Trwy India'r Gorllewin/Jamaica

Oddi ar Wicidestun
Ynysoedd y De Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Caethion Duon India

VII. JAMAICA.

AR ganol dydd Llun dringasom ystlys yr agerlong Trent, a gyrhaeddodd y bore hwnnw o Southampton. Codwyd angor, ac yr oeddem ar y llwybr i Jamaica. Ar ol mordaith ddigon garw, cyrhaeddasom harbwr dinas Kingston yn blygeiniol dydd Gwener. Ni fu ein troed ar long odidocach na'r Trent; a theimlem yn ddedwydd iawn arni, ac ar ei ffordd yn ol o Colon bwriadem groesi adref ynddi. Wedi gadael cysgod tir a bwrw allan i'r môr agored tarawyd ni gan wynt cryf o'r gogledd. Golchai ton ar ol ton drosom; a pheryglus oedd myned allan ond ar ochr gysgodol i'r llestr—ar y leeward, chwedl y morwyr; eithr dydd Iau, wedi cyrraedd cysgod Haiti, tawelodd y môr a dychwelodd hwyliau da i ysbryd pawb.

Ar ein ffordd i harbwr Kingston, rhedai y Trent trwy gulfor, a'r tir ar un law, a chraig hir o goral ar y llaw arall. Pasiwyd Port Royal, prif orsaf filwrol Prydain Fawr ar yr ynys, ac ymddangosai tai y lle fel yn gydwastad a'r dŵr. Bu y dref hon yn gartref i heintiau marwol; ond nid oes ynddi bellach gynifer mewn poblogaeth, oherwydd fod cannoedd o'r milwyr yn byw mewn pebyll yn awyr iach mynyddoedd y wlad.

Daeth dau weinidog caredig, perthynol i'r Bedyddwyr, i'n croesawu i dir yn Kingston, sef y Parch. W. Pratt, M.A., a'r Prifathraw James, B.A., Llywydd Coleg Duwinyddol Calabar.

Y peth cyntaf a wnaethom wedi myned allan i'r ddinas oedd agor ein llygaid mewn syndod wrth ganfod y prysurdeb, yr adeiladau gwych, a'r trams trydanol.

Lletywyd ni wrth droed y Blue Mountains, cadwen o fynyddoedd uchel sydd yn ffurfio asgwrn cefn yr ynys. Esgynnant i uchder o 7,423 o droedfeddi uwchlaw y môr; ac ymddangosai eu pinaclau fel pe cyrhaeddent i gymanfa ser y ffurfafen. Enw ein llety oedd y Constant Spring Hotel, a gwanwyn parhaol oedd i'r fangre. Yr oedd orenau aeddfed ar gangen, ac ar yr un pren gwelsom flodau hefyd. Dyma baradwys o wlad. Yn y caeau o'n cwmpas tyfai afalau pinwydd, sinsir, a thybaco; a darparai y greadigaeth fud o'n cwmpas harddwch i'n llygaid ddisgyn arno nos a dydd. Chwareuai pryf y tân, gan neidio rhyw hanner cylch, ar ol iddi dywyllu; a gwnaent dduwch y nos yn brydferth. Ymddangosent fel pelenau bychain o dân, ond nid oeddent yn amgen na gwybed. Y mae yn y wlad hon hefyd berthynasau agos i bryf y tân. Gelwir hwynt yn bryf y llusern (lantern flies), a chariant ddwy fflam danbaid yn eu llygaid, y rhai sydd gyffelyb i ddau oleuad cerbyd. Clywsom ddywedyd am ddau Wyddel yn gorwedd ar wely yn hir ac yn methu cysgu am y poenid hwynt gan y mosquitoes; a phenderfynodd un o honynt, am na chawsai lonydd, fyned o dan y gwely, gan feddwl na ddeuai y poenwyr o hyd iddo yno. Aeth, ond erbyn cyrraedd yno yr oedd un o bryfed y llusern yno o'i flaen, a gwaeddodd ar ei frawd,—" Pat, Pat, y mae yn waeth yma. Y mae yma hen fachgen a lantern ganddo yn chwilio am ysglyfaeth."

Daliodd un o'r cwmni ysgorpion yn ymyl y llety hwn. Un fechan ydyw hi, ac nid oes llawer o gorff ganddi, ond croen ac esgyrn. Daliwyd hi, a gosodwyd hi mewn llestr, ac aethpwyd ati i'w lladd. Ceisiwyd ei boddi, a gwingai yn anhywaeth yn y dŵr; eithr yn y man trodd ei chynffon at ei chorff a brathodd ei hun a'r colyn sydd ganddi yn ei chynffon. Trengodd, a chroesodd ei hysgerbwd y Werydd yn yr un llong a ninnau, ac y mae bellach wedi ei dangos i lawer o gyfeillion.

Aethom i'r llythyrdy yn Jamaica yn fuan wedi cyrraedd yno, a gofynasom am stamp ceiniog. Mawr oedd ein syndod pan estynwyd i ni ddarlun bychan of raeadr fynyddig, ac yn argraffedig arni— "Llandovery Falls." Gwyddem am dref yr Hen Ficer yn dda. Yn ei hymyl y gwelsom oleu ddydd gyntaf; ond ni wyddem am yr olygfa hon ar un o'i hafonydd, a bu raid i ni holi y ferch ddu a estynodd y stamp beth olygai "Llandovery Falls." Dywedodd fod yno stâd ac afon yn dwyn yr enw ar yr ynys, a thebygem, yng ngwyneb absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mai gwr o sir Gaerfyrddin roddodd yr enw hwn ar y lle.[1]

Ym Medi 1903 ymwelodd storm o ruthrwynt ofnadwy ag un ochr o ynys Jamaica. Duodd yr awyr ar ol oriau o wres bron anioddefol, a disgynnodd y gwynt fel byddin ymosodol o elfennau digofus. Yr oedd ei ruthriadau yn arswydol; plygai y coed fel brwyn; lluchiai y tai o gwmpas fel teganau; dinystriwyd llawer o gapelau, ac yr oedd y meusydd siwgr a phlanhigfeydd bananau yn gydwastad a'r llawr. Yn ol troed y gwynt daeth cawodydd o wlaw trwm; ac ar lawer llechwedd gwelsom arwyddion o'r ymweliad rhyfedd—ymweliad a barodd ddychryn a cholled nas gellir ei hennill yn ol yn ystod blynyddoedd lawer.

Heddyw, ar ol tair blynedd, cyrhaedda newydd am ddaeargryn ddifrifol o ddinas Kingston. "Pedwar cant wedi eu lladd; wyth cant wedi eu niweidio; tân am filltir a chwarter: miloedd o negroaid yn meddwl fod diwedd y byd wedi dod; adeiladau heirdd yn adfeilion,"—dyna yw penawdau y newyddiaduron y dyddiau hyn, a gwelwn enw un ymysg y lladdedigion a fu yn garedig wrthym. Diau y bydd tlodi enbyd ymysg y rhai oeddynt dlawd eisoes, ond ni wneir apel at y fam-wlad heb agor o honi ei chalon mewn tosturi at ei phlant duon ar yr ynys hon ym moroedd y Gorllewin.

Ar y pumed dydd, er mwyn ysgoi y gwres, aethom i'r mynyddoedd; a syrthiodd ein coelbren ym Mandeville, tref fechan a saif yng nghanol plwyf Manchester, ddeg a deugain o filltiroedd o Kingston; ac yma y buom am bythefnos, o dan gronglwyd un o'r rhai caredicaf a gyfarfyddasom erioed. Ffermwr oedd gwr y ty. Tyfai goffi, orenau, lemonau, bananau, a chorsenau siwgr; ac yr oedd iddo was o'r enw Thomas. Pan elem yn ei gwmni ar draws y caeau, cerddai y gwas ymlaenaf, ac ar ol ein gilydd. cerddai y gwr oedd bia nenbren ein llety a ninnau. Rhaid oedd wrth y trefniant hwn, oherwydd yr ymlusgiaid fyddai ar y meusydd. Yn awr ac yn y man ymholai y meistr—" Any ticks, Tammas?" "No, massa," ebai hwnnw, ac ymlaen y teithiem fel cerbydres ac astell y signal yn cyhoeddi ffordd glir iddi; ond dylem ddweyd mai math o chwannen fawr a'i brath yn boenus oedd y tick. Heigient yn y glaswellt; ac os caent afael ar ein

Marchnad Montserrat

cnawd, gorchwyl pur anhawdd oedd ymadael a hwynt. Gyda'r nos, bwytaem giniaw, a gorffwysem mewn cysgod. Yr oedd y nos yn beryglus heb ofal, o herwydd trymder y gwlith. Nid oedd perygl oddiwrth y brodorion. Gallem gerdded yn ddibryder o un gongl i'r llall o'r ynys heb ofni niwed; eithr cadwai y gwlith ni o dan gysgod. Yno buom yn gwrando ar gân ambell negro a deithiai y ffordd gyfagos, a chlywem adsain cân y cysegr yn ei acenion dieithr. Disgleiríai y ser gyda phrydferthwch, ac yr oedd y lleuad fel pe buasai yn agosach atom yn y trofannau. Safai preswylwyr y ffurfafen allan o'r nefoedd; ac nid fel y gwnant mewn awyrgylch fwy niwlog— yn debyg i berlau wedi eu gosod yn y nos.

Yn Neheubarth America gwelsom ser dieithr i'r wlad hon. Buom ganol nos yn edrych ar y Groes Ddeheuol yn sefyll yn syth i fyny ymysg y ser; a buom yn meddwl fod drychfeddwl am Galfaria fryn yn meddwl y Crewr pan alwodd hon i fod; canys cafwyd llun Ei groes ar y nef yn y nos.

Ym Mandeville daethom i gyfarfyddiad a llawer cenedl. Y Chineaid oedd rhai o fasnachwyr y lle, a buom yn y llys gwladol yn gwrando helynt rhwng Chinead a negro. Rhaid oedd iddynt gymeryd eu llw fod eu tystiolaeth yn wirionedd, a gofynnai swyddog i'r gwr o China sut y cymerai ei lw-trwy lyfr, trwy ddysgl, neu trwy dân? Atebai yntau, gan nad oedd yn Gristion, mai trwy dân; ac ar hyn cyneuwyd matsen o'i flaen a chwythai yntau y fflam allan. Arwyddai hyn ei fod yn tynnu difodiad ysbryd arno ei hun os nad oedd yn rhoddi tystiolaeth gywir. Pe bai o gred arall, byddai yn dryllio dysgl dê neu soser, i arwyddo y byddai yntau yn cael ei ddryllio os na ddywedai wirionedd.

Ymysg ein cyd-letywyr yr oedd hen foneddwr o'r America. Oerfel yr Unol Daleithau a'i gyrrodd belled o'i gartref; a chydag ef yr oedd boneddiges ieuanc raddedig yn un o'r ysbytai. Gwahoddodd ni yn gynnes i ymweled âg ef pe bai Rhagluniaeth yn ein harwain i ogleddbarth yr Amerig rywbryd, a sicrhaodd ni y byddai i ni groesaw. Dywedodd hyn droion, ac ymddanghosai yn cael blas ar ei ddweyd. Tarawodd ni wrth weled fyrred oedd ei gam, nad oedd dyddiau hir iddo; ac yn ddiau yr oedd y peth yn taro ei gydymaith, canys estynnodd ddarn o bapur i ni ar ein hymadawiad ac arno y geiriau awgrymiadol hyn,—

"Ships that pass in the night and speak each other in passing;
Only a signal shown, and a distant voice in the darkness;
So on the ocean of life, we pass and speak one another;
Only a look and a voice, then darkness again and a silence."

Y mongoose ydyw y creadur gwyllt mwyaf dyddorol yn Jamaica. Daw, fel y llwynog neu'r wenci, yn agos i'r tai, ac y mae yn lleidr digywilydd. Nid yw yn frodor o India'r Gorllewin. Affricaniad ydyw, a daethpwyd ag ef yma i glirio y pla llygod a boenai amaethwyr y siwgr, ac a barent gymaint colled. Lladdodd y llygod i gyd mewn rhai blynyddoedd, ac yna rhoddodd ei sylw i'r nadroedd; y mae yn difa y rhai hynny yn brysur; ac mewn canlyniad y mae y pryfed sydd yn fwyd i'r seirff yn cynyddu yn gyflym.

"Gwnaethost hwynt oll mewn doethineb," meddai'r Salmydd, a hawdd credu hynny. Er mwyn cadw y bydoedd o ymlusgiaid hyn yn eu lle, ac i fantoli eu gilydd yn briodol, y mae y pryfed hyn bellach yn difa y mongoose, meddai sylwedydd craff wrthyf un diwrnod.

Prif gynnyrch y wlad ydyw ffrwythau, siwgr, coffi, rum, coed at liwiau, perlysiau o bob math, chwaethrawn (pimento), sinsir, a choedydd drudion. Codir llawer o fyglys, nutmeg, grawnwin, a thê yno hefyd. Nid yw y cyflogau yn uchel; eithr gall y negro fyw yn rhad iawn yn rhy rad iddo orfod gweithio yn galed. Y mae natur yn darparu mor doreithiog ar ei gyfer ar y goeden ac yn y ddaear, fel nad oes egni mawr i weled yn ei ysgogiadau un amser. Yn ei ardd-wedi iddo oglais y ddaear-chwedl yntau, tyf tatws melus, a yam, a chou-chou, ac Indian Corn, a chassava ar gyfer ei fara, ac y mae yntau ar ben ei ddigon yn eu canol.

Ynys baradwysaidd ydyw Jamaica, ac oni bai am wres ei haul a dieithrwch ei choedydd a'i ffrwythau, gallem gael awgrym yn nhroadau ei ffyrdd, cilfachau ei bryniau, a noethder ei chreigiau, o'n hanwyl wlad ni. Y mae ei hawelon yn falmaidd; llwythir ei chwaon gan arogl perlysiau. Swynir ni gan ei phalmwydd, ond er tlysed plu ei hadar nid yw eu cân fel eiddo'r fwyalchen a'r fronfraith; a gwell gennym gysgu heb wybod fod modrwyfilod hardded a pherlau drud o ran eu croen yn dringo muriau ein ystafell. Gwlad o fythol haf yw hi. Ni welodd ei mynyddoedd uchaf bluen o eira erioed; a diolchwn yn gynnes am gael gosod ein troed arni, ac am y cyfle i gael gweithio cymaint o'i hiechyd i'n pabell o bridd.




Nodiadau[golygu]

  1. Bu i Gymry sir Gaerfyrddin ran helaeth iawn yn hanes dyddorol ynys Jamaica. Gweler ysgrifau Mr. W. Llywelyn Williams yn y Cymmrodor ar Henry Morgan a theulu'r Gelli Aur