Trwy droeau'r byd, a'i wên a'i wg
Gwedd
← O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth | Yn Nuw yn unig mae i gyd gan Edmwnd Prys |
Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
55[1] Duw yn Cynnal a Diddanu.
M. S.
1.TRWY droeau'r byd, a'i wên a'i wg,
Bid da, bid drwg y tybier,
Llaw Dduw sy'n troi'r cwmpasgylch glân
Yn wiwlan, er na weler.
2.Fe weryd wirion yn y frawd
Rhag enllib tafawd atgas;
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.
3.Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.
4.Pa raid ychwaneg? Gwnelwyf hyn :
Gosteged gwŷn a balchder;
Ac arnat, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.
Samuel Collet, cyf. Goronwy Owen
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 55, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930