am yr eglwys hon eto, un o'r rhai ydyw, y bwriedid ei hadeiladu mewn man arall, ond rhag-rybuddiwyd yr adeiladwyr trwy freuddwydion a gweledigaethau nad hono oedd y llanerch gysegredig. Wedi hyny detholwyd lle arall, ond eilwaith daeth yr anweledigion i ymyryd ac i benderfynu ar y fan a'r lle yr oedd eglwys y seintiau Mael a Sulien i gael ei hadeiladu. Mi gredaf pe buasai yr ymyrwyr "ysbrydol" wedi dewis rhyw lanerch tua haner milldir o'r dref na fuasai y Corweniaid fymryn dicach wrthynt, oblegid nid rhywbeth dymunol iawn ydyw cael mynwent ar eich gwynt bob amser; y mae digon o bethau yn mywyd dyn i'w adgoffa am ei fedd heb weled cerig beddau y peth olaf yn y nos a'r peth cyntaf yn y boreu.
Ni fu'm erioed yn credu mewn ysbrydion, ond fe'm dychrynwyd yn fawr un tro yn mynwent Corwen. Yr oeddwn yn cysgu yn ngwesty Owen Glyndwr, un o'r gwestai mwyaf cartrefol a chyfforddus yn Nghymru. Gwynebai fy ystafell—wely ar y fynwent. Pan aethum i'm gwely yr oedd yn dywyll fel y fagddu. Cysgais yn fuan, ond deffroais yn sydyn, ac wele yr oedd mor oleu o'r bron a haner dydd. Neidiais o'm gorweddfa yn ddychrynedig, gan feddwl fy mod wedi cysgu yn rhy hir, ac y dylaswn fod er's meityn ar y ffordd i Bentrefoelas. Aethum at y ffenestr. Yr oedd y cerig beddau i'w gweled wrth yr ugeiniau, ac o'r bron y gallwn ddarllen y cerfiadau arnynt. Ond och! beth ydyw y peth gwyn sydd yn symud rhwng y ddwy gistfaen acw, a'r un fynud tarodd y cloc un o'r gloch, a'r un eiliad dyma dri o'r bodau gwynion yn symud yn nghyfeiriad yr ysbryd cyntaf. Sefais yn syn, gan ddisgwyl mai y peth nesaf a glywn fyddai'r "udgorn diweddaf." Ond wele; pan ddaeth yr "ysbrydion" yn ddigon agos ataf, gwelwn mai pedair o ddefaid diniwed oeddynt, wedi cael y fraint o ddyfod i bori ar frasder y plwyf. Pe buaswn wedi neidio yn ol i'm gwely yn ddychrynedig, buaswn wedi credu fy mod wedi gwel'd drychiolaethau, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyna