Trwy India'r Gorllewin/Golwg yn ol

Oddi ar Wicidestun
Troi Adref Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

X. GOLWG YN OL.

"Gwn am haul nad yw yn machlud
Dros fynyddau'r co'."
—DYFED.

WRTH edrych dros ysgwyddau y blynyddoedd, a thros filoedd o filltiroedd o fôr, o'r cornel gartref, ymddengys golygfeydd a fu yn ein swyno, a phersonau fu yn ein dyddori, yn bur wahanol. Gwna pellter amser a lle i ambell fynydd fyned yn llai, ac a ambell un yn fwy.

Diflanna rhai amgylchiadau. Suddant, fel y llynnau a greir gan wlawogydd ar wyneb y ddaear, i lawr i rywle; eithr erys rhai pethau yn fyw o hyd. Try y meddwl atynt yn fynych mynych, ac ymbortha arnynt.

Gwel dyn â'i galon, a fe wel calon yn ddyfnach ac yn eglurach na llygad. Ymafael hi yn dynn yn ei gwrthrych; ac am hynny y mae parhad a phwyslais ym mhethau calon.

Dywed un o'r beirdd Seisnig fod dyn yn rhan o'r oll a gyfarfyddodd. ydym ni yn myned drwy amgylchiadau:

y mae amgylchiadau yn myned trwom ninnau, ac y mae eu dylanwad yn aros. Ni cherddodd yr un o honynt dros deimlad nac ysbryd heb adael ol ei droed i aros. Erys dyddiau digwmwl pen y mynyddoedd y dyddiau y buom yn cydchwerthin a'r awelon; a'r niwloedd obry yn y glyn. Erys dyddiau y dyffrynnoedd hefyd-dyddiau a gwyneb eu haul dan orchudd. Erys gair caredig a gwên cyfaill; ac erys siomedigaethau. Aiff gwyrddlesni gwanwyn a llwydni gaeaf i mewn i ysbryd dyn, ac erys sawr blodau ac oerni y llwydrew mewn bywyd; ac yma yn y cornel teimlwn wrth edrych yn ol fod y daith yn aros-a rhai darnau o honi yn pwyso yn drymach na'u gilydd ar feddwl a chalon, a rhai darnau yn ymddangos yn dra gwahanol i'r hyn oeddynt.

Yr hyn a welsom â'n llygaid ac a glywodd ein clustiau, a geisiasom gyfleu i'r darllennydd. Ni honnaf fod yn awdurdod ar ddim. Yr unig amcan gennyf yw ceisio trosglwyddo cyfran fechan o'r mwynhad a'r diwylliant ysbryd a gawsom ar ein siwrne a thrwyddi.

Ni fuom yn y Bahamas, yn British Guiana, na Honduras-gwledydd o dan faner Prydain. Y maent hwy yn cael eu hystyried yn rhan o India'r Gorllewin; eithr nid oedd yr un o'r lleoedd yma ar ein rhaglen, ac ni fu ein traed ar eu daear. Ni fuom yn Cuba na Haiti. Y maent hwythau hefyd o fewn terfynau y wlad. Gwlad fynyddig yw Cuba. mae Pico del Tarquino-mynydd yn nwyreinbarth yr ynys, yn 8,300 o droedfeddi o uchder. Ysguba gwyntoedd ystormus iawn dros Cuba fel ei chymydoges Jamaica, yn bur aml; ac y mae daeargrynfâu yn gyffredin. Bu y dwymyn felen yn haint peryglus a ysgubai filoedd o'r trigolion i dragwyddoldeb bob blwyddyn; eithr yn ystod y saith mlynedd ddiweddaf y mae atalfa ar ei galanas.

Daeth yr Yspaniaid i gartrefu i'r ynys hon yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Disgynnai môr ladron ar ei glannau yn aml aml yn ystod y can mlynedd nesaf. Tylwyth rhyfedd iawn oedd y rhai hyn; ac ymysg y mwyaf adnabyddus o honynt, fel cyfeiriwyd o'r blaen, yr oedd y Cymro Syr Henry Morgan. "Buccaneers" yw yr enw roddir arnynt mewn hanes; ac enw ar yr Ewropeaid oedd yn byw ar hela gwartheg corniog gwylltion Haiti oedd hwnnw i ddechreu. O dipyn i dipyn daeth yn enw ar helwyr cyfoeth yn y wlad honno, a rhai a sicrhaent gyfoeth â min y cleddyf a thrwy drais a chyfrwysdra. Ni edrychid ar eu gwaith yn nydd eu rhwysg fel peth isel wael; a bu eu hymdrafodaeth greulawn yn gryd i fagu rhai a folir mewn hanes am eu dewrder. Cyfoeth a gallu Spaen oedd eu hysglyfaeth pennaf; a disgynent yn gwmnioedd fel eryrod ar ddinas a thref ar ynysoedd y moroedd hyn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yspeilient, lladdent, a llosgent; a dygent yn aml fawr elw i'w gwlad trwy eu hysglyfaeth.

Yr oedd yr Yspaen, neu o leiaf, teyrnas Castile, yn hawlio perchenogaeth o'r oll o'r America oherwydd mai ar draul y deyrnas honno y bu i Golumbus ymgymeryd â'i fordaith gyntaf o ddarganfyddiad. Yr unig eithriad i hyn oedd fod Brazil yn perthyn i'r Portugeaid. Cadarnhaodd y Pab Alexander VI. hynny drwy weithred, Selwarant y Rhodd (Bull of Donation); ac y mae gennym ryw syniad am sicrwydd eu hawl yn eu hetifeddiaeth pan gofiom fod gwledydd Ewrop oedd yn ffinio a'r môr dan awdurdod ysbrydol y Babaeth ar y pryd. Yr oedd Yspaen yn gwylio ei meddiant yn eiddigeddus iawn. Yn ystod bywyd y frenhines Isabel, nid hawdd hyd yn oed i Yspaniad y tu allan i deyrnas Castile oedd cael lle ar long fyddai yn hwylio i'r Gorllewin.

Deffrodd cywreinrwydd y Cyfandir ar ddarganfyddiad America. Danfon- odd y Ffrancod a'r Saeson longau yno i edrych hynt pethau, ac i fasnachu. Dywed Burney (1816) fod yr Yspaniaid, os yn abl i drechu y llongau hyn, yn cym- eryd y morwyr yn garcharorion. Ymyr- wyr oeddynt yn eu syniad hwy; ac nid hir y bu'r Sais a'r Ffrancwr cyn talu'r pwyth. Masnachent à thrigolion y wlad, a dywedai y gwledydd wrth yr Yspaen nad oedd yr ymyrwyr yn gweithredu fel deiliaid unrhyw dywysog, eithr ar eu hawdurdod eu hun. Dyma'r amgylchiadau dan y rhai yr agorwyd y bennod ryfedd hon yn hanes môr a glannau India'r Gorllewin. Ar ol y rhyfel rhwng Spaen a'r Unol Daleithiau, gweriniaeth yw ffurf lywodraeth Cuba. Y mae yno lywydd, is-lywydd, Senedd, a Thy Cynrychiolwyr: Havana yw y brif ddinas, ac fel yr awgryma yr enw y mae yno hafan ddymunol. Dinasoedd ereill ydyw Matanzas, Santiago, a Cienfuegos. Ni cheir harbwr o bwys ar yr ochr ddwyreiniol i'r ynysoedd, gan fod y trafnid-wyntoedd yn gyrru y graean i'r lan lle bynnag y chwythant, ac nid hir y bydd unrhyw agoriad i'r môr heb ei gau yng ngwyneb y gwyntoedd hyn.

Enwau eraill ar Haiti yw Santo Domingo ac Hispaniola. Y mae ar yr ynys fynydd, Loma Tina, sydd yn esgyn 10,000 o droedfeddi yn uwch na'r môr. Sefydlwyd trefedigaeth Ffrengig ar yr ynys yn 1640. Negroaid yw mwyafrif mawr y trigolion ar ochr orllewinol yr ynys.

Cawsant eu rhyddid o gaethiwed yn 1794; eithr yn nechreu y ganrif o'r blaen gwnaeth Napoleon Bonaparte ymgais i'w hail gaethiwo. Achosodd hyn wrthryfel tost. Taflwyd iau y Ffrancod i ffwrdd, a sefydlwyd gweriniaeth negroaidd yn 1804. Y mae yno gyngor cenhedlaethol; a deil y llywydd ei swydd am saith mlynedd.

Yn ochr ddwyreiniol yr ynys y mae gweriniaeth arall-gweriniaeth o ddynion melyngroen (Mulatto). Yr oedd y bobl hyn o dan lywodraeth yr Yspaen hyd 1844.

Gelwir gweriniaeth y negro yn Haiti, ac eiddo y llall yn Santo Domingo, neu weriniaeth Dominica.

Cododd llawer cwestiwn i'n meddwl nad oedd lef yn ateb iddo. A ni yn pasio ty ar gyffiniau dinas Kingston, Jamaica, gwelsom yr enw "Rhianfa." ar byst ei byrth. Pwy oedd y Cymro a fu yn byw o dan ei nenbren nis gwn. Bum yn yr un ystafell a dau fachgen-swyddogion yn y fyddin Brydeinig a adwaenwn yn nyddiau bachgendod, a hynny heb feddwl ac heb wybod dim am eu bodolaeth yn y lle. Bu rhai yn ein holi ar ol dod adref am ardaloedd yn India'r Gorllewin. Yr oedd rhai anwyl iddynt yn gorwedd yno; ac erys y wlad yn hoff iddynt ar gyfrif y llwch sydd wedi cysegru ei ddaear. Trwy garedigrwydd y llên-garwr adnabyddus, Mr. J. H. Davies, M.A., o Goleg y Brifysgol, yn Aberystwyth, gosodwyd yn fy llaw o lyfrgell y Cwrt Mawr, gyfrol dra dyddorol ar India'r Gorllewin,—

"The History of the Caribby Islands, viz., Barbados, St. Christophers, St. Vincents, Martinico, Dominico, Barbouthos, Monserrat, Mevis, Antego, &c., in all xxviii. In two books. The first containing the Natural; the second, the Moral history of those Islands. Illustrated with several pieces of sculpture, representing the most considerable rarities therein described with a Caribbian Vocabulary. Rendered into English by John Davies of Kidwelly. London, Printed by J. M., for Thomas Dring and John Starkey, and are to be sold at their shops at the George in Fleet-Street, near Cliffords-Inn, and at the Mitre, between Middle Temple Gate and Temple Bar. 1666."

Argreffir y gyfrol trwy ganiatad a thrwydded Mr. Secretary Morice, Whitehall; a rhoddwyd hyn ar Mehefin 2, 1665. Cyflwynir hi i Syr Edward Bysche. Cyfieithiad ydyw gwaith John Davies o gyfrol a ysgrifenwyd (beth bynnag am gyhoeddwyd) ym Mharis, ac ymddengys mai o'r Ffrancaeg y trodd yr hanes; cyhoeddwyd y gwreiddiol yn 1658. Nid amlygir fod gan John Davies yr un amcan mewn golwg ond rhoddi hanes dyddorol y wlad. a'i roddi yn gywir. Yr oedd efe yn un o gyfieithwyr mawr yr ail ganrif ar bymtheg; ac yn llechres yr Amgueddfa Brydeinig

ceir cyfrolau lawer yn dwyn ei enw. Credir mai yr un oedd efe a William De Briten yr awdwr. Yr oedd rhywrai yn rhagfarnllyd yn erbyn trigolion yr ynysoedd, gan dybio nad oedd y wlad ond noddfa i ddynion oedd yn fethiant o ran amgylchiadau a moesau. Dywed John Davies fod yno laweroedd o deuluoedd o barchusrwydd yn byw yn dda ac vn ofni Duw. Cydnabyddir un—y Tad Raymond, a fu yn byw yn Dominica, fel un a roddodd lawer o gynorthwy i sicrhau cywirdeb yr hanes, ac a drefnodd yr Eirlechres Garibbeaidd. Ymesgusoda y cyfieithydd dros roddi rhai enwau ar blanhigion, bwystfilod, adar, pysgod, &c., a ddichon fod yn anadnabyddus i rai oedd ar y pryd yn byw yn y wlad hon o hen breswylwyr yr ynysoedd, am fod mwyafrif preswylwyr Llundain y gallai efe ymgynghori â hwynt wedi symud i'r wlad o'r ddinas oherwydd toriad allan yr Haint Mawr. Dechreua gyda golwg gyffredinol ar bethau. Yn y bennod gyntaf cawn,—

"Nid yw y gwres yn fwy yn y parthau hyn nag ydyw yn Ffrainc yng Ngorffennaf ac Awst; a thrwy ofal neillduol Rhagluniaeth Ddwyfol cyfyd dwyreinwynt tyner sydd yn aml yn parhau hyd bedwar yn y prydnawn, a adlonna yr awyr ac a ddarostynga drymder y gwres. Nid yw byth yn oer yn y Caribbies; ac ni welwyd ià erioed yn y parthau hynny."

"All things are clad in a perpetual green,
And winter only in the snow of lilies seen."

Rhydd y llyfr cyntaf fanylion cyffredinol am yr oll o'r ynysoedd; a sylwn wrth ddarllen y sonnir yn fynych am fanteision crefyddol yr ynysoedd. Y Jesuitiaid a'r Carmeliaid, dwy sect Babyddol, sydd yn cael mwyaf o sylw. Ca amddiffynfeydd milwrol y gwahanol drefydd gryn le hefyd. Enwir y coedydd at wasanaeth seiri; a'r planhigion i ddibenion physigwrol.

Pan ddeuir i fyd cregyn y môr, cawn gryn lawer o'r barddonol. Y mae y gragen sydd yn dwyn perlau, meddai'r awdwr, wedi arfer codi i wyneb y dŵr ar godiad yr haul. Yna ymagora led y pen, a phan yn agor disgynna gwlith arni a thry hithau y gwlith yn berlyn. Y mae yn ein meddiant y gragen gerddorol. Yn groes iddi ceir rhywbeth tebyg i'r hen nodiant yn llinellau ac yn nodau. Wrth drin hon dywed yr awdwr a gyfieithir gan John Davies fod rhywun wedi cael cragen a cherddoriaeth ddigon perffaith i'w chanu. A yn ei flaen i ddweyd, os oes gan fydoedd y ffurfafen fel y dywedodd Pythagoras eu cynghanedd, melusder yr hwn nis gellir ei glywed ar y ddaear oherwydd y dadwrdd; os oes gan yr awyr gân o big yr adar hedant drwyddi; os ydyw dyn wedi dyfeisio math o gerddoriaeth sydd trwy y glust yn adgreu y galon; nid yw ond teg i'r môr sydd yn drafferthus gan donnau i gael cerddoriaeth a cherddorion i ddathlu clodydd ei Grewr penarglwyddiaethol.

Ni chofnoda hanes yr un llyfrithiad o eiddo un o fynyddoedd tanllyd y wlad; eithr sonia am y ddaeargryn; a cheir hanes ymweliad ofnadwy corwyntoedd a'r ynysoedd.

"Yr hyn sydd i'w ofni fwyaf ydyw cydfradwriaeth gyffredinol o'r holl wyntoedd sydd yn myned o gylch y cwmpawd mewn yspaid o bedair awr ar hugain, neu weithiau mewn llai. Dyma yr hyn a elwir yn rhuthrwynt (hurricane); a digwydda yn gyffredin ym misoedd Gorffennaf, Awst, a Medi. Ar adegau eraill nid oes eu hofn."

O flaen y storm desgrifia yr adar yn disgyn i'r gwastadeddau o'r mynyddoedd; a chyn y drychin daw dafnau o wlaw sydd mor hallt a dŵr y môr. Cymerodd hyn le yn 1599; ac wrth son am hyn cofia y cyfieithydd am storm ymwelodd a Lloegr yn adeg marwolaeth Oliver Cromwell ("the late usurper Oliver Crom- well"). Nid oedd ochr waethaf a thywyllaf y gaeth fasnach wedi taro awdwr y llyfr.

"O berthynas i'r caethion, a'r cyfryw ag sydd weision gwastadol, y rhai a wasanaethant yn gyffredin yn yr ynysoedd hyn, Affricaniaid ydynt yn wreiddiol, a dygir hwynt yno o'r wlad o gwmpas Cap Vert, teyrnas Angola, a phorthladdoedd eraill sydd ar draethau y rhannau hynny o'r byd; lle y gwerthir ac y prynir hwynt yn yr un dull a da corniog mewn lleoedd eraill. O'r rhai hyn, y mae rhai wedi eu darostwng dan yr angenrheidrwydd o werthu eu hunain, a myned i gaethiwed parhaus, hwynthwy a'u plant, er ysgoi newyn, oherwydd ym mlynyddoedd diffrwythdra, a ddigwyddant yn fynych, yn enwedig pan fydd ceiliogod y rhedyn, sydd fel cymylau yn gwasgar eu hunain dros yr holl wlad, wedi difa holl ffrwythau y ddaear, dygir hwynt i'r fath eithaf anfeddyginiaethol, fel yr ymddarostyngant i'r telerau mwyaf llymdost yn y byd, ar yr amod o gael eu cadw rhag newynu."

Cyfeiria at rieni yn gwerthu eu plant; ac am werthiant carcharorion gymerwyd mewn rhyfel gan fân dywysogion. Gwerthid hwynt i'r Portugiaid a chenhedloedd eraill am haearn (oedd mor werthfawr yn eu golwg ag aur), am win, a brandi, a gwirod, a dillad.

Wedi cyrraedd yr ynysoedd, ail werthid hwynt, a rhoddid am danynt bymtheg can pwys, neu un ar bymtheg, o fyglys, ac os syrthiai caethwas i law meistr tyner gwell fyddai ganddo ei gaethiwed na'r rhyddid blaenorol.

Dywed fod y negro yn agored i ddy- lanwadau; ac wedi derbyn Cristionogaeth nid ysgogir hwynt oddiwrthi.Y maent yn hoff iawn o gerddoriaeth. Os bydd gan ddyn ddeuddeg caethwas ystyrrir ef yn ddyn cyfoethog. Rhydd fanylion helaeth am eu harferion, ac y mae yn siarad yn garedig am y negro du. Dyddorol ydyw cyfeiriadau y gyfrol at iaith y Caribbiaid. Nid oes ganddynt eiriau am aeaf, ia, cenllysg, ac eira; ac nid oes air ganddynt am ddrygau a phechodau. Rhifant hyd at ugain-rhif bysedd eu dwylaw a'u traed, a phan eir dros ben hyn cyfeiriant at wallt eu pen, neu dywod y môr.

Credant yn anfarwoldeb yr enaid. Erys sefyllfa wych y gwrol mewn rhyfel, -ca gaethion i'w wasanaethu a hyfrydwch mawr. Ni chlywsom ni am lawer o bethau y sonnir am danynt yma; eithr y mae goleuni dwy ganrif a hanner wedi llewyrchu ar yr ynysoedd hyn oddiar cyfansoddiad y llyfr hynod hwn.

Wrth dramwy ar hyd yr ynysoedd, gwelem feddau yn ymyl llawer o dai. Claddent eu meirw flynyddoedd yn ol (ac nid yw yr arferiad wedi llwyr ddiflannu eto), yn ymyl y tyddyn. Rhaid fod y gred o undeb y teulu, er marw, wrth wraidd y drychfeddwl hwn mewn rhyw ffurf. Nid yw ein rhai anwyl yn gadael y teulu. Yr oedd yr eneth fach anfarwolodd Wordsworth, a ddadleuai mai saith oeddent hwy, yn hollol yn ei lle.

Ond er mor ddyddorol yw edrych yn ol, rhaid i mi derfynu. Er mynd ar aden dychymyg i India'r Gorllewin i ail anadlu yr awelon balmaidd, adgofir fi mai dychymyg ydyw mwyach, oherwydd bryniau Cymru welaf, ac y mae Cader Idris yn wyn dan glog o eira yng nghanol Ebrill.


CAERNARFON :

CYHOEDDEDIG GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG CYF

SWYDDFA "CYMRU."