Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan

Oddi ar Wicidestun
Mae tywyll anial nos Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan

gan William Williams, Pantycelyn

Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

49[1] Cariad Duw.
M. C.

1.TYDI, fy Arglwydd, yw fy rhan,
A doed y drygau ddêl;
Ac er bygythion uffern fawr,
Dy gariad sydd dan sêl.

2.Oddi wrthyt rhed, fel afon faith,
Fy nghysur yn ddi-drai;
O hwyr i fore, fyth yn gylch,
Dy gariad sy'n parhau.

3.Uwch pob rhyw gariad is y nef
Yw cariad pur fy Nuw;
Anfeidrol foroedd dyfnion maith,
Heb fesur arno yw.

4.Dechreuodd draw cyn creu y byd, bro
Fe bery byth ymlaen,
Heb un cyfnewid, a heb drai,
Pan elo'r byd yn dân.

5.O! dewch a gwelwch chwiliwch ef,
Anfeidrol gariad mawr,
Ag sydd yn maddau miloedd myrdd
O feiau yn yr awr.

6.Mae'n para'n ffyddlon byth heb drai,
Ffordd bynnag try y byd,
A phe cymysgai tir a môr
Yr un yw 'Nuw o hyd.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 49, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930