Trwy India'r Gorllewin/Ynysoedd y De

Oddi ar Wicidestun
Nadolig yn y Trofannau Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Jamaica

VI. YNYSOEDD Y DE

WEDI treulio yn agos i dri diwrnod ar y tir ar ynys Barbados, a dioddef cryn lawer dan glwyfau y mosquitoes, mordwyasom yn yr agerlong Eden—chwaer lestr i'r Esk; a chawsom ein hunain pan ymadawodd cwsg a ni bore drannoeth yn rhedeg gyda glannau St. Vincent ynys hirgul a rhes o fynyddoedd yn rhedeg trwy ei chanol. Yn y gadwen hon y mae Souffriere—mynydd tanllyd a lyfrithiodd yr un adeg a Mont Pelee. Ni fu y dinistr mewn bywydau yma ond yn gymharol ychydig; eithr tywalltwyd lava dros ran o'r tir brasaf ar yr ynys, ac y mae hwnnw yn awr yn anialdir digynnyrch.

Y mae ar gof a chadw hanes dwy gyflafan arswydlawn o waith Souffriere. Cymerodd un le yn 1718 a'r llall yn 1812.

Ar ei goryn yr oedd llyn o ddwr glasliw, ac yr oedd iddo ddyfnder mawr, a chraig wyth can troedfedd o uchder yn fur o'i gwmpas. Bu y mynydd yn rhybuddio y wlad am fisoedd yn 1811 o'i fwriad i greu galanas. Ar dir Venezuela teimlwyd daeargrynfaau yn ystod y flwyddyn honno a'r un flaenorol, ac yn Mawrth 1812 ysgydwyd dinas Caraccas yn ofnadwy. Lladdwyd deg mil fel canlyniad i'r ysgydwad; ac er fod ynys St. Vincent yn agos i bum cant o filltiroedd o Garaccas, prif ddinas Venezuela, yr oedd cysylltiad yn ddiau rhwng cynhyrfiadau tanddaearol y ddau le.

Adroddir gan Charles Kingsley am fachgen o negro oedd yn gwylio praidd ar lechwedd Souffriere ar Ebrill 12, 1812. Syrthiodd carreg yn ei ymyl, ac un arall; a meddyliodd y llanc mai rhyw fechgyn oedd yn taflu ato o'r creigiau yn uwch i fyny; a dechreuodd daflu yn ol. Eithr yn fuan clywodd swn fel rhuad taranau lawer; disgynnodd cawod o lwch, a duodd yr awyr. Y mynydd oedd yn bwrw cerrig ato, a ffodd am ei einioes.

Cyrhaeddodd y swn i Barbados, gan milltir i'r dwyrain. Yr oedd fel pe buasai dwy fyddin wedi cwrdd a'u gilydd. ar un o'r ynysoedd cyfagos, a chymaint oedd y dychryn fel y galwyd y milwyr oll at eu harfau. Safai gwyliedyddion ar y traethau, a disgwylient weled hwyl y Ffrancwr gelyniaethus neu'r Yspaniad yn dod yn fygythiol dros y gorwel. Ond distawodd y twrw. Noswyliodd pobl Barbados mewn syndod ar y nos Sadwrn honno, a disgwylient am ddehongliad gyda gwawr y Sabboth; a daeth y Sabboth, ond ni ddaeth gwawr. Tarawodd pob awrlais chwech y bore, ond ni welwyd haul ac ni ddaeth goleuni. Credai y bobl fod diwedd byd a therfyn amser wedi dod, a disgwylient am yr angel i ganu cnul yr oesoedd. Disgynnai cawodydd o lwch; a theyrnasodd tywyllwch hyd dros ganol dydd. Yr awr honno daeth y gwynt o'r mor, a gwelwyd gwyneb yr haul. Yr oedd Souffriere wedi hyrddio darn o hono ei hun yn olosg dân i'r nen; a llwythwyd yr awyr â thywyllwch. Tawelodd daeargrynfâu Deheudir America, oherwydd yr oedd yr elfennau dig a drigent yn mynwes yr hen ddaear wedi cael anadlfa yn St. Vincent.

Nid oedd digwyddiad y flwyddyn 1902 yn debyg i'r hyn gymerodd le ddeng mlynedd a phedwar ugain mlynedd cyn hynny. Cadwodd y gwynt y dryghin draw o'r trefydd; ond bu y golled i eiddo a bywyd yn un bwysig iawn; a gwelsom ddarn o'r difrod yn llymdra rhan o'r wlad.

Wrth edrych y bore hwnnw am Souffriere dan ei niwl, teimlem barchedigaeth ofnus. Nis gallem lai nag edrych nes iddo fyned o'n golwg i'w gyfeiriad, ac nis gallem lai na diolch fod Cymru fy ngwlad heb ymweliadau trychinebau fel hyn.

Yn y prydnawn cyrhaeddasom Grenada, ac ar ein ffordd i fyny at dre Sant George trwy harbwr naturiol, disgynnai ein llygaid ar goedwigoedd a pherllanoedd ffrwythau hyfryd iawn. Yma a thraw safai palmwydden y gneuen cocoa yn driugain i driugain a deg o droedfeddi o daldra fel gwyliedydd uwchben y prydferthwch i gyd."

Ynghanol coedwig wyrddlas gwelem adeilad go fawr, wynned a'r calch; a dywedwyd wrthym mai lazaretto, sef ysbyty i wahangleifion, ydoedd. Y mae y clefyd hwn yn un cyffredin yn India'r Gorllewin; a darparai trugaredd dy uwchben y dioddefwyr ar amryw o'r yn- ysoedd.

Ar ynys Grenada ceir llawer o'r Caribiaid. Hwy ydyw hen breswylwyr y

tiriogaethau hyn, a hawdd eu hadnabod,

fel y cyfeiriasom o'r blaen, wrth eu gwynepryd.

Drannoeth yr oeddem yn Tobago-ynys a ddarganfyddwyd gan Columbus ar ei ail fordaith. Yma y daeth o hyd i fyglys gyntaf, a hi roddodd yr enw ar y ddeilen. Yma y bu "Robinson Crusoe," cymeriad adnabyddus Daniel Defoe, yn trigiannu am flynyddoedd, ac y mae ei ogof yn un o olygfeydd cywrain yr ynys. O Trinidad, ynys gyfagos, y daeth y dyn Friday, yr hwn a fu yn gymaint swcwr i Crusoe yn ei alltudiaeth.

Cawsom brofiad a allasai brofi chwerw yn y lle hwn. Dringodd dau o honom fryn gyferbyn a'r môr, ac ar ei ochr daethom o hyd i goed yn dwyn ffrwyth dieithr, teg yr olwg arno. Plygai y canghennau dano, ac yr oedd fel pe buasai yn ein cymhell i'w fwyta; eithr er fod y gwres yn fawr a'n syched yn enbyd ymatal rhag bwyta a wnaethum. Boddlonwyd ar dynnu y ffrwyth a llwytho ein llogellau; ond nid da pob peth dymunol yr olwg. Wedi cyrraedd yn ol i'r llestr dywedodd un o'r negroaid oedd yn y criw am i ni eu taflu. "Y mae gwenwyn marwol ynddynt," meddai; ac i'r dyfnder y taflasom yr oll.

Wedi taith dros for digon garw cawsom ein hunain yn y Bocas—culfor yn golchi traed creigiau uchel, ysgythrog, a ffurfiai fynedfa i'r Gulf of Paria, i'r hwn y rhed yr afon Orinoco, ac ar lan yr hon y mae tref Port of Spain. Ar yr aswy yr oedd ynys Trinidad, ar y ddehau Deheudir America, ac o'n blaen nifer o ynysoedd bychain. Wrth angor yn y môr hwn tarawsom ar ddeg o longau rhyfel perthynol i'r rhan honno o lynges Prydain a elwir yn Ysgadran Gogledd America, ynghyda ysgadran y gwiblongau. Yr oedd yr olwg arnynt yn urddasol iawn. Chwifiai llumanau oddiar yr Ariadne, o dan lywyddiaeth Syr Archibald Douglas, a'r Good Hope, banerlong o dan lywyddiaeth Syr W. H. Fawkes. Rhodd Deheubarth Africa i Brydain oedd y Good Hope, ac arni yr ymwelodd Mr. Chamberlain â'r wlad honno. Yno hefyd yr oedd y Drake, Kent, Donegal, Berwick, Charybdis, &c. Mordeithient fel cynrychiolwyr y wlad hon ym Mor y Caribbean i ddangos, ni dybygem, ofal y fam wlad am ei thiriogaethau, ac i ddatguddio cryfder yr aden oedd drostynt, yn ogystal a chario allan ymarferiadau mewn undeb a'u gilydd.

Prydferth iawn yw dull llongau o gyfarch eu gilydd, trwy ostwng a chodi y faner. Buom ninnau a'r llongau hyn yn gwneyd hynny i'n gilydd wrth basio.

Yn y môr hwn a'n llong yn aros gwelsom bysgod rhyfedd. Oherwydd fod rhyw bethau yn cael eu taflu allan o gegin y llong daeth haig fawr o bysgod cochion i fyny o'r dyfnder chwilio am fwyd; ac yn sydyn delai pysgodyn mwy i'r golwg a chiliai y cochion gyflymed ag y medrent o'r golwg. A y gwan yn ysglyfaeth i'r cryf, a'r bach i'r mawr, yn y môr ac ar dir. Y mae y "pwff-pwff," pysgodyn a chwytha ar wyneb y dyfroedd fel ager-beiriant, i'w gael tua genau yr Orinoco. Yno hefyd ceir wyau y môr, y rhai a ymddangosant yn debyg i gragenau crwn. Ynddynt gwneir ei gartref gan greadur bach cyfrwys iawn. Pan ymosodir arno, neu pan y cymerir ef i fyny â llaw, gwthia ei waywffyn drwy fur ei gastell; ac y mae ar bwynt pob un o honynt wenwyn marwol. Pa genhadaeth bwysig, tybed, roddodd y Creawdwr doeth i bysgodyn bychan fel hwn, fel y rhoddodd iddo y fath allu i amddiffyn ei hun? Nis gwn, ond rhaid fod iddo le pwysig, neu ni fuasai castell o'r fath yn gartref mor gryf iddo. Yno hefyd y mae y morgi a'r forgath a'r mor-lyffant, creaduriaid mawr, a pherygl mawr fyddai bod yn gymdogion rhy agos iddynt; eithr wrth edrych ar lawer un o breswylwyr y dyfnderau, dywedasom gyda Dafydd-Mor lliosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb; llawn yw y ddaear o'th gyfoeth. Felly y mae y môr mawr, llydan, yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd."

Yn nhref Port of Spain, Trinidad, tarewid ni gan wyneb na welsom mohono o'r blaen yn y gwledydd hyn, sef gwyneb Indiad y dwyrain sydd wedi ei gludo yma i weithio tymor. Ymrwymant i wasanaethu am flynyddoedd penodedig yn y lle am gyflog; a dychwelant yn ol i'w genedigol wlad ar ddiwedd y tymhor a digon o dda y byd hwn gan y mwyafrif o honynt i fyw arno weddill eu hoes. Y mae gwragedd y Coolies hyn yn or-hoff o dlysau, a gwisgant rai yn eu clustiau ac yn eu ffroenau. Triga yr Indiaid hyn mewn pentrefi ar eu pennau eu hunain, ac nid oes ymgyfathrach rhyngddynt â'r Negroaid. Y mae ganddynt eu teml, ac addolant yn ol dull eu bro enedigol.

Yn y dref hon gwelsom y Ty Coch— Senedd-dy y wlad. Yr oedd yn adfeilion ar ol y tân ddilynodd y cynwrf yn Port of Spain ynglŷn â threth y dŵr ym Mawrth, 1903. Gresyn gweled adeilad drudfawr a hardd fel hwn yn gartref i ystlumod; yr unig breswylydd a welsom yn y lle oedd cigfran fawr, ac yr oedd hi yn brysur wrth ysglyfaeth a gawsai yn rhai o heolydd y dref.

Drannoeth, ar ol mordaith yn ystod oriau y tywyllwch gyda glannau Venezuela, wele ni yn Carupano. Gadawsom lythyrau yno; eithr ni laniasom oherwydd fod yr awdurdodau yn gofyn am dal am osod o honom droed ar eu tir. Croeswyd oddiyma i ynys Margarita—hen gynefin i ddarllenwyr gweithiau Kingsley, a glaniwyd yn ymyl tref Por la Mar. Pur gyntefig, a dweyd y lleiaf, oedd golwg pethau yn y fangre hon. Ymddibyna yn llwyr ar y pysgodfeydd perlau yn y môr cyfagos; ac adeilad perchenogion, neu y rhai a ddaliant brydles y bysgodfa, ynghyd ag eglwys, yw y prif adeiladau. Aethom i mewn i'r olaf, a dilynwyd ni yno gan offeiriad pabaidd. Yr oedd yno ffigyrau mewn cwyr o Fair y forwyn, y Gwaredwr, a Ioan y disgybl anwyl. Ni chawsom olwg ar Ioan. Tystiolaeth yr offeiriad yn unig oedd gyda ni o'i fodolaeth yno mewn delw, oherwydd yr oedd o'n golwg mewn cwpwrdd, ac nid oedd gan y gwr Rhufeinig a siaradai iaith Spaen agoriad ar y pryd iddo. Clywsom am Gromwel yn gorchymyn tynnu delwau arian o'r apostolion i lawr mewn rhyw eglwys, ac yna eu toddi, a gwneyd o honynt arian bathol, fel y gallent, megis eu Hathraw, rodio oddiamgylch gan wneuthur daioni; a meddyliasom y byddai y cwyr hwn yn ateb diben cystal pe gwneid canwyllau o hono.

A ni yn troi dros riniog yr eglwys, tynnodd yr offeiriad ei het yn foesgar, a bu yn cyhoeddi rhywbeth uwch in pennau; ac wrth ddal ambell air deallasom mai rhoddi ei fendith arnom yr ydoedd.

Gwelsom y pysgotwyr yn disgyn ac yn esgyn o'r môr, wedi eu hamgylchu gan ddillad ymsoddwyr. Yr oedd degau o fadau hwyliau ar ddarn o fôr, a megin ar fwrdd pob un, er awyru y dillad, a rhoddi modd i'r gwr oedd yn y dyfnder anadlu. Ymguddia y perl mewn cragen. Math o afiechyd ar y pysgodyn ydyw; daw yr haint i mewn a gogonedda yntau ef trwy ei guddio a gwneyd perl o hono. Ar brydiau, ceir perlyn fydd yn werth cannoedd o bunnau; a gellir brydiau eraill godi degau o gragennau heb gael ynddynt yr un perl.

Ar lannau Margarita gwelsom lawer o fflamednod ar eu haden; ac, a'r haul yn gostwng, ymddanghosent fel palmant o dân yn y pellder. Ar fin y môr safai amryw bentrefi perthynol i'r Caribiaid, ac eglur i ni oedd y ffaith fod y rhai a drigent ar yr ynys hon ymhellach yn ol mewn gwareiddiad na'u brodyr ar yr ynysoedd Prydeinig, canys nid oedd eu tai ond plethiad o goed a phridd, a thystiolaethai y badau y tuallan i'w pentrefi eu bod yn byw ar bysgod.

La Guayra, porthladd yn Venezuela, tua thair milltir ar hugain o ddinas fawr Caracas, oedd ein gorsaf nesaf. Darganfyddodd Columbus y wlad hon yn 1498; ac arhosodd yn drefedigaeth o dan lywyddiaeth Spaen hyd 1811, pan yr enillodd ei hanibyniaeth o dan arweiniad Simon Bolivar, yr hwn a elwir yn "Washington Deheubarth America." Gwlad dda odiaeth, a chyfoeth o feteloedd yn ei mynyddoedd, a'i daear yn ddigon bras i dyfu digon o yd i genhedloedd lawer, yw Venezuela; eithr ysgydwir hi yn awr ac yn y man gan ryfeloedd cartrefol a barlysant anturiaethau masnachol. Yr oedd yn iachau ar ol cynhyrfiad a fu yn cochi ei meusydd â gwaed ei meibion pan oeddem ni yno. Y mae yr Arlywydd Castro yn llywodraethwr cryf, ac yn filwr dewr; ac y mae tymor ei weinyddiad gyda'r goreu a welodd y wlad erioed.

Cysylltir La Guayra a Characcas gan reilffordd a osodwyd gan gwmni o Saeson; ac y mae yn un o ryfeddodau peirianyddol y byd. Cyfyd o'r môr i fryn, ac o fryn i fynydd, ar y raddfa o un droedfedd mewn wyth ar hugain, nes cyrraedd brig y mynyddoedd, ac yna disgynna at y brif ddinas.

Ar yr aswy i La Guayra saif pentref. Macuto, lle yr a y gwladwyr am newid awyr. Gwelsom Castro, yr arlywydd, ar ei ffordd yno i dreulio y Sabboth. Cyrhaeddodd yn nhren hwyr y Sadwrn, a rhuodd magnelau yr amddiffynfeydd uwchben y dref, ac un o longau rhyfel ei wlad, mewn un ergyd ar hugain, groesaw iddo.

Yr oedd y trefwyr yn dra defosiynol o doriad gwawr dydd yr Arglwydd hyd ddeg o'r gloch. Canai clych yr eglwysi droion yn ystod yr oriau, ac elai y tyrfaoedd i gyfaddef eu pechodau yn ol dull y Pabyddion; ond wedi hynny darfu holl. arwyddion Sabboth. Yr oedd ymladdfa deirw i gymeryd lle yn Caraccas; a bu llawer o ymladdfeydd ceiliogod yn y dref lle yr arhosem ni.

Lle cynnes iawn oedd y porthladd hwn, a theimlem yn wywedig hyd nes y delai awel iach o'r môr rai oriau wedi i'r haul godi. Delai a meddyginiaeth yn ei hesgyll bob bore, ac wrth deimlo ei balm dywedai y morwyr—"Y mae'r meddyg yn dod." Gostyngai y gwynt cyn canol nos, ac ymwelai drachefn â ni fel hyn yn y bore, ac adfywiai ni yn rhyfeddol. Ar ein ffordd oddiyma cawsom gwmni nifer o brif ddynion llywodraeth Venezuela. Yr oeddynt yn myned i agor doc newydd ar yr afon Orinoco. Deuent mor bell a Charupano, ac oddiyno i ben eu siwrne yr oedd ganddynt daith o ugeiniau o filltiroedd, a bwriadent ei gwneyd ar droed ac ar geffylau. Ymysg y teithwyr hyn tarawsom ar y Cadfridog Dusharme— arweinydd y chwyldroad diweddaf yn Venezuela. Dyn byrr o gorffolaeth ydoedd, a llygad go fawr ganddo. Cawsom rywsut o hyd i ben y llinyn, ac er ei fod yn rhy ddirodres i siarad am dano ei hun, cawsom dipyn o'i hanes. Gwelodd amser enbyd wrth arwain yn y gwrthryfel. Bu yn y cyfrwy ar daith o dair mil o filltiroedd. Saethwyd ei geffyl o dano. Bu yn cuddio mewn hesg ar ymyl llyn, ac estynnai Indiad fwyd iddo ar ben corsen bamboo. Disgleiriai ei lygad wrth son am ei wlad a'i gobeithion, ac amlwg oedd ei fod yn ei charu yn angerddol, ac yn barod i aberthu popeth er ei mwyn. Ysgydwasom law yn wresog wrth ffarwelio drannoeth; ac yn ol dull y tramoriaid hyn, tynasom ein hetiau i'n gilydd.

Dydd Sadwrn, Ionawr 16eg, yr oeddem yn ol yn Barbados, a threuliasom ran o dri diwrnod ar y tir, ac nid cynt yr aethom i'r lan nag y gwelsom fod rhywbeth allan o'r cynefin yn bywiocau y lle. Yr oedd bechgyn Trinidad a Demerara yn cyfarfod yn y lle i chware criced, ac ar ddyddiau yr ornest yr oedd y masnachdai o ben i ben i dref Bridgetown yn gauedig am rai oriau bob dydd. Dyma rai o'r pethau sydd yn clymu y Trefedigaethau Prydeinig wrth eu gilydd y tu draw i'r moroedd.