Yn Nuw yn unig mae i gyd
Gwedd
← O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth | Yn Nuw yn unig mae i gyd gan Edmwnd Prys |
Trwy droeau'r byd, a'i wên a'i wg → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
54[1] SALM LXII. 7, 8, 11, 12.
M. S.
1.YN Nuw yn unig mae i gyd
Fy iechyd a'm gogoniant:
Fy nghraig yw, a'm cadernid maith,
A'm gobaith yn ddilysiant.
2.Gobeithiwch ynddo, ger ei fron
Tywelltwch galon berffaith;
Ac ymddiriedwch tra foch byw,
A dwedwch, Duw yw'n gobaith.
3.Duw a lefarodd hyn un waith,
Mi glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
Gostyngiad byd, neu ffynnu.
4.O! Arglwydd, hefyd Ti a fedd
Drugaredd a daioni;
I bawb dan gwmpas ŵybren faith
Yn ôl ei waith y teli.
Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 54, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930