Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr

Oddi ar Wicidestun
Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr

gan William Cowper


wedi'i gyfieithu gan Lewis Edwards
Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

50[1] Dirgelion Rhagluniaeth
M. C.

1.TRWY ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn ei waith i ben;
Ei lwybrau Ef sydd yn y môr,
Marchoga wynt y nen.

2.Ynghudd mewn dwfn fwngloddiau pur
Doethineb wir ddi-wall,
Trysori mae fwriadau clir—
Cyflawnir hwy'n ddi-ball.

3.Y saint un niwed byth ni chânt,
Cymylau dua'r nen
Sy'n llawn trugaredd, glawio wnânt
Fendithion ar eu pen.

4.Na farna Dduw â'th reswm noeth,
Cred ei addewid rad;
Tu cefn i len rhagluniaeth ddoeth
Mae'n cuddio ŵyneb Tad.

5.Bwriadau dyfnion arfaeth gras
Ar fyr aeddfeda'n llawn:
Gall fod y blodau'n chwerw eu blas,
Ond melys fydd y grawn.

6.Ond gŵyro mae dychymyg dyn,
Heb gymorth dwyfol ffydd;
Gadawn i Dduw ei 'sbonio'i Hun—
Efe dry'r nos yn ddydd.

William Cowper, cyf. Lewis Edwards

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 50, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930