oedd yn perthyn iddi wedi adfeilio, ac wn i ddim a oes rhywun yn Llanfor yn awr a fedrai ddyweyd hanes yr hen eglwys. Fe wyddai Charles y Clochydd er's llawer dydd hanes yr eglwys o'r dydd yr adeiladwyd hi, a gallai ddangos i chwi feddrodau pob gwron a gladdwyd yn y fynwent neu yn muriau yr eglwys er's amser Llywarch Hen, yr hwn a gladdwyd,—os nad wyf yn camgymeryd, yn y mur yn mhen dwyreiniol yr eglwys. Ond gadawn i lwch Llywarch a'i gydoeswyr orwedd yn dawel.
Fe'n temtir cyn canu yn iach i eglwys Llanfor adrodd hanesyn bychan am ddigwyddiad a gymerodd le yn agos i ddeugain mlynedd yn ol yn yr hen eglwys. Yr oedd dau fachgen, tua thair ar ddeg oed, yn perthyn i Gapel Mawr y Bala, oedd yn nodedig am eu direidi diniwed. Un prydnawn Sabboth yr oedd Thomas Roberts, Ysbyty, "caplan" Dafydd Rolant, yn pregethu yn anedd—dy Careg y Big, lle y soniais am dano yn fy ysgrif yn y benod o'r blaen. Ar ol y bregeth troisant tua thre'; pan yn pasio Eglwys Llanfor yr oedd Charles. y Clochydd wrthi yn canu y gloch i alw y plwyfolion, yn enwedig disgyblion torthau Mrs. Price y Rhiwlas,—mam yr ysgweiar presenol,—i'r gwasanaeth prydnawnol. Nid oedd yr un o'r ddau wedi bod erioed mewn gwasanaeth eglwysig ar y Sabboth, efallai mai dyma yr achos eu bod mor ddireidus. Wel, i'r eglwys yr aethont, a danghoswyd y ddau Fethodus ieuanc i'r sedd agosaf i'r pwlpud, yr hon oedd, fel pob un arall oddifewn i'r adeilad, wedi gweled dyddiau gwell. Pe buasai arch Noah wedi sefyll ar ben Moel Emoel neu yr Aran yn lle ar ben mynydd Ararat, buasem yn barod i sicrhau mai coed yr arch oedd defnydd y seddau. Wel, nid oedd disgwyl cael sedd gyfforddus; ond buasai pobpeth yn dda, pe dai ond am y ffaith mai bob tro y symudai un o'r ddau fachgenyn fe roddai y sedd wich ruddfanllyd, yr hyn a barai i'r ddau Fethodus wenu, a gwaeth na hyny, chwerthin, ar yr hyn yr edrychai yr hen Reithor Griffiths, coffa da am dano,—yn lled wgus. Parhaodd