Neidio i'r cynnwys

O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt

Oddi ar Wicidestun
← Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt

gan Isaac Watts


wedi'i gyfieithu gan William Owen Evans
O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

RNLI Abermaw

52[1] Duw yn Nodded.
M. C.

1.O! DDUW, ein nerth mewn oesoedd gynt,
Ein gobaith wyt o hyd;
Ein lloches rhag ystormus wynt,
A'n bythol gartref clyd.

2.Dan gysgod dy orseddfainc Di
Cawn drigo'n dawel byth;
Digonol yw dy fraich i ni;
Fe'n ceidw yn ddi-lyth.

3.Cyn trefnu'r bryniau uwch y lli,
Cyn llunio llwch y byd,
O dragwyddoldeb Duw wyt Ti,
Parhei yr un o hyd.

4.Yn d'olwg Di daw oesoedd maith
Fel hwyrddydd byr i ben;
Fel gwyliadwriaeth nos mae'u taith,
Cyn codi haul y nen.

5.Mae prysur lwythau'n daear ni,
A'u llafur oll ynghyd,
Yn myned heibio gyda'r lli
I fôr tragwyddol fyd.


6.Dwg amser, fel llifeiriant cry',
Ei blant i gyd i lawr;
Ehedant ymaith fel y ffy
Y breuddwyd gyda'r wawr.

6.O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd fu,
Ein gobaith am a ddaw,
Bydd inni yma'n noddfa gu,
A chartref bythol draw.


Isaac Watts, cyf. William Owen Evans

Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 52, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930