Mae addewidion melys wledd

Oddi ar Wicidestun
Dywedwyd ganwaith na chawn fyw Mae addewidion melys wledd

gan T J Pritchard (Glandyfi)

Mi glywais lais yr Iesu'n dweud
Frans Floris-Gwledd fawr

470[1] Disgwyl wrth yr Arglwydd.
M. C.

1 MAE addewidion melys wledd,
Yn gyflawn ac yn rhad,
Yn dy gyfamod pur o hedd,
Tragwyddol ei barhad.

2 'R wyf innau yn dymuno dod
I'r wledd ddanteithiol fras;
Ac felly mi gaf seinio clod
Am ryfedd rym dy ras.

3 O! rhwyma fi wrth byst dy byrth,
I aros tra fwyf byw,
I edrych ar dy wedd a'th wyrth,
A'th foli Di, fy Nuw.

4 Tydi fo 'nghymorth parod iawn,
I'm cynnal ar fy nhaith;
A Thi dy Hun fo 'nhrysor llawn
I dragwyddoldeb maith.

—T J Pritchard (Glandyfi)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 470, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930