Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw
Gwedd
← Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr | Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw gan William Williams, Pantycelyn |
O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
51[1] Duw yn Noddfa a Nerth.
M. C.
1.MEWN cyfyngderau bydd yn Dduw,
Nid wyf ond gwyw a gwan;
Nid oes ond gallu mawr y nen
A ddeil fy mhen i'r lan.
2.Ni fedda' i mewn nac o'r tu maes
Ond nerthol ras y Nef
Yn erbyn pob tymhestloedd llym,
A'r storom gadarn gref.
3.Cysurwch fi, afonydd pur,
Rhedegog ddyfroedd byw,
Sy'n tarddu o dan riniog cu
Sancteiddiaf dŷ fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 51, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930