Dywedwyd ganwaith na chawn fyw

Oddi ar Wicidestun
Trwy ffydd eheda gweddi'r gwael Dywedwyd ganwaith na chawn fyw

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Mae addewidion melys wledd
Pedr Fardd

469[1] Yr Afael Sicraf Fry.
M. C.

1 DYWEDWYD ganwaith na chawn fyw
Gan agnhrediniaeth hy;
Ond ymddiriedaf yn fy Nuw:
Mae'r afael sicraf fry.

2 Cyfamod Duw a'i arfaeth gref
Yn gadarn sydd o'm tu;
Anghyfnewidiol ydyw Ef:
Mae'r afael sicraf fry.

3 Er beiau mawrion, rif y dail,
A grym euogrwydd du,
Iawn ac eiriolaeth Crist yw'r sail :
Mae'r afael sicraf fry.


4 Rhagluniaeth fawr y nef o'm plaid,
Ei holl olwynion try;
Agorai'r môr, pe byddai raid:
Mae'r afael sicraf fry.

5 Caf floeddio concwest yn y man,
Pob gelyn draw a ffy;
Cans er nad ydwyf fi ond gwan,
Mae'r afael sicraf fry.

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 469, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930