Yr Arglwydd yw fy Mugail clau

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Yr Arglwydd yw fy Mugail clau yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Yr Arglwydd yw fy Mugail clau,
Ni ad byth eisiau arnaf;
Mi gaf orwedd mewn porfa fras,
Ar lan dwfr gloewlas araf.


Fe goledd f'enaid, ac a'm dwg
Rhyd llwybrau diddrwg, cyfiawn,
Er mwyn ei enw mawr dilys
Fe'm tywys ar yr uniawn.


Pe rhodiwn, nid ofnwn am hyn,
Yn nyffryn cysgod angau;
Wyt gyda mi, â'th nerth a'th ffon;
Ond tirion ydyw'r arfau ?


Gosodaist ti fy mwrdd yn fras,
Lle'r oedd fy nghâs yn gweled;
Olew i'm pen, a chwpan llawn,
Daionus iawn fu'r weithred.


O'th nawdd y daw y doniau hyn
I'm canlyn byth yn hylwydd;
A minnau a breswyliaf byth,
A'm nyth yn nhŷ yr Arglwydd.