Y sawl ni rodia, dedwydd yw

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Y sawl ni rodia, dedwydd yw yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)

Y sawl ni rodia, dedwydd yw,
Yn ôl drwg ystryw gyngor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffôl,
Nid eiste'n stôl y gwatwor.


Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd
Ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf rhydd, ddydd a nos
Yn ddiddos ei fyfyrdod.


Fel pren planedig ar lan dôl
Ceir ffrwyth amserol arno;
Ni chrina'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda'n berffaith iddo.