Mi glywais lais yr Iesu'n dweud

Oddi ar Wicidestun
Mae addewidion melys wledd Mi glywais lais yr Iesu'n dweud

gan Horatius Bonar


wedi'i gyfieithu gan Awduron anhysbys
Y sawl ni rodia, dedwydd yw

471[1] Llais yr Iesu.
M. C. D.

MI glywais lais yr Iesu'n dweud,
Tyrd ataf Fi yn awr,
Flinderog un, cei ar fy mron
Roi pwys dy ben i lawr."

Mi ddeuthum at yr Iesu cu,
Yn llwythog, dan fy nghlwyf ;
Gorffwysfa gefais ynddo Ef,
A dedwydd, dedwydd wyf.

2 Mi glywais lais yr Iesu'n dweud,
"Mae gennyf Fi'n ddi-drai
Y dyfroedd byw; sychedig un,
O'u hyfed byw a gai."
At Iesu deuthum; yfais i
O'r afon fywiol gref;
Fe dorrwyd syched f'enaid oll,
A byw wyf ynddo Ef.

3 Mi glywais lais yr Iesu'n dweud,
"Goleuni'r byd wyf Fi;
Tro arnaf d'olwg, tyr y wawr,
A dydd a fydd i ti."
At Iesu edrychais; ces fy Haul
A'm Seren ynddo Ef;
Ac yn ei olau rhodio wnaf
Nes cyrraedd draw i dref.

Horatius Bonar cyf Awduron anhysbys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 471, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930