Neidio i'r cynnwys

O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth

Oddi ar Wicidestun
O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth

gan Edmwnd Prys

Yn Nuw yn unig mae i gyd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

53[1] SALM VIII. 1, 3, 4, 5, 6, 9.
M.S.

1.O! ARGLWYDD, ein Iôr ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd!
Dy enw a'th barch a roist uwchben
Daear ac ŵybren hefyd.

2.Wrth edrych ar y nefoedd faith,
A gweled gwaith dy fysedd,
Y lloer, y sêr, a threfn y rhod,
A'u gosod mor gyfannedd,

3.Pa beth yw dyn it i'w goffáu,
O ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mab dyn yr un wedd,
Lle rhoi ymgeledd cymaint?

4.Ti wnaethost ddyn o faint a phris
Ychydig is angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch a nerth,
Rhoist arno brydferth goron.

5.Ar waith dy ddwylaw is y nef
Y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod popeth dan ei draed,
Iddo y gwnaed llywodraeth.


6.O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd!
Dy enw a'th barch a roist uwchben
Daear ac wybren hefyd.

Edmwnd Prys

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 53, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930