Trwy ffydd eheda gweddi'r gwael
Gwedd
← Ar fôr tymhestlog teithio 'rwyf | Trwy ffydd eheda gweddi'r gwael gan Richard Jones o'r Wern |
Dywedwyd ganwaith na chawn fyw → |
468[1] Gorchestion Ffydd.
M. C.
1 TRWY ffydd eheda gweddi'r gwael,
Ac yntau gyda hi ;
Tyr ei gadwynau'n chwilfriw mân
Yng ngolwg Calfari.
2 O'r dyfnder esgyn gweddi'r ffydd,
O eigion moroedd mawr;
Ac o gyfamod Duw a'i wedd,
Mae'n tynnu hedd i lawr.
3 Trwy ffydd mae'n cadw 'nghanol tân.
Er nerth ei anian ef;
Yng nghanol llewod, byw mae ffydd,
A'i golwg tua'r nef.
4 Saif ffydd, trwy iechydwriaeth Iôr,
Er gweled môr yn cau ;
A ffydd, â'i gwialen, gair y llw,
A rwyga hwnnw'n ddau.
5 Ped âi'r mynyddoedd oll i'r môr,
Yr Arglwydd Iôr yw rhan
Pob perchen ffydd, ac ato rhed.
Am nodded ym mhob man.
6 I'r lan, o'r dyfnder du a'r don,
Daw etifeddion ffydd,
A'u cân yn un, er chwerw loes,
Am angau'r groes ryw ddydd.
—Richard Jones o'r Wern
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 468, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930