac y mae eu gwynebau yn harddach nag eiddo y negro. Sylwasom fod y gwragedd a'r merched yn hoff iawn o gario pethau ar eu pennau, a cherddent mor syth a'r saeth. Yn wir, gwelsom ddynes yn cario potel fechan ar ei phen ac yn siarad fel llifeiriant ar yr un pryd; ond cawn ddychwelyd at y negro eto.

Ar yr ynys hon teimlem fod pob modfedd yn hanesyddol; dyma un o'r mannau y dangosodd y Spaniaid greulondeb dychrynllyd wrth ddifodi yr Indiaid yn yr unfed ganrif ar bymtheg; yma y tywalltwyd gwaed lawer yn yr ail ganrif ar bymtheg, a'r ynys hon fu yn gychwynfa i lawer gornest waedlyd rhwng y Ffrancwr a'r Sais. Danfonodd Iarll Marlborough, wedi iddo glywed pethau ffafriol am Barbados, ddwy long allan i gymeryd meddiant o'r ynys yn enw Iago y Cyntaf, brenin Lloegr; a chyrhaeddodd un o honynt o dan gadbenaeth Henry Powell yn 1626. Nid oedd trigolion arni; a chan nad oedd brennau na llysiau yn dwyn ffrwyth yn tyfu yno lledodd Powell ei hwyliau a mordwyodd i Essequibo, lle y cafodd hadau a choed, a pherswadiodd 40 o Arrawackiaid i ddychwelyd gydag ef i Barbados i ddysgu y newydd-ddyfodiaid sut i dyfu defnyddiau bwyd. Addawyd iddynt y cawsent ddychwelyd mewn dwy flynedd, ac y cawsent werth hanner can punt o fwyeill, ceibiau, drychau, a gleiniau. Ond ni chawsant ddim yn ol yr amod. Cadwyd hwynt fel caethion.

Rhoddwyd yr ynys o dan warant freninol i Iarll Carlisle gan Iago'r Cyntaf, a chadarnhawyd hyn gan Siarl y Cyntaf. Bu llawer o wrthryfela yn canlyn hyn; a gwnaethpwyd y baradwys hon ar y môr yn fangre waedlyd.

Yn adeg y Rhyfel Cartrefol ymfudodd llawer o Saeson yno; ac yn adeg yr helynt gynyrchwyd gan Dduc Mynwy, alltudiwyd llawer i'r ynys, ac yma y buont weddill eu hoes, a'u bywyd heb fod yn llawer gwell nag eiddo y caethwas. Yma hefyd y danfonodd Cromwell lawer o Wyddelod a barent boen iddo.

Pan oedd Napoleon yn anterth ei rwysg yn nechreu y ganrif o'r blaen, aeth Comodôr Hood allan o Barbados ym Mehefin 1803 a llynges gref o dan ei arweiniad ymosododd ar y tiriogaethau Ffrengig ag Is-Ellmynaidd; ac enillodd St. Lucia, Tobago, Demerara, a Berbice. Danfonodd ymerawdwr Ffrainc ddwy lynges arall allan a dechreuasant ysgubo y moroedd; eithr gorchymynodd Lloegr Admiral Cochrane allan yn Ebrill 1805, a chyrhaeddodd Arglwydd Nelson hefyd, yn y Victory i Barbados ym Mehefin 1805. Yn y wlad hon y tarawyd ergydion cyntaf y rhyfel a orffennodd ym muddugoliaeth fawr Trafalgar yn Hydref yr un flwyddyn. Ar lwybr fel yna—llwybr y bu hanes yn cael ei nyddu arno gan oesoedd a fu y cawsom ein hunain; ac nis gallem ei deimlo yn ddim ond dyddorol.

Buom yn Bridgetown bedair gwaith. Bu ein arhosiad am ran o ddiwrnod ar ddechreu ein taith, am ysbaid gyffelyb ar ei diwedd, ac o'r Sadwrn i'r Llun ddwy waith. Arosem mewn pentref o'r enw Hastings, ac yno y daethum i gyfarfyddiad a'r pryf poenus hwnnw y mosquito, sydd a'i frath yn rhoddi briw mor flin. Nid wyf yn sicr i mi weled un o honynt yn fyw, eithr clywais ei swn ddegau o weithiau wrth droi yn anesmwyth ar fy ngwely. Gosodir rhwyd uwchben y lle fwriedir i ddyn gysgu er cadw y gelyn i ffwrdd, ond yr oedd yno o'r blaen neu aeth o dan y rhwyd yr un pryd a minnau. Yr arwydd o ymosodiad y mosquitoes yw swn, megis sain udgorn bychan. Clywais ef a tharewais yn y tywyllwch yn y cyfeiriad o ba un y daeth; ond hollol ofer fu yr amddiffyniad, oherwydd pan edrychais fy hunan mewn drych gyda gwawr y bore, gwelwn ol eu buddugoliaeth ar fy ngwynepryd clwyfedig.

Yr oedd y gwres yn fawr iawn hyd ostwng haul; ac yr oedd y gwlith yn drwm iawn gyda'r nos. Yr oedd mor drwm ar rai o'r ynysoedd fel yr oedd yn beryglus i ni fyned allan heb ofalu gosod mwy o'n cwmpas nag yn ystod y dydd.

Yma y gwelsom adar y si (humming birds), a elwir felly oherwydd y swn a wnant gyda'u hadenydd. Y maent o liwiau tlws odiaeth, a phan y disgynnent ar flodau heirdd y cloddiau i dynnu mêl, fel y gwna ein gwenynen ni, teimlem fod yno gystadleuaeth mewn prydferthwch rhwng creaduriaid yr Hwn a greodd bob dim er ei ogoniant.

Ni chlywsom ddim byd mwy swynol na swn brogaod a chwilod ddeuent allan gyda'r tywyllwch. Yr oedd yn debyg i swn clychau gyrr o ddefaid ar y cyfandir; ac er y gwres, ac er cael ein poeni gan y pryf, yr oedd y fath esmwythyd yng ngherddoriaeth y chwilod a'r ymlusgiaid fel nad hawdd peidio cysgu. Toddai

nodau y ddau i'w gilydd; a chynganeddai ysbryd dyn a'i amgylchoedd nes y gallai roddi hun i'w amrant.

Elem o'r dref i'n llety mewn tram dau geffyl gydag ymyl y môr. Ar ein haswy yr oedd catrotty y llywodraeth Brydeinig, ac yno yr oedd gwyr duon a gwynion yn dwyn arfau. Ar ganol y dref hefyd, saif y Senedd-dy, y llythyrdy, a swyddfeydd ereill y Llywodraeth.

Y mae deddfwriaeth y wlad yn gynhwysedig o Lywiadwr, cadarnhad yr hwn sydd angenrheidiol i bob mesur a phenderfyniad; y Cynhulldy, cynwysedig o bedwar aelod ar hugain, y rhai a etholir gan y bobl; a'r Cynghor Llywodraethol o naw aelod, a etholir gan y Goron. Derbynia crefydd symiau mawrion o'r drysorfa wladol. Telir cyflogau yr esgob ac offeiriaid yr Eglwys Loegr, a sicrheir tai iddynt. Derbynia y Wesleyaid £700 yn flynyddol o'r un ffynhonnell. Ca y Morafiaid £400, a'r Pabyddion £50.

Ni thyf y ddaear ddim cystal a chorsenau siwgr. Y mae 35,000 o aceri o ddaear dan y cnwd hwn; ac anfonir allan o'r ynys fechan hon i'w werthu 46,145 o dunelli o siwgr, ynghyda thros dair miliwn o alwyni o driagl, ar gyfartaledd yn flynyddol. Yn yr hen ddyddiau, pan oedd y gwledydd hyn yn llwyddiannus ddiarhebol ac yn dra chyfoethog, siwgr oedd sylfaen eu bodolaeth; eithr pan. ddechreuodd gwledydd Ewrop ag estyn rhoddion i'r rhai a wnaent siwgr o fetys (beet) aeth y corsenau yn is eu gwerth yn y farchnad, a chymylwyd llwyddiant yr ynysoedd. Yn 1898 rhoddodd y Llywodraeth Brydeinig fod i Swyddogaeth Amaethyddol ar gyfer India'r Gorllewin. Cymro twymgalon, genedigol o gymydogaeth Abertawe, sef Syr Daniel Morris, K.C.M.G., D.Sc., yw y Dirprwywr Ymerhodrol ynglyn âg amaethyddiaeth y wlad. Triga yn Barbados, ac o dan ei arolygiaeth gwneir arbrofion yn nhyfiant gwahanol gnydau a ffrwythau trwy yr ynysoedd. Ac y mae gobeithion y dyfodol trwy yr holl wlad yn canolbwyntio i raddau pell ar ymdrechion y swyddogaeth ar ba un y mae efe yn ben.

Treuliasom rai oriau difyr gyda Syr Daniel. Siaradai Gymraeg yn llithrig; a choffaodd gyda theimlad am ei hen athraw yn yr Ysgol Sul. Rhedai y ffordd at ei blas drwy ganol coedwig o fahogany. O gwmpas y lawnt yr oedd blodau hardded a'r enfys; a rhwng dail y coed gwelem adar o bob lliw. Aeth a ni i ystafell y storm. Pan ruthra y corwynt ar yr ynys yn Awst a Medi, pan blyg y coed fel brwyn o flaen ei ymosodiad, a phan nad oes dŷ yn ddiberygl, aiff y teulu i'r ystafell hon a'i nen gadarn a'i mur trwchus, ac yno y maent yn berffaith ddiogel. Cawsom gwpanaid o de gydag ef—te a dyfodd ef ei hun, ac ar ganol ein mwynhad o hono chwalodd ddarn o fara brith ar gledr ei law, a chwibanodd. Er ein syndod dyma ddegau o geneu-goegiaid (lizards) yn rhedeg ato o'r llwyni o gwmpas, ac yn cymeryd bwyd o'i law. Teimlem awydd i wneyd yr hyn a welsom ambell ddynes yn wneyd pan welai lygoden—sef neidio i ben y gadair. Yr oeddynt yn ddiniwed hollol, meddai Syr Daniel Morris; eithr teimlem fod eu lle yn well na'u cwmni, oherwydd onid oes hen elyniaeth rhwng teulu y sarff a'n teulu ni?