fuaswn yn wneyd y mynudau hyn fuasai ysgrifenu am y pedwar ysbryd gwyn a welais yn hen fynwent Corwen.
Fe ddangosir i chwi yn y fynwent, ar rai o'r beddfeini gorweddog, dyllau yn y rhai y penliniai y rhai a ddeuai i weddio ar y seintiau am i ysbrydoedd y perthynasau oedd yn gorwedd islaw gael gollyngdod o'r purdan. Ni oddefai y saint i'r penlinwyr fyn'd a chlustog esmwyth, fel welir yn eglwysydd a chapeli yr oes hon. Rhai geirwon iawn fyddai rhai o'r seintiau fyddai yn eiriol dros eneidiau y purdan.
Y bryn crwn acw, a welwch chwi yn nghyfeiriad Dyffryn Clwyd, ydyw Caer Drewyn, hen gaerfa Brydeinig, ac olion amlwg i'w gweled hyd y dydd heddyw. Bu y gaerfa hon yn lled debyg yn noddfa oesoedd cyn i Owen Gwynedd ymladd byddin Harri yr Ail, a chyn i Owen Glyndwr ymladd â byddinoedd y Saeson yn nheyrnasiad Harri'r Pedwerydd. Nid oes dref yn Nghymru o'i maint wedi cymeryd camrau brasach gyda'r oes nag y mae Corwen yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae'r adeiladau bychain tlodaidd wedi gwneyd lle i adeiladau nad oes eu gwell yn Meirion, —capelau heirdd perthynol i bob enwad ag sydd yn addurn i'r dref, ac adeiladau masnachol nad oes eisieu eu gwell. Cyn i'r march tân ddyfod i aflonyddu ar froydd tawel a phrydferth dyffrynoedd Edeyrnion a Llangollen, yr oedd Corwen y pryd hyny yn dref fywiog, yr oedd fel rhyw junction i ffyrdd y Bala a Cherigydrudion. Gwelais lawer tro ddwsiniau o droliau glo ar eu ffordd i lofeydd Rhiwabon, yn un rhes yn cyrhaedd o hen westy yr " Harp" i waelod y dref. Cychwynai y troliau o'r gwahanol ardaloedd ar ol i'r cloc daro haner nos, felly fe safid talu y "tyrpec" fwy nag unwaith o fewn y pedair awr ar hugain. Llawer tro y clywais droliau ardaloedd Penllyn yn trystio ar heol y Bala ar ol i hen gloc y dref gyhoeddi fod un diwrnod eto i gael ei gyfrif yn mhlith y pethau a fu. Hen westy o'r iawn sort oedd yr "Harp," a llawer gwaith y bu'm yn