Trwy India'r Gorllewin/Troi Adref

Oddi ar Wicidestun
Caethion Duon India Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Golwg yn ol

IX. TROI ADREF.

"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro,
A mynd o Gymru fach ymhell.
Er mwyn cael dod i Gymru'n ol,
A medru caru Cymru'n well."
EIFION WYN.

MORDWYASOM a'n gwynebau ar Loegr yn Kingston, Jamaica. Ar ein taith i lawr gyda ffordd haearn y llywodraeth gwelsom gannoedd o bobl yn y gorsafoedd yn gwerthu pob math o ffrwythau; a buasem wedi prynnu llwyth cert o honynt pe baem heb wybod na allem eu cario adref yn eu haddfedrwydd. Yr oedd mordaith o bum mil o filltiroedd yn rhy faith i'r orenau, y tangerine, a'r banana addfed.

Wedi gosod ein heiddo ar y llong aethom allan i fin y môr i gasglu cregin. Daethom a thua dwsin yn ol a gosodasom hwynt ar y ffenestr, a mawr oedd ein syndod bore drannoeth pan welsom nad oedd yno yr un. Yr oeddynt yn cerdded o gwmpas i'r ystafell yn sionc, neu yn fwy cywir yr oedd eu preswylwyr yn eu cario ar eu cefnau ar draws y 'stafell. Nid oeddym wedi dychmygu fod creadur yn byw ynddynt wrth eu gweled yn y môr, a chryn helynt gawsom gan arogl y cyrff wedi iddynt drengu.

Codwyd ager ar ganol dydd; ac yn swn y seindorf yn chwareu-"Should auld acquaintance be forgot," a banllefau a chwifiad cadachau a hetiau, troisom ein cefnau ar Jamaica a rhedwyd yn araf gydag ochr y ddinas sydd bellach yn adfail trwy ddifrod y ddaeargryn. Mewn ychydig oriau nid oedd ond copa tal y Mynyddoedd Gleision yn y golwg o'r ynys hon sydd fel perl ym Moroedd y Gorllewin.

Galwyd yn Trinidad a Barbados; ac ar ganol nos rhwng Sadwrn a Sul gwaeddai un o'r swyddogion-"All for the shore, hurry up," ac wele yr oeddem ar y Werydd agored pan wawriodd dydd yr Arglwydd.

Ein prif ddyddordeb ar y ffordd yn ol oedd edrych ar drysorau ein gilydd: a rhyfedd ac ofnadwy oedd casgliadau rhai o honom o gywrainbethau gwlad ein hymdaith. Gan un yr oedd ysgerbydau seirff ac ysgorpionau ac ymlusgiaid; gan arall wddfdlysau a braich dlysau wedi eu gwneyd o had y mimosa, &c.; a chan arall ddail a blodau prydferth.

Cawsom olwg ar Corvo a Flores, dwy o ynysoedd yr Azores, ar y ffordd yn ol. Bu y môr yn dawel; eithr teimlem yr hin yn oeri bob dydd. Gwawriodd arnom, ymhell cyn i'n llygaid syrthio ar dir Lloegr, mai gaeaf oedd hi eto yng Nghymru. Daeth tyrau Poldu i'r golwg yn y bore, y rhai hyn yng Nghernyw sydd yn ffurfio gorsaf y pellebyr diwifrau ar eithaf tir Prydain.

Yn y prydnawn pasiwyd goleudy Eddystone—ei neges ef ydyw rhoddi goleuni ac achub bywyd. Y mae goleu ar y graig hon oddiar 1700; ac ysgubwyd y ty cyntaf i ffwrdd gan ystorm yn 1703, ac un peth sydd ynglyn a'r dinystr hwn oedd fod y cynllunydd Winstanley yn marw ynddo. Aeth yn ysglyfaeth i'r elfennau dig ei hunan gyda'r goleudy a gynlluniodd. Wedi agor ein heiddo yn Plymouth ger bron yr awdurdodau, dyma ni yn y tren ar y ffordd adref, a'r hyn oedd uchaf yn ein calon oedd teimlad o ddiolchgarwch, am drugareddau a welodd ein llygaid, ac am drugareddau fuont yn rhan i ni, na welsom o honynt.

X. GOLWG YN OL.

"Gwn am haul nad yw yn machlud
Dros fynyddau'r co'."
—DYFED.

WRTH edrych dros ysgwyddau y blynyddoedd, a thros filoedd o filltiroedd o fôr, o'r cornel gartref, ymddengys golygfeydd a fu yn ein swyno, a phersonau fu yn ein dyddori, yn bur wahanol. Gwna pellter amser a lle i ambell fynydd fyned yn llai, ac a ambell un yn fwy.

Diflanna rhai amgylchiadau. Suddant, fel y llynnau a greir gan wlawogydd ar wyneb y ddaear, i lawr i rywle; eithr erys rhai pethau yn fyw o hyd. Try y meddwl atynt yn fynych mynych, ac ymbortha arnynt.

Gwel dyn â'i galon, a fe wel calon yn ddyfnach ac yn eglurach na llygad. Ymafael hi yn dynn yn ei gwrthrych; ac am hynny y mae parhad a phwyslais ym mhethau calon.

Dywed un o'r beirdd Seisnig fod dyn yn rhan o'r oll a gyfarfyddodd. ydym ni yn myned drwy amgylchiadau: